MALI Rhodri! Ll’gade oddi ar y ffôn?
RHODRI Llun newydd gan Erin.
MALI Ble mae hi te?
RHODRI Ynys goll yn y Caribî.
Roedd yn ddiwrnod stormus. Naci… diwrnod garw. Diwrnod tymhestlog. Lonciai Erin ar hyd yr arfordir, ddim yn malio am y gwynt a’r glaw. Welodd hi ddim mo’r hwyl ddu a gwyn yn ymddangos dros y gorwel. Llong môr-ladron!
JOSEFF Wff. Dechre da.
RHODRI Cafodd ei thaflu i’r carchar, ar ei phen. Ond mae’n cymryd mwy na bariau haearn i guro Erin.
Roedd ei choesau’n fflachio fel mellt, wrth i’r môr-ladron i gyd ddisgyn o’i blaen. Un! Dau! Tri! Cic ar ôl cic ar ôl cic, nes yn y diwedd, hi oedd yr unig un ar ôl. Brenhines y môr.
Ac yn ei meddiant, roedd map. A fyddai yn ei harwain at yr ynys… a’r trysor gorau a welodd y byd erioed…
JOSEFF … oedd yn eiddo i’r dihiryn mwyaf cythryblus welodd y byd erioed. ‘El Gran Queso’. Y Caws Mawr!
Dyn ag iddo dymer mwy ffrwydrol na llosgfynydd. Mwy tanllyd na ffwrnais.
MALI Ti’n dod â’r peth yn fyw, Joseff!
JOSEFF A’i elyn pennaf? Erin!
Dro ar ôl tro, cafodd cynlluniau drwg a dieflig El Gran Queso eu difetha gan Erin. Erin ddewr. Erin yr arwres!Gwibiodd Erin drwy strydoedd troellog y ddinas, â gweision El Gran Queso yn dynn ar ei hôl. Sgrialodd bawb o’r ffordd. Aeth y strydoedd yn gulach ac yn gulach, nes yn y diwedd…
Doedd nunlle i droi. Roedd hi yn y fagl. Fel llwynog mewn trap. Sut oedd posib iddi ddianc?
JOSEFF Hei!
MALI Dwi angen bod adre cyn pump. Gwrandewch yn astud.
Cafodd y dihirod eu dychryn i ffwrdd, yn sgrialu fel dail yn y gwynt. Roedd rhywbeth cymaint gwaeth na nhw’n byw ar yr ynys. Creadur llawn malais, malais pur, yn gwasgaru holl bobl yr ynys fel morgrug o’i flaen. Y tu hwnt i unrhyw beth alla i ei ddychmygu… na’i ddisgrifio.
RHODRI Tria.
MALI Yn dalach na’r Wyddfa. Yn fwy swnllyd na Maes B. Yn gryfach na’r ddraig goch.
RHODRI Neith hynny’r tro.
MALI Ddwywaith cryfach. Y bwystfil mwyaf anghredadwy, mwyaf brawychus, a… wel… y mwyaf… welodd y byd erioed.
Ond roedd Erin… ein Erin ni, yn gyfrwys fel llwynog. Doedd dim gronyn o ofn yn ei chalon. Betrusodd hi ddim am eiliad. Nac oedi. Na bwhwman.
JOSEFF 10 mas o 10 am eirfa, Mali.
MALI Gallai deimlo chwys y creadur ar ei chroen. Ei ffwr yn cosi ei thrwyn. Ond roedd Erin wedi hoelio ei sylw ar yr arf yn ei llaw, a ddisgleiriai yn yr haul. Cymerodd anadl ddofn, ddiddiwedd. Tynnodd ei chryman yn ôl. A…
Sori, bois! Gorfod mynd! Hwyr!
RHODRI Ond ma angen dechra, canol, a diwedd. Ar bob un stori.
JOSEFF Ble ti’n meddwl mae hi go-iawn?
CYHOEDDWR Y trên nesaf ar Blatfform 1, ein gwasanaeth un ffordd i Aberystwyth.
More on Ysgrifennu
Find out more by working through a topic
- count6 of 6
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6