Yr holl adnoddau am ein casgliad diweddaraf o Deg Darn gan gyfansoddwyr benywaidd ar gael yng Nghymraeg, i gyd yn un lle, gyda isdeitlau, trawsgrifiadau a chynlluniau gwersi.
Sally Beamish - Haven o Seavaigers
Kate Humble yn darganfod sut wnaeth taith y môr rhwng Dundee a’r Shetland ysbrydoli darn Sally Beamish ‘Seavaigers’, a sut wnaeth unawdwyr Catriona McKay a Chris Stout dod a’r mordaith gerddorol adref yn ddiogel yn Haven
Kate:
Mae’r ynysoedd mwya gogleddol ym Mhrydain wedi’u hamgylchynu gan foroedd godidog a dramatig.
Yn llonydd a hardd un funud, ac yn dywyll a stormus y funud nesa.
Dychmygwch am eiliad eich bod chi ar y môr.
Mae’r tonnau’n uchel ac yn wyllt, ac mae’ch llong chi’n cael ei thaflu a’i lluchio o gwmpas.
Ond yna - ’dych chi’n ei weld o.
Yn y pellter… tir, diogelwch … adre.
Mi gafodd y cyfansoddwr Sally Beamish ei hysbrydoli i sgrifennu’r darn yma, Seavaigers, gan y daith rhwng dau borthladd yn yr Alban: Dundee, a’r fan yma, Shetland.
Ystyr teitl y darn yw mordwywyr: y bobl fu’n hwylio Môr peryglus y Gogledd, o amgylch arfordir yr Alban.
Mi wnaeth Sally Beamish sgrifennu Seavaigers ar gyfer telyn Albanaidd a ffidil.
Fe allech chi ddisgrifio’r darn fel concerto dwbl - darn ar gyfer offerynnau unigol a cherddorfa.
Mae Seavaigers yn adrodd hanes taith môr mewn tair rhan, neu dri symudiad.
Y symudiad yma, Haven, ydi’r olaf, ac mae’n dilyn llong yn ddiogel adref ar ôl taith anodd.
Roedd hynna’n hyfryd.
Dyna braf gallu clywed y darn yma o gerddoriaeth yn y lleoliad yma.
Pan est ti ati i’w sgrifennu, ai dyma oedd gen ti, fel petai, yn dy ben?
Sally:
Wel mewn gwirionedd ro’n i’n meddwl am yr union gwch yma, y Swan: dwi’n credu mai dyma’r cwch pysgota hynaf sydd ar ôl ac mae o dros gant oed.
Ac ro’n i wedi clywed darn o gerddoriaeth gafodd ei sgrifennu gan Catriona a’i chwarae gan y ddau ohonyn nhw, o’r enw The Swan, amdanyn nhw’u dau’n teithio ar yr union gwch yma.
Felly, oeddwn, ro’n i’n meddwl am hynny.
Ac ro’n i’n meddwl hefyd am y daith fôr ’na rhwng cartrefi’r ddau, Dundee a Shetland.
A sut beth allai hynny fod ar gwch fel hwn.
Kate:
A Chris a Catriona, sut deimlad oedd hi cael cyfansoddwr mawr fel Sally Beamish yn dod atoch chi ac yn dweud, “Dwi eisiau sgrifennu darn o gerddoriaeth yn benodol i chi”?
Chris:
Teimlad anhygoel, hynny yw, mae Sally fel y dwedest ti, mae hi’n gyfansoddwr anhygoel.
Mae fel petai hi wedi rhoi darn o ddŵr i ni, môr mawr o sain, ac rydyn ni’n cael y daith fendigedig ’ma arno fo, wsti, a chreu’r siwrne ’na, mae’n ffantastig, felly mae’n anrhydedd mawr inni.
Mae’r ffidil, neu’r feiolin, yn offeryn mor llawn mynegiant gydag ystod mor eang o synau ac emosiynau.
