Beth yw degolion?
Pan y'n ni'n defnyddio degolion meddylia am un cyfan wedi ei rannu mewn i ddeg rhan.
Degfedau. Neu os wyt ti'n rhannu mewn i gant o rannau, canfedau yw'r rhain.
Felly, sut ydyn ni'n sgwennu nhw?
Dwed shwmae wrth y pwynt degol.
Ry ni'n gosod digidau i'r chwith neu i'r dde o'r pwynt degol yn dibynnu ar eu gwerth.
Ar y chwith mae'r degau a'r unedau.
Ac ar y dde mae ein degfedau.
Dyma hi… ond dyw hi'n bert?
Pan mae'r degfedau yn cyrraedd naw ry' ni angen yr unedau.
Nawr, beth am y canfedau?
Ahhh - ond dyw e'n ciwt?
Felly, ma da ni'r degau a'r unedau ar un ochr o'r pwynt degol a'r degfedau a'r canfedau ar yr ochr arall.
Un teulu mawr hapus!

Rhifau degol / Decimal numbers
Mae degolyn yn ffordd o ysgrifennu rhif sydd ddim yn gyfan.
Rhifau ‘rhwng’ rhifau yw rhifau degol. Er enghraifft, mae 10.4 rhwng y rhifau 10 ac 11. Mae’n fwy na 10, ond yn llai nag 11.
Cymer ofal wrth ddarllen gwerthoedd rhifau degol.
Ystyr 4.2 yw 4 a 2 ddegfed.
Ystyr 4.20 yw 4 a 2 ddegfed a 0 canfed. Does dim angen i’r sero olaf fod yno.
Ystyr 4.02 yw 4 a 0 degfed a 2 ganfed.
A decimal is a way of writing numbers that aren't whole.
Decimal numbers are the numbers 'between' numbers. For example, 10.4 is between the numbers 10 and 11. It's more than 10, but less than 11.
Take care when reading the value of decimal numbers.
The meaning of 4.2 is 4 and 2 tenths.
The meaning of 4.20 is 4 and 2 tenths and 0 hundredths. The final zero doesn't need to be there.
The meaning of 4.02 is 4 and 0 tenths and 2 hundredths.

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count3 of 16
- count4 of 16
- count5 of 16
- count6 of 16