MEERA: Meera ydw i, a dw i’n chware rygbi.
GETHIN: Fy enw i ydy Gethin. A’r peth cyntaf buaswn i’n dweud amdanaf fi fy hun ydy fy mod i’n ‘gamer’.
MEG: Meg ydw i, a mae fy nheulu i wedi bod yn ffermwyr ers cenedlaethau.
JAC: Jac ydw i. Ces i fy ngeni yng Nghaerdydd a dw i’n browd iawn o fod yn Gymro.
MEERA: Chwaraeon yw’r peth pwysicaf i fi.
GETHIN: Dw i’n licio chwarae gemau ar-lein achos dw i’n medru chware efo ffrindiau a chystadlu yn erbyn pobl efo’r un sgiliau â fi.
MEG: Buaswn i’n licio gwneud rhywbeth ym myd ffermio. Dros y blynyddoedd mae fy nheulu i wedi helpu bwydo cymaint o bobl. Ond rŵan, rydyn ni’n gorfod meddwl mwy am fod yn gynaliadwy, gorfod trio syniadau newydd er mwyn i’r busnes allu goroesi. Pethau fel agor siop ar y fferm.
JAC: Mae Dad o Gaerdydd. Mae Mam yn dod o Awstralia. Ond dw i’n teimlo’n fwy o Gymro nag ‘Australian’.
MEERA: Mae crefydd yn bwysig iawn yn ein teulu ni, heblaw am Dad. Doedd e ddim yn credu, er ei fod e’n dod o deulu Hindwaidd. Gwnaeth e farw pan o’n i’n ddeg oed. Anffyddiwr oedd Dad. Roedd e wastad yn dweud bod crefydd yn rhy ofergoelus, fel bod yn ofergoelus am gadw reis, halen a iogwrt ar y bwrdd. Ma Hindwiaid yn credu ei fod e’n lwc ddrwg os ydych chi’n taro halen drosto. Pan aethon ni i India a mynd i ymweld â’r teulu yno, roedd Mam arfer dweud wrthyn ni, “Jest ‘steddwch lawr a bwyta. Peidiwch symud dim byd ambyti achos dydych chi ddim yn gwybod beth chi’n ’neud”. Roedd hi’n becso bydden ni’n codi cywilydd arni hi drwy wneud rhywbeth o’i le.
GETHIN: Mae bod yn hoyw yn rhan o fy hunaniaeth i hefyd. Dw i ddim yn meddwl fy mod i’n wahanol i rywun ‘straight’ ond weithiau dw i’n gorfod checio fy hun - meddwl beth dw i am ddweud amdanaf fi fy hun. Ydw i’n eu trystio nhw? Neu ydy hi’n well i fi jyst peidio dweud dim byd? Dydy person ‘straight’ byth yn gorfod poeni am bethau fel ’na. Dw i’n medru trafod efo rhai o fy ffrindiau i, a fy rhieni i hefyd, ond dim efo Nain a Taid.
MEG: Dw i’n eitha’ da am ganu. Dw i wedi cystadlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ‘ma yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.
JAC: Dw i’n cefnogi Cymru neu Awstralia pan dw i’n gwylio chwaraeon. Ond pan maen nhw’n chwarae yn erbyn ei gilydd, dw i wastad yn cefnogi Cymru.
MEERA: Gwnaeth fy rhieni briodi yn India. Roedden nhw’n dod o beth rydyn ni’n ei alw’n ‘cast’ gwahanol, sydd fel dosbarth cymdeithasol llym. Ond yn wahanol i’w rhieni nhw, roedd Mam a Dad yn cael priodi rhywun tu fas i’w dosbarth - neu eu cast nhw - achos cafodd y system ei gwneud yn anghyfreithlon flynyddau’n ôl. Roedd cast teulu Dad yn un uchel. Gwnaethon nhw symud o Delhi i Lanelli. Does dim system gymdeithasol fel ’na fan hyn.