Galli di greu sain a allai fod yn wirioneddol amrwd a chignoeth, mewn chwinciad.
Ac eto, yn syth wedyn mi fedri di chwarae rhywbeth bychan bach, a thyner a hardd.
Ac mae’n gallu bod mor anwadal â’r môr, â’r tywydd sy’n cael ei daflu aton ni pan fyddwn ni ar daith.
Catriona:
Er enghraifft, mae gen ti’r tannau y galli di eu plycio fel arfer, ond hefyd, mae Sally’n fy nghael i i’w strymio nhw.
Felly, mewn gwirionedd dwi’n atal - dampio - ambell un o’r tannau ac yn strymio’r rhai sy’n rhydd fan’no.
Felly, dwi’n cael dipyn o hwyl o fewn y daith.
Kate:
A Sally, sut wnest ti weithio gyda Catriona a Chris i gyfleu holl hwyliau’r môr yn gerddorol?
Sally:
Wel yn y symudiad ola, yn Haven, ro’n i eisiau creu’r syniad o ddod adre.
Felly, y cyffro o ddod adre a’r cyfeiriad.
Ond ar yr un pryd, r’ych chi’n dal mewn perygl.
Hyd nes i chi gyrraedd y tir, chi’n dal mewn perygl.
Felly, mewn darnau fel hwn, os gwrandewch chi arno a thrio tapio’ch troed, fe welwch na allwch chi ddim, achos mae’n swnio’n rhythmig, ond mi gewch chi’ch taflu oddi ar eich echel.
Mae’r curiadau’n anghyson.
Kate:
Fel cerddorion, faint mae eich amgylchedd corfforol chi - yr amgylchedd yma - y tir a’r môr rydych chi’ch dau’n ei adnabod cystal, pa mor bwysig ydi hynny o ran chwarae a chyfrannu at ddarn o gerddoriaeth fel hwn?
Chris:
Mae’r môr a’r tir, pan wyt ti wedi dy fagu nesa ato fo, mae’n siapio cymeriad pobl.
Mae’n siapio cymeriad pobl yn y ffordd maen nhw’n siarad, ac nid dim ond yn ein hacenion a sut rydyn ni’n siarad â phobl ond hefyd yn y ffordd rydyn ni’n siarad yn ein hofferynnau, ac mae’n siapio acen ein sain ni.
A dyna sy’n dod â math anhygoel o ddilysrwydd i gerddoriaeth achos mae hi wedi’i siapio’n union gan yr amgylchedd ac o ble mae’n dod.
Gwyliwch Catriona McKay (clàrsach) a Chris Stoud (ffidil) yn chwarae ‘Haven’ gyda Cerddorfa Cyngerdd y BBC, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Haven o Seavaigers (PDF)

Margaret Bonds - March a Dawn o Montgomery Variations
Molly Rainford yn cyflwyno dau symudiad gwahanol o Montgomery Variations gan Margaret Bond, a’u hysbrydoli gan brotestiadau yn y ddinas dan ddylanwad Rosa Parks yn ystod y symudiad hawliau sifil y 1950au
Molly:
Glywch chi sŵn y traed? Pwy allai fod yn gorymdeithio a pham?
Mae rheolau’n bwysig. Maen nhw’n ein cadw ni’n ddiogel, maen nhw’n cadw pethau i fynd.
Ond beth petai rheol yn anghyfiawn?
Fyddech chi’n gwneud rhywbeth i’w newid?
Mi gafodd y cyfansoddwr Margaret Bonds ei hysbrydoli i sgrifennu’r darn yma o gerddoriaeth gan grŵp o bobl wnaeth safiad yn erbyn rheolau oedd yn anghyfiawn, yn rhagfarnllyd, ac angen eu newid.
Yn y 50au, roedd gan lawer o daleithiau ar draws Unol Daleithiau America ddeddfau arwahanu.
Roedd hyn yn golygu bod pobl ddu a phobl wyn yn cael eu trin yn wahanol iawn.
