Barddoniaeth stryd
DAN Mae’r smŵddi banana yma’n dda.
KASIA Mmm, blasus.
CARTER Shwmae?
DAN Helo, Carter. Beth yw hwnna?
CARTER Llyfr nodiadau. Dw i’n Fardd Stryd nawr.
KASIA Beth?
CARTER Dw i’n gallu ysgrifennu cerddi – yn y fan a’r lle!
DAN Iawn. Ysgrifenna gerdd amdanaf i.
CARTER Cerdd newydd Carter! Dw i am ei darllen i guriad fy ngherddoriaeth.
Dan, Dan, mae e’n un da,
Fe yw’r cryfa yn y dref,
Coesau a breichiau hir,
A chorff cyhyrog,
Mae e’n Gymro i’r carn.
DAN Dyna’r gerdd orau erioed.
KASIA Dw i’n anghytuno. Yn fy marn i, mae hi’n gerdd wael.
Dydy hi ddim yn odli. A dydy hi ddim yn wir.
Dere a dy lyfr nodiadau i mi, Carter y Bardd Stryd.
Rhaid cyflythrennu ac odli.
Beth am hyn?
CARTER Ydych chi’n nabod fy ffrind, Dan?
Mae e’n hoffi chwythu chwiban,
Wrth chwarae rygbi,
Un dydd dros Gymru,
Ond Gel yw’r gorau yn y garfan.
CARTER Nawr dyna beth yw cerdd dda.
Ble nesaf?
Torri dy wallt
Cyfarchion

Fideos a gweithgareddau Cymraeg
Cyfnod Allweddol 2
