(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)
Yn y ffilm hon, mae Martin Dougan a'r pencampwr boccia, Claire Taggart, yn trafod boccia.
Cafodd boccia (sy’n cael ei ynganu fel ‘bot-cha’) ei gyflwyno yn 1984, a dyma’r gamp sy’n tyfu gyflymaf yn y byd ar gyfer pobl anabl. Mae’n gêm o ddwy ochr sy’n cael ei chwarae dan do. Yn debyg i bowls, nod y gêm yw cael eich pêl mor agos at y jac â phosib. Mae’n gofyn am dactegau a chywirdeb corfforol.
Mae’n un o'r chwaraeon anabledd mwyaf cynhwysol gan fod pawb yn eistedd, a gall pobl gael cynorthwyydd chwaraeon i'w helpu os oes angen. Cafodd y gêm ei dyfeisio i ddechrau ar gyfer pobl â pharlys yr ymennydd, ac mae wedi esblygu i gynnwys pob person anabl. Mae pobl sydd ddim yn anabl hefyd yn gallu chwarae, ar yr amod eu bod yn aros ar eu heistedd wrth chwarae, ac mae’r gêm yn ddelfrydol ar gyfer plant a phobl hŷn ag anhawster symud.
Mae modd taflu, cicio neu rowlio’r bêl i lawr ramp i’r cwrt, sydd yr un maint â chwrt badminton. Gallwch gymryd rhan fel unigolyn, mewn pâr, neu fel tîm o dri.
Rydyn ni’n cwrdd â phencampwr boccia Gogledd Iwerddon, Claire Taggart, a phencampwr boccia Prydain, David Smith, sydd wedi rhagori yn y gamp.