Ci ar goll
DAN Dw i’n edrych ymlaen i weld yr anifeiliaid ar y fferm.
ELIN Dw i’n edrych ymlaen hefyd. Dydy Gel methu aros.
ALL Gel! Gel! Tyrd yn ôl.
ELIN O na! Mae Gel wedi diflannu.
DAN Sut ddown ni o hyd iddo?
IZZIE Mae’n rhaid cael y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. Mae fy nhabled i’n gallu canfod ffeithiau a barn hefyd.
ELIN/DAN Ddown ni o hyd i Gel yn gyflym felly.
DAN Dw i’n meddwl bod Gel wedi blino. Mae’n siŵr ei fod o’n cysgu yn y cwt ieir.
ELIN Dw i’n anghytuno. Mae’r cwt ieir yn rhy fach i Gel fynd i mewn iddo.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae hi’n gwybod bod Gel yn fwy na’r cwt ieir. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Hei, mae Gel yn hoffi mwd felly dw i’n credu mai fo yw hwnna.
ELIN Na. Dw i’n anghytuno. Mae gan Gel gynffon hir. Cynffon fer sy gan hwnna. Mochyn ydy o.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Yn fy marn i, ôl troed Gel ydy hwn. Beth wyt ti’n ei feddwl, Elin?
ELIN Dw i ddim yn siŵr. Ond dyma goler Gel.
IZZIE Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. A dyna fo. Mae o eisiau bod yn gi defaid!