Mae’n anodd dychmygu nawr, ond yn ôl bryd hynny, doedd pobl ddu a gwyn ddim yn cael bwyta gyda’i gilydd mewn bwyty, eistedd gyda’i gilydd mewn sinema, nac eistedd yn yr un rhan o fws.
Roedd pobl ddu’n gorfod eistedd yn y cefn tra bod pobl wyn yn cael seddi gwell yn y blaen.
Os oedd adran y gwynion yn llawn, roedd rhaid i deithwyr du roi eu seddi nhw iddyn nhw.
Cafwyd protest enfawr yn ninas Montgomery yn Alabama yn erbyn y ffordd ragfarnllyd yr oedd y bobl ddu’n cael eu trin, ac arweiniodd hynny at newid yn y deddfau ar draws America.
Dyma’r digwyddiad hanesyddol wnaeth ysbrydoli Margaret Bonds i gyfansoddi The Montgomery Variations.
Mi ddechreuodd Boicot Bysus Montgomery ym mis Rhagfyr 1955, pan gafodd dynes o’r enw Rosa Parks ei harestio a’i dirwyo am wrthod ildio ei sedd ar y bws i ddyn gwyn.
Mi wnaeth y safiad herfeiddiol yma gychwyn olwynion i droi – olwynion newid!
Dechreuodd pobl ar draws Montgomery foicotio’r bysus mewn protest.
Aethon nhw i’r strydoedd, fe fuon nhw’n gorymdeithio, fe rannon nhw deithiau car neu hyd yn oed dacsi, yn hytrach na theithio ar fws.
Yn wir, fe wnaeth cymaint o bobl stopio defnyddio’r bysus, nes eu bod nhw bron â rhoi’r cwmnïau bysus allan o fusnes.
Ym mis Rhagfyr 1956, fe wnaeth Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau orchymyn i Montgomery o’r diwedd i ganiatáu i bobl ddu a gwyn eistedd gyda’i gilydd ar y bysus.
Fe wnaeth y newid enfawr hwn effeithio nid yn unig ar bobl Alabama, ond ar yr Unol Daleithiau i gyd.
Roedd Margaret Bonds yn gyfansoddwr ar adeg y boicot bysus.
Wrth gyfansoddi mi fyddai hi’n aml yn cyfuno cerddoriaeth glasurol efo alawon gwerin ac emynau ysbrydol Affricanaidd-Americanaidd roedd hi wedi tyfu i fyny gyda nhw.
Mae’r Montgomery Variations yn seiliedig ar thema emyn ysbrydol o’r enw “I Want Jesus to Walk with Me”.
Defnyddiodd Margaret Bonds yr alaw o’r gân hon mewn llawer o wahanol ffyrdd, neu amrywiadau, trwy gydol saith adran y darn.
Mae pob symudiad yn adrodd rhan o’r stori.
Allwch chi glywed sut mae hi’n defnyddio’r gerddoriaeth i ddangos cryfder a dicter y bobl? Ond hefyd, y gobaith a’r balchder?
Fe wnaeth 40,000 o bobl foicotio’r bysus ar ddiwrnod cynta’r brotest yn Montgomery.
Yn y symudiad yma, March, mae Margaret Bonds yn cyfleu’r boicot gyda’r tympani a’r basau dwbl yn chwarae’r un nodau gyda’i gilydd mewn unsain.
Mae’n swnio fel miloedd o draed yn pwnio’r strydoedd gyda’i gilydd.
Mae’r gerddoriaeth yn ein tynnu ni i mewn i’r dorf fel petaen ni’n gorymdeithio gyda’r bobl. Mae bron yn amhosib cadw’ch traed yn llonydd.
Mae’r alaw’n cael ei phasio rhwng offerynnau’r gerddorfa.
Baswnau cyntaf, wedyn cellos, fiolinau a cor anglais.
Mae’r alaw’n adeiladu mewn nerth bob tro, yn union fel cymuned Montgomery.
