Stori Tegan

Crynodeb o’r ffilm

Yn ystod cyfnod pandemig Covid-19, fe dreuliodd Tegan ran fwyaf o’i hamser yn chwarae gemau cyfrifiadur. Erbyn hyn, mae’n well ganddi dreulio amser gyda’i ffrindiau cyfrifiadurol yn hytrach na mynd i’r ysgol. A fydd Tegan yn llwyddo i gamu allan o’i byd digidol i wynebu’r byd go iawn?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Gellir cynnal gêm bingo i ddod i adnabod disgyblion newydd o fewn y dosbarth, os yw hyn yn berthnasol i’ch dosbarth. Nod y gweithgaredd fyddai darganfod pwy yw’r plentyn sy’n cyfateb i’r disgrifiad ee

    • person sydd ag un brawd ac un chwaer
    • rhywun sydd wedi bod ar awyren
    • rhywun sy’n hoffi banana

a’r cyntaf i gael pump mewn rhes fydd yn ennill.

  • Enfys o deimladau – Tasg fyr arall y gellir ei chynnal fyddai gosod wal deimladau yn y dosbarth i gofnodi sut mae disgyblion yn teimlo wrth gamu i’r dosbarth. Gellir gofyn i’r disgyblion gasglu eu henwau sydd ar ddarnau o bapur, a’i gosod ar siart enfys sy’n cynnwys gwahanol deimladau ee hapus, ofnus, swil, crac/blin.

  • Gwaith trafod fel grŵp: – Gellir edrych ar lun o ddau berson ifanc - un sy'n chwarae gemau cyfrifiadurol ac un sydd allan yn chwarae gyda ffrindiau - a gosod ansoddeiriau ar y ddau ee ynysig a chymdeithasol. Yna, gellir trafod pam fod y disgyblion wedi dewis yr ansoddeiriau hynny.

  • Strategaethau lles – Mae’r gerdd yn cynnwys sawl cyngor ee ‘‘Anadla’n ddwfn’’ - sut ydyn ni’n anadlu’n ddwfn? Gellir cynnal sesiwn yn gofyn i’r disgyblion ddilyn cyngor y bardd er mwyn helpu eu lles. Pa strategaethau arall gall y disgyblion feddwl amdanyn nhw i helpu plentyn sy’n poeni? Mae casgliad meddwlgarwch ar gael ar wefan Bitesize sy'n cynnwys enghreifftiau o strategaethau all helpu iechyd a lles pobl ifanc.

  • Calon hapus – Mae’r gerdd yn sôn am ‘galon lawn’ a gellir trafod yr hyn sy’n gwneud i galon Tegan fod yn llawn gyda’r disgyblion ee chwarae gemau, bod ar ei phen ei hun, cau y llenni. Yna, gellir trafod gyda disgyblion yr hyn sy’n gwneud i galon Tegan fod yn llawn a gosod tasg o lenwi siâp calon i mewn gyda delweddau o bethau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Manteision ac anfanteision defnyddio technoleg – Gellir annog y disgyblion i ymchwilio i ffeithiau am fanteision ac anfanteision defnyddio technoleg, naill ai drwy fynd ar-lein i ddod o hyd i wybodaeth neu gall yr athro ddosbarthu erthyglau neu daflenni gwybodaeth ar gyfer y disgyblion.

Unwaith y byddan nhw wedi dod o hyd i’r wybodaeth, gellid gosod tasg yn gofyn i ddisgyblion ysgrifennu darn yn mynegi eu barn am y defnydd o dechnoleg gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i’r pwnc
  • Esbonio’r ddwy ochr i’r ddadl
  • Casgliad

A defnyddio brawddegau sy’n cynnwys geirfa megis ‘Yn fy marn i’ / ‘Cytunaf’ / ‘Anghytunaf’ / ‘Ar un llaw…ar y llaw arall’.

  • Cymariaethau – Defnyddia’r bardd y gymhariaeth "ffrindiau go iawn fel haul ar ôl glaw". Gellir trafod y defnydd o gymariaethau yn y gerdd a gofyn i’r disgyblion lunio cymariaethau eu hunain ar agweddau o’u bywydau sy’n helpu eu lles ac sy’n eu gwneud nhw’n hapus, megis eu hoff le yn y byd.

  • Cerdd acrostig – Gellir gosod tasg i’r disgyblion lunio cerdd acrostig, naill ai ar gymeriad Tegan gyda geiriau fel ‘ansicr’ neu ar thema sy’n codi o’r gerdd ee unigrwydd, gorbryder neu ddewrder.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu mwy am deimlo’n ynysig a delio gyda newidiadau - pryder am ddychwelyd yn ôl i’r ysgol, beth fydd y ffrindiau yn ei ddweud, cymysgu gydag eraill ac ati

  • Dysgu am ddelio gyda theimladau o bryder: beth sy’n gwneud i mi deimlo yn bryderus, sut dwi’n teimlo pan dwi’n bryderus, beth sy’n gwneud i mi deimlo yn well

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.

  • Rwy’n gallu myfyrio ar y ffordd y mae digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol wedi effeithio ar fy meddyliau, fy nheimladau a’m gweithredoedd.

  • Rwy’n gallu rhagweld sut y gallai digwyddiadau’r dyfodol wneud i mi ac i eraill deimlo.

  • Rwy’n gallu deall sut a pham mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu deall y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw.

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu mynegi fy anghenion a’m teimladau, ac ymateb i anghenion a theimladau pobl eraill.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu cyfleu syniadau, teimladau ac atgofion ar gyfer cynulleidfa ac ar gyfer dibenion a chanlyniadau yn fy ngwaith creadigol.

Maes Dysgu a Phrofiad – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae mynegi eich hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Cam Cynnydd 1

  • Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac eglur.
Back to top

Ble nesa?

Stori Trystan a Macs. video

Mae Trystan a'i frawd Macs yn cael eu bwlio yn yr ysgol, ond ddim yn dweud wrth unrhyw un. A fyddan nhw'n gadael i'r bwlis gario ymlaen, neu'n penderfynu siarad gyda rhywun?

Stori Trystan a Macs

Stori Tyler. video

Mae'r peth lleiaf yn gwylltio Tyler ac yn achosi iddo golli ei dymer. A fydd yn gallu dysgu i'w reoli a siarad am ei emosiynau?

Stori Tyler

Stori Will. video

Mae Will yn ceisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu ac yn penderfynu dwyn arian. A fydd yn difaru gwneud hyn ac yn meddwl am ffyrdd arall o helpu ei rieni?

Stori Will
Back to top