Data ac ansawdd data
Data a gwybodaeth
Mae data yn cael eu prosesu gan gyfrifiaduron ac yn cael eu troi’n wybodaeth. Mae’n bosibl defnyddio’r wybodaeth hon i ffurfio barn a gwneud rhagfynegiadau.
Dilysu a gwireddu data
Mae dilysu a gwireddu yn ddwy ffordd o wneud yn siŵr bod y data sy’n cael eu mewnbynnu i gyfrifiadur yn gywir. Nid oes llawer o werth i ddata sy’n cael eu mewnbynnu’n anghywir.