Lleisiau unigol yn uno fel un.
Mae naws gwahanol iawn i’r symudiad nesaf.
Mae’n obeithiol, fel bore cynnar – gwawr, dechreuad newydd, a’r teimlad o newid.
Mae Margaret Bonds wedi cael ei hysbrydoli gan yr un alawon ysbrydol ag yn March, ond mae hi wedi’i sgrifennu’n wahanol iawn y tro yma.
Allwch chi glywed y chwythbrennau’n chwarae’r alaw?
Mae’r gerddoriaeth yn chwyddo o amgylch y gerddorfa, fel yr haul yn codi neu adar yng nghôr y wawr, gan gyfleu cymuned yn deffro i’r newid maen nhw wedi helpu i’w achosi.
Mi gafodd Margaret Bonds ei hysbrydoli gan y bobl wnaeth orymdeithio.
Cafodd y bobl wnaeth orymdeithio eu hysbrydoli gan Rosa Parks.
Ac mi gafodd Rosa Parks ei hysbrydoli gan ei chred yn yr hyn oedd yn iawn, ac fe newidiodd hynny y byd.
Gwyliwch y perfformiad o March and Dawn o Montgomery Variations, yn cael i berfformio gan y Cerddorfa Cyngerdd y BBC, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Montgomery Variations (PDF)

Lili Boulanger – D'un matin de printemps
Naomi Wilkinson yn archwilio’r seinwedd brysur a gobeithiol o gwanwyn, wedi creu gan rythmau a deinameg o D’un matin de printemps gan Lili Boulanger
Naomi:
Beth ydych chi’n sylwi arno wrth i’r tymhorau newid?
Lliwiau gwahanol? Newid yn y tywydd?
Beth am y synau glywch chi?
Mae’r dail yn y coed yn swnio’n wahanol pan maen nhw’n ffres yn y gwanwyn, yn hytrach na phan maen nhw’n yn sych ac yn grimp yn yr hydref, neu yn y gaeaf pan does ’na ddim dail o gwbl.
Mae gan bob tymor ei sain ei hun, a does dim un yn brysurach a mwy gobeithiol na’r gwanwyn.
Pan fyddwch chi allan am dro yn y gwanwyn mi allwch chi glywed gwenyn yn suo ac adar yn canu.
Mae hi’n brysur iawn.
A phrysurdeb a llawenydd y gwanwyn wnaeth ysbrydoli’r cyfansoddwr Ffrengig Marie Juliet Olga Boulanger, Lili i’w ffrindiau – sef ni – i sgrifennu ei darn D’un matin de printemps. Y Ffrangeg am ‘Ar fore o wanwyn’ ydi hynny.
Mae Lili Boulanger yn defnyddio’r offerynnau i greu synau a theimlad bore prysur o wanwyn allan yn yr ardd neu yn y parc.
Mae’r offerynnau llinynnol yn chwarae rhythm cyflym ailadroddus, drosodd a throsodd.
Ostinato ydi’r gair am hyn. Mae bron yn teimlo fel su’r gwenyn, yn brysur a chyson.
Mae alaw’r ffliwt ar y dechrau yn cael ei gopïo gan wahanol offerynnau wrth adleisio trwy’r gerddorfa.
Mae ychydig yn debyg i adar yn canu neu’n galw ar ei gilydd.
Cafodd Lili Boulanger ei geni ym Mharis yn 1893, a hyd yn oed o oedran ifanc iawn, roedd hi wrth ei bodd yn chwarae cerddoriaeth, ac yn gyfansoddwr dawnus iawn.
Cafodd D’un matin de printemps – Ar Fore o Wanwyn – ei sgrifennu fel un o bâr o ddarnau.
Hanner arall y pâr oedd D’un soir triste, sy’n golygu Ar Noson Drist.
Mae hynny’n naws eitha gwahanol i fore o wanwyn, yn tydi?
Tybed pam y sgrifennodd Lili y ddau ddarn yma i fynd gyda’i gilydd.
