Goroeswyr Hillsborough am wneud 'siantio trasiedi' yn drosedd benodol

Mae ymgyrch 'End Tragedy Chanting Now' yn ceisio codi ymwybyddiaeth am effaith negyddol y siantio
- Cyhoeddwyd
Mae dau o oroeswyr trychineb Hillsborough yn galw am wneud mwy i ddelio â siantio trasiedi (tragedy chanting) mewn gemau pêl-droed.
Mae siantiau trasiedi yn eiriau sarhaus sy'n cael eu llafarganu gan gefnogwyr pêl-droed er mwyn lladd ar eu gwrthwynebwyr - maen nhw'n cyfeirio at drasiedi neu at ddigwyddiad difrifol yn y gorffennol.
Dair wythnos yn ôl, lansiodd Scott Hartley, o Lerpwl yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghymru, ymgyrch End Tragedy Chanting Now er mwyn codi ymwybyddiaeth.
Mae hefyd am i siantio o'r fath fod yn drosedd benodol.
Llywodraeth y DU sy'n deddfu ar faterion fel hyn a dywedodd llefarydd: "Rydym yn glir nad oes lle i siantio trasiedi mewn gemau pêl-droed nac yn ein cymdeithas.
"Mae Deddf Trefn Cyhoeddus yn erlyn y rhai sy'n ymddwyn yn warthus."

Roedd Scott Harley yn 15 oed adeg trychineb Hillsborough
15 oed oedd Scott ar ddiwrnod y gêm yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Sheffield a arweiniodd at y trychineb waethaf erioed yn hanes chwaraeon Prydain.
Dywedodd nad yw'n gallu mynd i stadiymau i wylio pêl-droed bellach, a'i fod wedi treulio cyfnod yn camddefnyddio cyffuriau er mwyn "ymdopi".
Fe gafodd help gan Gymdeithas Cefnogi Goroeswyr Hillsborough (HSA), grŵp sydd wedi achub ei fywyd, meddai.
"Alla i gofio fy ngalwad ffon gynta' hefo Cymdeithas Cefnogi Goroeswyr Hillsborough ar ddydd Sul, tua dwy flynedd yn ôl," meddai Scott.
Roedd Scott wedi anfon neges atynt "yn dweud fy mod i'n barod i siarad ar ôl yr holl flynyddoedd hyn".
"Roeddwn i'n gwybod, pe na bawn i wedi estyn allan y diwrnod hwnnw, na fyddwn i wedi cyrraedd bore Llun."
Mwy o gwynion
Dywed adroddiad Kick It Out, dolen allanol, y sefydliad sy'n ymdrechu i wrthwynebu gwahaniaethu o bob math mewn pêl-droed, eu bod wedi derbyn y nifer uchaf erioed o gwynion am ymddygiad gwahaniaethol mewn gemau ac ar-lein yn 2023/24.
Ar lefel broffesiynol, roedd cynnydd o 47% o gwynion yn y categori sy'n cynnwys siantio trasiedi.
Wrth gyfeirio at y siantio dywedodd Scott: "Nid yw'n gwneud amgylchedd y gamp yn well, nac yn gwella'r gymuned, ein teulu na phêl-droed yn gyffredinol. Mae'n bychanu y rheini a gafodd – ac sy'n dal i gael – eu heffeithio'n ddwfn gan y trasiedïau."
Mewn cydweithrediad â'r HSA, cychwynnodd Scott y ddeiseb yn galw am newid y gyfraith dair wythnos yn ôl, ac ar ôl rhai diwrnodau roedd 1,000 wedi ei llofnodi.
Mae'r ymgyrch yn berthnasol i bawb ond "mwyaf oll, i'r goroeswyr sydd ddim digon dewr i siarad".

Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth Scott Hartley ymweld â'r cae lle digwyddodd trychineb Hillsborough am y tro cyntaf ers y digwyddiad
Mae Cymro arall oedd yn Hillsborough ar y diwrnod yn 1989, Gareth Hayes o Gei Connah, yn cefnogi'r alwad ac yn disgrifio'r ymgyrch fel un "angenrheidiol".
Roedd Gareth yn rhan o'r grŵp cefnogi wnaeth helpu Scott pan aeth at yr HSA am y tro cyntaf.
"Mae'n gyfle gwirioneddol i rywun mewn awdurdod sefyll fyny a dweud na," meddai.
Ar 11 Mai eleni, bydd hi'n 40 mlynedd ers digwyddiad yn stadiwm Bradford City, a laddodd 56 o wylwyr ac anafu o leiaf 265.
Mae Gareth yn pryderu sut bydd rhai yn ymateb i ben-blwydd y digwyddiad.
"Yn ddi-os, bydd pobl ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn gemau yn gwneud hwyl am ben hyn. Nid yw'n ddewr nac yn glyfar."
Sefydlu tîm newydd - CPD Undod Cryfder
Mae Scott bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn y broses o sefydlu tîm pêl-droed o'r enw CPD Undod Cryfder.
Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r enw yw slogan HSA, ac mae crysau'r tîm wedi eu noddi gan yr ymgyrch.

Mae crysau tîm pêl-droed newydd CPD Undod Cryfder, sydd wedi'i sefydlu gan Scott, wedi cael eu noddi gan yr ymgyrch
Wrth fyw yng Nghaerdydd a hyfforddi tîm ieuenctid, mae'n dweud ei fod wedi gweld sut mae chwaraeon yn rhan annatod o gymunedau Cymreig – ac yn credu y gallai'r wlad arwain y ffordd drwy wahardd siantio trasiedi.
Dywedodd ei fod yn teimlo cyfrifoldeb i osod esiampl i bobl ifanc: "Dwi ddim eisiau i'r genhedlaeth ifanc dyfu fyny yn clywed hyn mewn gemau pêl-droed ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'n flaenoriaeth ac yn ddyletswydd i mi yrru neges i'r plant sy'n chwarae i CPD Undod Cryfder.
"Dwi ddim eisiau i'n plant dyfu fyny yn meddwl bod hyn yn rhan o'r gêm."
Angen cydweithio rhwng clybiau
Ym mis Mawrth ymrwymodd dros 50 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddweud y gwir yn dilyn unrhyw drychineb yn y dyfodol.
Dywedodd Scott bod yr adduned yn "gam pwysig" ond bod materion fel siantio trasiedi angen sylw ar frys.
"Mae siantio trasiedi ar gynnydd - dwi angen clybiau i gydweithio hefo fi er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddifrifoldeb y weithred o ganu am drychineb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019