Patrymau a dilyniannau
Dilyniannau cwadratig
Setiau o rifau sydd wedi eu cysylltu mewn rhyw fodd ydy dilyniannau. Mewn dilyniant cwadratig, mae’r gwahaniaethau rhwng y termau’n newid. Gall fod patrwm er nad ydy'r gwahaniaethau'n gyson.
Dilyniannau llinol
Dilyniant llinol ydy’r enw ar batrwm rhif sy’n cynyddu (neu’n lleihau) yr un faint bob tro. Y gwahaniaeth cyffredin ydy’r term am y maint y mae’n cynyddu neu’n lleihau.
Patrymau rhif
Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.