Roedd y ferch ifanc hon wedi’i hysbrydoli gan obaith y gwanwyn, felly roedd hi’n teimlo’n obeithiol.
Ond roedd hi hefyd yn sâl iawn, ac yn drist iawn, mi fu hi farw pan oedd hi’n ddim ond 24 oed.
Trwy sgrifennu’r ddau ddarn, mae Lili Boulanger yn dangos i’r byd ei bod hi’n teimlo sawl emosiwn ar unwaith.
O, nawr te, pa fath o aderyn ydi hwnna?
Mae gen i lyfr adar dibynadwy yma i’m helpu.
Mae o fel set ddefnyddiol o gyfarwyddiadau am fyd natur.
Ac wrth lwc, mae llawer o gyfansoddwyr yn rhoi cyfarwyddiadau hefyd, ar sut y dylid chwarae eu darnau.
Mae’n golygu bod y cerddorion yn gallu chwarae’r darn fel roedd y cyfansoddwr wedi’i fwriadu.
Ar ddechrau Ar Fore o Wanwyn, mae Lili Boulanger yn gofyn am i’r nodau gael eu chwarae, yn Ffrangeg, léger et gai, sy’n golygu ysgafn a siriol.
Ar ôl dechrau hapus ac egnïol i’r gerddoriaeth, mae’r naws yn newid.
Yma, cyfarwyddyd y cyfansoddwr yw chwarae mystérieux, neu llawn dirgelwch, gyda nodau arafach, hirach.
Tybed beth allai fod yn digwydd yn yr ardd yn ystod y newid hwn?
Mae’r cymylau’n hwylio i mewn.
Mae’r gerddoriaeth yn cryfhau ac yn cryfhau, a gwrandwch, dyma’r glaw yn dod.
Ond peidiwch â digalonni a mynd dan do eto. Na, mae unawd ffidil yn chwarae alaw y gwanwyn o ddechrau’r darn.
Mae’r glaw yn peidio.
Mae’r haul yn sbecian drwy’r cymylau.
Tywydd gwanwynol go iawn!
Gwyliwch D’un matin de printemps yn cael i berfformio gan y Cerddorfa Cyngerdd y BBC, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i D'un matin de printemps (PDF)

Reena Esmail - Sun Sundar Sargam
Joel M yn archwilio ‘Sun Sunder Sargam’ gan Reena Esmail, sy’n tynnu o themâu o gerddoriaeth clasurol Hindustani a chreu sgwrs breuddwydiol rhwng y sitar a chantorion
Joel:
Am beth wnaethoch chi freuddwydio neithiwr?
Mae rhai pobl yn credu, pan fyddwch chi’n breuddwydio am awyr y nos, bod hynny’n cynrychioli’ch meddwl chi, a’r holl bosibiliadau sy’n agored iddo fo, a bod noson serennog yn dangos eich gobeithion, eich breuddwydion a’ch dyheadau chi.
Fel anelu am y sêr!
Beth mae’ch breuddwydion chi yn ei ddweud wrthych chi, dych chi’n meddwl?
Mae’r gerddoriaeth yma, Sun Sundar Sargam gan Reena Esmail, wedi’i hysbrydoli gan freuddwydion a’r syniad y gallai anfon eich breuddwydion allan i’r byd wneud iddyn nhw ddod yn wir.
Gallwch chi ddychmygu bod y sêr yn cysylltu â’i gilydd, ac yn mynd â’ch breuddwydion chi gyda nhw ar draws yr awyr.
Mae’r geiriau i’r gerddoriaeth yn Hindi, un o brif ieithoedd India, ac maen nhw’n cyfieithu fel hyn,
Gwranda ar yr alaw hardd
Gwea’r freuddwyd o wireddu dy freuddwyd
Fe wnaiff y byd ganu dy gân
Gwranda ar yr alaw hardd
Os byddi di’n dawel, fe wnaiff yr adleisiau godi.
