RHODRI Cic! Ergyd! Neidio! A throi! Dwi am gipio’r gwpan eleni!
ERIN Ni heb ddechre eto, Rhodri. Pa gwpan?
RHODRI Cwpan jwdo’r sir! Dyna’r oll dwi ‘di bod isio, fy holl fywyd!
JOSEFF Fi’n ffilmo, Erin.
ERIN Helo, a chroeso i Joio Jwdo – gyda fi, Erin. Fy ngwestai wythnos yma yw Rhodri… gan bod neb arall yn fodlon bod yma ‘da fi bellach.
Fi’n mynd i roi cyfarwyddiadau ar sut i ddelio gydag ymosodiadau. Cofiwch – peidiwch byth â defnyddio’r sgilie ‘ma i ymosod. Dim ond i amddiffyn.
Diogelwch yw’r peth pwysicaf, wrth gwrs. Gwisgwch badiau trwchus yn gyntaf. Y peth nesa? Dangoswch barch i’r gwrthwynebydd.
RHODRI Dim amser!
ERIN Falle nad yw e’n gyfleus, ond mae e’n bwysig. Ar yr un pryd, byddwch yn wyliadwrus o unrhyw ymosodiad arnoch chi. Plygwch i lawr yn araf, heb dynnu eich llygaid oddi ar y gelyn.
RHODRI Gawn ni ymladd rŵan?
ERIN Bwrw fi te. Yn ofalus. Yn esmwyth. Diogelwch yw’r peth pwysicaf.
RHODRI Aw.
ERIN Os dyw’r gelyn ddim yn fygythiad, codwch nhw ar eu traed. Mae’n arwydd arall o barch.
RHODRI O. Parch. Ia. Ym.
ERIN Ond beth os y’n nhw’n dal i fynnu ymosod?
Peidiwch â defnyddio’ch nerth eich hun. Defnyddiwch nerth y gwrthwynebydd yn eu herbyn nhw. Os gwnewch chi hynny, allech chi guro unrhyw un.
Nawr te. Dim ond y pethau sylfaenol dw i wedi eu trafod heddiw, wrth gwrs. Ewch, ac astudiwch y wers gynta’n ofalus, a dewch yn ôl ar gyfer yr ail wers, pan fydda i’n eich arwain chi drwy tua hanner dwsin o wahanol ffyrdd o wneud hyn.
RHODRI Y… Erin? Faint o’r gwersi hyn sydd i ddod?
ERIN Wel… does neb wedi cyrraedd diwedd y cwrs. Dim eto. Ond i gyrraedd fy lefel i? Wel… tua… pum cant chwe deg chwech.
JOSEFF Pum… cant? Sai’n siŵr fydda i ar gael ar gyfer pob un, Erin…
RHODRI Erin… wyt ti’n dallt pam bod neb arall isio gwneud hyn efo chdi? Meddylia, Erin. Yn galed. Defnyddia dy holl egni.
ERIN Am y rheswm yna?
RHODRI Ia. Rwbath fel ’na.
More on Llafaredd
Find out more by working through a topic
- count6 of 6
- count1 of 6
- count3 of 6