
Mae BBC Teach Super Movers i Bawb yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i ddangos sut gall bawb gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, beth bynnag yw eu gallu.
Rydyn ni wedi ymuno â’r Premier League, ParalympicsGB ac eraill i gefnogi myfyrwyr anabl i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn chwaraeon yn yr ysgol ac i fod yn gorfforol egnïol.
Mae sefydliadau gan gynnwys Activity Alliance (a oedd yn cael eu galw’n English Federation of Disability Sport gynt), Boccia England, Channel 4, ac Youth Sport Trust i gyd wedi cyfrannu at yr ymgyrch. Ni fyddai Super Movers i bawb yn bosibl heb eu cymorth a’u cefnogaeth hael i gyflwyno elfennau penodol o’r fenter.
Mae ein partneriaid darlledu BBC Sport a BBC 5 Live hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hyrwyddo’r ymgyrch, gan ein helpu i gyrraedd cynifer o ysgolion â phosibl ledled y DU. Ochr yn ochr â Channel 4, rydyn ni'n gobeithio harneisio bwrlwm Gemau Paralympaidd 2024 a phŵer chwaraeon i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant a chynghreiriaeth.
Rydyn ni am weld pob plentyn yn mwynhau bod yn egnïol, ac rydyn ni am feithrin gwytnwch, hyder a hunan-barch ym mhob plentyn drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol ym maes chwaraeon ac Addysg Gorfforol.
Sylwch y bydd y dolenni isod yn mynd â chi o wefan y BBC.


Partneriaid arweiniol y prosiect

Partneriaid cyflawni
