(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)
(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)
Mae Ben Cajee yn ymuno ag Azim Ameer, chwaraewr pêl-droed dall Lloegr, wrth iddo drosglwyddo ei sgiliau pêl-droed dall.
Mae’r ffilm hon yn gyflwyniad i bêl-droed dall, sy’n dangos rhai o’r sgiliau sydd eu hangen i chwarae.
Sgiliau
Mae’r gweithgareddau’n datblygu’r sgiliau hyn: gwrando, gwaith tîm a chyfathrebu (rhoi a dilyn cyfarwyddiadau). Mae’r plant hefyd yn dod i arfer â gwisgo mwgwd.
Gweithgareddau
Clustiau Mawr
I ymarfer eu sgiliau gwrando a chyfathrebu, mae’r plant yn eistedd mewn cylch ac yn pasio’r bêl yn gyflym o un person i’r llall, gan ddweud eu henw fel eu bod yn dod i arfer â gwrando ar eu cyd-ddisgyblion a gwrando ar sŵn y bêl.
Rhedeg o gwmpas
Nod y gweithgaredd hwn yw magu hyder a chael y plant i feddwl am eu safle ar y cae. Maen nhw’n rhedeg o amgylch eu hyfforddwr ac yn ôl at eu ffrind dosbarth, gan roi pawen lawen (pump uchel) iddyn nhw. Yna mae’r plant yn rhedeg o gwmpas eu hyfforddwr gyda’r bêl ac yn ôl at eu cyd-ddisgyblion.
Cerdyn gweithgaredd
Cerdyn gweithgaredd: pêl-droed dall 5-7. document
Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer pêl-droed dall 5-7
