Gwario arian yn y ffair
BETHAN W, dw i’n edrych ymlaen at y ffair.
Edrycha, stondin cnau coco!
Un, dau. Mae’n rhaid taro’r cnau coco i lawr!
Dw i eisiau tro!
Does gen i ddim arian. Faint o arian sy’ gen ti?
CHARLIE Mae un, dwy, tair punt gyda fi.
BETHAN Ga i fenthyg punt os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Diolch.
Un, dau! Ieeei! Dw i wedi ennill dau docyn.
Edrycha, stondin bachu hwyaid!
Un, dwy, tair, pedair. Mae’n rhaid bachu pedair hwyaden!
Dw i eisiau tro!
Ga i fenthyg punt eto os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Un, dwy, tair, pedair! Ieeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn.
Edrycha, stondin hŵpla!
Un, dau, tri, pedwar.
Mae’n rhaid taflu’r cylchoedd o gwmpas y pedwar côn.
Dw i eisiau tro!
CHARLIE Dyma ti.
BETHAN Un, dau, tri, pedwar! Ieeeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn!
CHARLIE Sawl tocyn sy’ gyda ti?
BETHAN Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg!
Mae gen i ddeg tocyn.
Ga i wobr dda rŵan.
CHARLIE O, diolch.
Dw i'n mynd i alw'r ci yn Smot!
Smot yw'r ci gorau yn y byd i gyd.