Disgrifio aelodau’r teulu
BETHAN Waw! Mae’r selsig yma’n boeth iawn!
ANNA W! Dw i ddim yn hoffi selsig poeth iawn, ond mae brawd
gyda fi – Alesky. Mae e’n hoffi bwyta selsig poeth iawn!
Fe yw’r gorau am fwyta selsig poeth iawn!
Oes brawd gyda ti?
BETHAN Nac oes. Does gen i ddim brawd, ond mae gen i chwaer,Elin.
Mae Elin yn hoffi nofio. Mae Elin wedi ennill medal aur.
ANNA Mae dad yn hoffi nofio hefyd, a rhedeg.
Mae dad wedi rhedeg i ben yr Wyddfa.
BETHAN Beth yw enw dy dad?
ANNA Wil. Beth yw enw dy dad?
BETHAN Bedwyr. Mae dad yn chwarae pêl-droed.
Mae dad yn chwarae pêl-droed dros Gymru!
ANNA Mae mamgu yn casáu pêl-droed.
BETHAN Mamgu?
ANNA Nain.
BETHAN O, ie.
Beth yw enw dy famgu?
ANNA Glenys. Mae mamgu yn mwynhau coginio!
BETHAN Ydy hi’n coginio selsig poeth iawn i Alesky?
ANNA Ydy! Mae hi’n coginio selsig poeth iawn i Alesky!
O! Beth sy’n digwydd?
BETHAN Wn i ddim!
BETHAN/ANNA Gel?!
BETHAN Beth wyt ti’n wneud?
Hei, Gel yw’r gorau am fwyta selsig poeth iawn rŵan!
Ble nesaf?
Losin yn canu
Teimladau

Cyfarfod ffrindiau yn y siop trin gwallt
Cyfarchion

Mwy o fideos Cymraeg
Cyfnod Sylfaen
