JOSEFF
‘Ar ôl ymweld â Pharc Mawr Waa dros y gwyliau, teimlaf fod yn rhaid i mi rannu fy marn â’r byd.’
‘Roedd cyrraedd y parc yn hunllefus. A doedd gan y wefan ddim cyngor ar sut i ymdopi â…’
Na. Dyw hynny ddim yn deg. Nid y parc oedd yn gyfrifol am y bws, siŵr iawn.
‘Cawsom ein siomi gan y ffaith nad oedd ‘stafelloedd ymolchi yn agos at yr ardaloedd ciwio. Yn enwedig gan fod ambell un o’r criw’n teimlo’n… simsan.’
‘Ar y llaw arall, roedd y staff yn barod iawn eu cymorth. Ac i fod yn berffaith onest… doedden ni ddim wedi cyrraedd y parc eto.’
‘Y reid roedden ni’n edrych ymlaen ati fwyaf oedd y Tŷ Mawr Sgrech.’
‘Cafodd ei disgrifio ar wefan y parc fel “Trip un-ffordd i ddyfnderoedd arswyd.” Be’ well ar ddiwrnod heulog o haf? Yn anffodus, roedd un darn hollbwysig o wybodaeth ar goll. Roedden ni’n rhy ifanc.’
‘Credaf yn gryf y dylai’r parc gynnwys unrhyw wybodaeth angenrheidiol am gyfyngiadau oedran ar eu gwefan yn y dyfodol.’
‘Er hynny, ni amharodd hyn ar ein profiad. Ryw lawer.’
‘Wrth sôn am y parc, heb os nac oni bai, mae’n rhaid crybwyll y reid orau ar wyneb y ddaear. Rhywbeth y mae’n rhaid i bawb ei brofi.’
‘Cyn cychwyn, roedd fy ffrind Rhodri o’r farn fod y reid yn “edrych fel chwip o beth”. Cytunodd Erin, gan ychwanegu ei bod “hyd yn oed yn well na hufen iâ.” A Mali…?’
‘Roedd ei phrofiad hithau’n “ddigon derbyniol” wedi’r cwbl.’
‘Gobeithiaf yn fawr y bydd fy marn a’m cyngor o fudd i chi wrth ymweld â Pharc Mawr Waa. Roedd y profiad… yn fythgofiadwy.’
‘Cyn belled â bod gennych chi’r cwmni iawn.’
More on Darllen
Find out more by working through a topic
- count3 of 7
- count4 of 7
- count5 of 7
- count6 of 7