Ydych chi’n adnabod yr offeryn glywch chi’n chwarae gyda’r côr?
Offeryn llinynnol ydi o, sef y sitar, sydd i’w glywed yn aml mewn cerddoriaeth Indiaidd.
Er nad ydi’r darn yma o gerddoriaeth yn swnio’n hollol fel cerddoriaeth Indiaidd draddodiadol, mae’n seiliedig ar Raga Indiaidd traddodiadol o’r enw Raag Yaman a ddaeth o Ogledd India.
Mae’n un o’r rhai cyntaf y mae pobl yn cael eu cyflwyno iddo pan fyddan nhw’n dechrau dysgu cerddoriaeth glasurol Hindwstan.
Mae Raga yn golygu rhywbeth sy’n lliwio’ch meddwl gyda theimlad ac emosiwn a gallwch chi deimlo bod y gerddoriaeth yn hapus neu’n drist, neu lawer mwy o emosiynau.
Mae’r Raag Yaman, sy’n sail i’r darn yma, yn cael ei berfformio gyda’r nos ac mae’n gallu helpu i greu teimlad rhamantus tawel ar ddiwedd diwrnod prysur.
Reena, dwed wrtha i am yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yma o gerddoriaeth.
Reena:
Wel, pan o’n i’n blentyn, ro’n i’n gwybod bod ’na gerddoriaeth y tu mewn i mi a do’n i ddim o reidrwydd yn gwybod sut y byswn i’n gwneud i’r gerddoriaeth yna ddod allan i’r byd, ond o’n i jest yn gwybod ei bod hi yno.
Ac felly, dwi’n meddwl weithiau eich bod chi’n edrych allan i’r byd, a dach chi’n gweld rhywbeth, a dach chi’n meddwl, waw, dw i eisiau bod fel yna.
Dwi’n mynd i ddilyn y cyfeiriad yna.
Dwi’n mynd i wneud hynna.
Dwi’n mynd i ddilyn y llwybr yna.
Ac ar adegau eraill dach chi ddim yn gweld beth dych chi eisiau bod yn y byd, ac wedyn mae hi fyny i chi i’w greu o.
A dyna beth ydi hanfod y darn yma, creu beth rydych chi eisiau’i weld yn y byd.
Joel:
Unwaith wnest ti benderfynu ar thema’r gerddoriaeth, sut est ti ati?
Reena:
Weithiau dwi’n meddwl am alaw yn gyntaf.
Weithiau mae ’na gordiau’n dod yn gyntaf.
Weithiau dwi jyst yn myfyrio ar y geiriau a beth maen nhw’n ei olygu i fi, a rhywsut mae’r gerddoriaeth yn dechrau llifo.
Joel:
Alli di ddweud ychydig mwy wrthon ni am y sitar a pham wnest ti ei ddewis ar gyfer y darn?
Reena:
O, dwi wrth fy modd efo sŵn y sitar.
I fi, mae’n swnio fel dwi’n dychmygu mae’r bydysawd yn swnio.
Mae gan y sitar 21 tant weithiau, ond dim ond ar gwpl ohonyn nhw dach chi’n chwarae, ac eto mae pob un ohonyn nhw’n dirgrynu gyda’i gilydd ac yn creu’r peth hardd ’ma sy’n teimlo i fi bron fel y Llwybr Llaethog.
Yma mae’r cantorion a’r sitar mewn deialog â’i gilydd, maen nhw’n siarad efo’i gilydd, ac maen nhw’n cymryd eu tro i arwain a dilyn ei gilydd.
Pan fyddwch chi’n gwrando ar y darn yma, dw i eisiau i chi deimlo y gallwch chi bron estyn allan a chyffwrdd ymyl y bydysawd.
Dwi eisiau i chi deimlo nad oes dim ffiniau mewn gwirionedd, ac mai dyna, cyn belled ag y gallwch chi weld a thu hwnt, ydi beth sy’n bosib.
