Ble wyt ti’n byw?
CHARLIE Helo Bethan!
BETHAN Helo!
CHARLIE Croeso. Dere i mewn.
BETHAN Diolch. Dyma dŷ braf.
CHARLIE Diolch. Ble wyt ti’n byw Bethan?
BETHAN Dw i’n byw ym Mostyn.
Pentref yn y gogledd.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref?
BETHAN Dw i wrth fy modd. Wyt ti’n hoffi byw mewn dinas?
CHARLIE Ydw. Dw i’n caru Caerdydd!
BETHAN Pam?
CHARLIE Achos mae pwll nofio mawr ger fy nhŷ i.
BETHAN O, pwll hwyaid sy ger ein byngalo ni.
CHARLIE Mae llawer o siopau yng Nghaerdydd.
BETHAN Dim ond ychydig o siopau sy ym Mostyn.
CHARLIE Oes sinema yno?
BETHAN Nac oes.
CHARLIE Mae sinema enfawr yng Nghaerdydd.
BETHAN Wyt ti’n hoffi’r sinema?
CHARLIE Dw i’n dwlu arno fe! A dw i’n dwlu ar y tŷ bwyta sy’ gerllaw hefyd!
Oes tŷ bwyta ym Mostyn?
BETHAN Nac oes. Dim ond siop sglodion.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref bach?
BETHAN Ydw.
CHARLIE Wir? Pam?
BETHAN Achos mae fferm anifeiliaid anhygoel ger Mostyn!
CHARLIE Waw!
BETHAN Y fferm anifeiliaid orau yn y byd!
MAM CHARLIE Beth ydych chi’n wneud?
Ble nesaf?
Disgrifio dy dŷ
Y cartref

Cadw’n heini a darganfod anifeiliaid
Chwaraeon a ffitrwydd

Mwy o fideos Cymraeg
Cyfnod Sylfaen
