Trafod teimladau yn y sinema
ELIN Sut wyt ti heddiw?
RAV Dw i’n gyffrous achos dw i’n edrych ymlaen i weld y ffilm. Sut wyt ti?
ELIN Dw i’n gyffrous hefyd!
RAV Pryd mae’r ffilm yn dechrau?
ELIN Ar ôl yr hysbysebion.
RAV Dw i’n casáu hysbysebion. Maen nhw’n ddiflas.
ELIN Byddan nhw ddim yn hir. Beth yw’r ffilm yma?
RAV Beth sy’n bod?
ELIN Dw i’n ofnus achos dw i ddim yn hoffi ffilmiau arswyd. Beth yw’r ffilm yma?
RAV Gwych! Dw i’n dwlu ar ffilmiau doniol. Dw i eisiau gweld y ffilm yna.
ELIN Beth yw’r ffilm yma?
RAV Ffilm ryfel. Beth sy’n bod?
ELIN Dw i’n drist pan dw i’n gwylio ffilmiau rhyfel. Beth sy’n bod?
RAV Dw i’n sâl. Mae bola tost gyda fi.
ELIN Rwyt ti wedi bwyta gormod! Druan â ti… Ond hei, mae’r ffilm ar fin dechrau. Dw i wrth fy modd gyda ffilmiau antur…
RAV Oo, a fi. Hei, nid ffilm antur yw hon. Rwyt ti wedi dod â ni i weld ffilm ramantus, Gel. Dw i’n casáu ffilmiau rhamatus!
ELIN A fi!