Wrth ichi wrando ar y darn yma, dwi eisiau i chi feddwl am y posibilrwydd pella ’na a breuddwydio’ch ffordd i mewn iddo fo.
Joel:
Sut mae’ch breuddwydion chi yn swnio, tybed?
Fydden nhw’n heddychlon ac yn dawel, neu fydden nhw’n bowld ac yn uchel?
Fydden nhw’n swnio fel darn Reena Esmail?
Meddyliwch. Pa freuddwyd fyddech chi’n ei yrru allan trwy’r awyr ac i’r byd?
Falle y daw o’n wir!
Gwyliwch y BBC Singers a Debipriya Sircar yn perfformio Sun Sadar Sargam gan Reena Esmail, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Sun Sundar Sargam (PDF)

Hildegard of Bingen - O Euchari in leta via
Linton Stephens yn dal gweledigaethau ysbrydoledig a melodïau esgyn o flaengan O Euchari in leta via, gan Hildegard of Bingen
Linton:
Cafodd y gerddoriaeth yma ei sgrifennu gan Hildegard o Bingen, oedd yn byw bron i fil o flynyddoedd yn ôl yn yr Almaen.
Daeth yr awen iddi mewn gweledigaethau nad oedd neb ond hi’n gallu’u gweld, ac roedd hi’n credu mai negeseuon gan Dduw oedden nhw.
Yr ysbrydoliaeth i bopeth greodd Hildegard oedd ei gweledigaethau, neu syniadau a ddaeth i’w meddwl.
Fe ddisgrifiodd hi nhw fel fflam oedd yn llenwi ei meddwl a’i chorff.
Dywedodd Hildegard fod ei geiriau a’i barddoniaeth yn dod o’r syniadau hyn a bod ei cherddoriaeth hi’n eu perffeithio nhw.
Ac mae hyn wedi rhoi ychydig o ysbrydoliaeth i mi!
Felly, yma, dwi am geisio creu darlun o Hildegard o Bingen a rhai o’i gweledigaethau, a dwi am fynd â’r llygad ar draws y dudalen ac i mewn i’r gweledigaethau.
Degfed plentyn teulu aristocrataidd oedd Hildegard, a phan oedd hi’n wyth oed, fe gafodd hi ei hanfon i fyw mewn lleiandy - man lle mae lleianod yn byw ac yn gweddïo gyda’i gilydd, wedi cysegru eu bywyd i weithio dros eu heglwys.
Aeth Hildegard yn lleian, ac yn ddiweddarach yn Abades y lleiandy, yn gyfrifol am y gymuned gyfan o leianod.
Ond mi gafodd hi effaith fawr y tu allan i’r lleiandy hefyd.
Roedd Hildegard yn sgrifennu am grefydd, meddygaeth, a byd natur - planhigion ac anifeiliaid. Roedd hi’n barddoni hefyd, ac mae ei cherddoriaeth yn dal i gael ei pherfformio heddiw.
Un o’r pethau ddywedodd hi oedd bod ei gweledigaethau fel tân oedd yn llenwi ei meddwl a’i chorff, felly dwi am ddechrau gyda’r fflamau hynny, yn dod allan o gefn ei phen.
Y tân ’na. Y fflach o ysbrydoliaeth ’na.
I mi, mae tynnu llun yn debyg iawn i gyfansoddi cerddoriaeth; y cyfansoddiad ydi’r peth.
Mae cerddoriaeth yn ymwneud â ble mae’r synau’n mynd â’ch clustiau, a’ch dychymyg yn y pen draw, ac mae tynnu llun yn ymwneud â ble mae’r delweddau’n mynd â’ch llygaid.
Plaengan ydi’r term arferol am y math o gerddoriaeth roedd Hildegard yn ei sgrifennu, hynny ydi, cerddoriaeth grefyddol, wedi’i chanu yn Lladin.
Fel arfer mae ’na un alaw heb ddim harmoni na chyfeiliant, na hyd yn oed rhythmau. Cerddoriaeth fonoffonig ydi’n term ni am hyn, sef un sain - lleisiau yn canu gyda’i gilydd yn unsain.
