Beth yw brithweithio?
Bore da! Teilsio'r llawr?
A pha deils wyt ti wedi eu dewis? Sgwâr. Dyna syrpreis!
A, thrwy roi sgwariau ochr yn ochr fel yna rwyt ti'n creu patrwm.
Rydyn ni'n galw hynny'n frithweithio.
A nawr patrwm wedi ei wneud o drionglau. Pwy feddyliai?
I frithweithio rhaid cael y siapiau i ffitio gyda'i gilydd yn union heb unrhyw fylchau.
Dw i ddim yn hoffi sôn ond…beth am y bylchau yna o dan y llinellau?
Trionglau ben i waered, gwych! Brithweithio bendigedig!
Mae cylch yn wahanol.
Dyw cylchoedd ddim yn brithweithio'n iawn achos eu siâp a bydd yna fylchau yno o hyd.
Ond pwy yw'r siâp bach hoffus hwn?
Mae'n ffitio!
Mae brithwaith sy'n defnyddio dau siâp fel hyn yn cael ei alw'n frithwaith afreolaidd.
Ond mae'n frithwaith hyfryd serch hynny!
O, on'd yw e'n giwt!
More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count13 of 13
- count1 of 13
- count2 of 13
- count3 of 13