Sut i ddefnyddio tabl syml

Part of MathemategTrin data

Tabl yn dangos sgoriau golff Pytiwr a Louie ar dyllau un, dau a thri.
Image caption,
Mae'r tabl data yn dangos sgoriau'r chwaraewyr. / The data table shows the players' scores.

Tablau data / Data tables

Rydyn ni’n gallu defnyddio tabl i ddangos darnau o ddata am wahanol bethau.

Mae teitl y tabl yn dweud wrthym beth sydd yn y tabl.

Mae’r penawdau’n dweud wrthym pa ddata sydd ym mhob colofn a phob rhes.

I weld sawl ergyd gymerodd Louie ar gyfer yr ail dwll, rwyt ti’n edrych ar draws rhes Louie nes cyrraedd colofn yr ail dwll. Felly cymerodd Louie 4 ergyd i gael y bêl i’r twll!

Tabl yn dangos sgoriau golff Pytiwr a Louie ar dyllau un, dau a thri.
Image caption,
Mae'r tabl data yn dangos sgoriau'r chwaraewyr. / The data table shows the players' scores.

More on Trin data

Find out more by working through a topic