GETHIN: Fy mhrif uchelgais ydy berchen cwmni sy’n creu gemau cyfrifiadurol. Dw i’n meddwl ar hyd yr adeg am y mathau o gemau buaswn i’n gallu eu creu. A dw i’n gobeithio byddai’n medru cael swydd yn y maes yna.
MEG: Canu a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ydy’r ddau beth sydd gen i fwyaf o ddiddordeb ynddyn nhw.
JAC: Dw i hefyd yn ofalwr ifanc. Cafodd Mam ddamwain ddifrifol, felly fi sy’n ei helpu hi ar ôl yr ysgol nes bod Dad yn dod adref o’i waith. Dw i dal yn breuddwydio am gael chwarae pêl-droed i Cardiff City rhyw ddiwrnod.
MEERA: Mae hunaniaeth pawb…
GETHIN: …yn gymysgedd o sawl peth gwahanol.
MEG: Felly, beth sy’n dy wneud di…
JAC: …yn ti.
Mae cymeriadau'r gyfres hon, Meg, Gethin, Jac a Meera, wedi eu sgriptio'n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc go iawn o Gymru. Yn y ffilm hon, maen nhw'n cyflwyno eu hunain ac yn disgrifio elfennau allweddol o’u hunaniaeth bersonol.
Nodiadau athrawon
Cam Cynnydd 4
Mae pedwar person ifanc o bob rhan o Gymru’n cyflwyno eu hunain ac yn egluro rhannau allweddol o’u hunaniaeth. Mae Meg yn ddarpar-ffermwr o Ruthun, ac mae ei theulu wedi bod yn ffermio yno ers cenedlaethau. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau canu ac mae hi wedi cystadlu yn Eisteddfod y Clwb Ffermwyr Ifanc. Mae Gethin o'r Wyddgrug yn egluro sut mae ei rywioldeb a’i hobi – chwarae gemau cyfrifiadurol – yn rhan bwysig o’i hunaniaeth. Trafoda Jac o Gaerdydd ei hunaniaeth o ddwy dreftadaeth, ei gariad at bêl-droed, a’i gyfrifoldebau gofalu am ei fam. Mae Meera o Lanelli yn siarad am ei chariad at chwaraeon fel rygbi, a sut mae crefydd yn rhan bwysig o hunaniaeth teulu ei mam.
Nodiadau cwricwlwm
Gellid gofyn i’r myfyrwyr beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw, a beth sy’n ffurfio eu hunaniaeth. Mewn parau, gallan nhw greu rhestr o beth maen nhw’n meddwl sy’n cyfrannu at hunaniaeth.
Gall y myfyrwyr drafod yr ystrydebau maen nhw wedi eu clywed a chreu rhestr neu dabl i amlinellu sut mae’r ystrydebau hyn yn cael eu creu a sut i’w datrys.
Gall y myfyrwyr ddewis un agwedd ar hunaniaeth, er enghraifft cenedligrwydd, ac ymchwilio sut mae’n cael ei chynrychioli yn eu teulu, yr ysgol neu’r gymuned leol.
Gellid gofyn i’r myfyrwyr wneud cyflwyniad i’r dosbarth ar eu hunaniaeth eu hunain, neu ar un agwedd o'u hunaniaeth y maen nhw’n fodlon ei rhannu.
Mewn parau, gallai'r myfyrwyr ymchwilio i brofiadau diwylliannol, credoau ac ymarferion gwahanol bobl. Yna gallan nhw wrthgyferbynnu'r rhain gyda’u profiadau nhw.

Rhagor o'r gyfres hon:
Newid hunaniaeth. video
Mae pedwar o bobl ifanc o Gymru yn trafod newid hunaniaeth a newid barn.

Argraffiadau cyntaf. video
Caiff pedwar o bobl ifanc o Gymru eu cyfweld ar eu hargraffiadau cyntaf o’i gilydd.

Chwyldroadau hanesyddol. video
Golwg ar ddigwyddiadau pwysig hanes modern yng Nghymru a’r byd drwy lygaid pobl ifanc.