Mae alaw plaengan Hildegard yn defnyddio melisma, sef canu llawer o nodau ar ddim ond un sillaf. Mae melisma’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn caneuon pop hefyd.
Mi sgrifennodd Hildegard alawon esgynnol hardd, ac chafodd y darn yma o gerddoriaeth ei sgrifennu er clod i Sant Eucharius a’r gwaith a wnaeth o dros yr eglwys.
Mae’n cael ei berfformio a cappella, felly does dim offerynnau’n cyfeilio i’r cantorion.
Mae cerddoriaeth Hildegard o Bingen yn dal i gael ei pherfformio, bron i fil o flynyddoedd ar ôl iddi fyw.
Pa syniadau cerddorol allech chi eu creu fyddai’n para mil o flynyddoedd?
Gwyliwch y BBC Singers yn perfformio dyfyniad o O Euchari in leta via gan Hildegard Bingen
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau O Euchari in leta via (PDF)

Cassie Kinoshi - the colour of all things constant
Dilynwch Cassie Kinoshi’n disgrifio’r ysbrydoliaeth a arweiniodd hi i fod yn gyfansoddwr, a’u phrosesau o ysgrifennu a recordio’r darn a oedd wedi eu hysgrifennu’n penodol ar gyfer Deg Darn y BBC
Cassie:
Fy enw i yw Cassie Kinoshi. Rwy’n gyfansoddwr ac yn sacsoffonydd, ac mae hynny’n golygu fy mod i’n treulio llawer o’m hamser yn ymarfer fy offeryn a llawer o’m hamser yn ysgrifennu ar gyfer ensembles amrywiol.
Pan oeddwn i’n un ar ddeg oed, cefais gyfle i berfformio yn y Royal Albert Hall fel rhan o Gala Ysgolion Swydd Hertford, lle’r oedd llawer o wahanol gorau plant wedi dod at ei gilydd yn un côr mawr, i berfformio gyda cherddorfa.
I mi, roedd bod yng nghanol y sain, yng nghanol y gerddoriaeth, gyda’r holl blant eraill hyn yn canu yn y gerddorfa enfawr hon, gan berfformio cerddoriaeth epig, yn foment wnaeth newid fy mywyd.
Rwy’n credu mai dyna pryd wnes i wirioneddol benderfynu fy mod yn dymuno bod yn gyfansoddwr ac yn berfformiwr, oherwydd roedd yn gyfle i mi ddeall sut beth oedd bod yn rhan o rywbeth mawr.
Mae Belinda Zhawi yn fardd sy’n ysgrifennu geiriau atgofus, hyfryd, rwy’n cael fy nenu atyn nhw, i'w darllen neu i’w gosod i gerddoriaeth. Ar gyfer y darn penodol hwn, roeddwn i’n meddwl y byddai hi’n addas iawn oherwydd mae ganddi hi eisoes gefndir o ysgrifennu geiriau ac ysgrifennu geiriau sy’n cyd-fynd â cherddoriaeth.
Enw’r darn yw, ‘the colour of all things constant’, sy’n ymadrodd a ddaeth o gerdd Belinda yn wreiddiol. Ac er ei bod wedi creu geiriau lliwgar hyfryd ar gyfer y cyfansoddiad hwn, rwyf hefyd yn archwilio’r lliw a’r gwead drwy gerddoriaeth.
Y cam nesaf yn y broses, ar ôl penderfynu ar y pwnc, yw eistedd i lawr ac ysgrifennu, sy’n aml yn beth eithaf rheolaidd pan fydd yr ysbrydoliaeth yno i chi ysgrifennu.
Felly, mae hynny’n golygu naill ai eistedd wrth y piano a chwarae’n fyrfyfyr nes i mi ddod o hyd i alaw benodol, neu ar gyfer y darn hwn roeddwn yn canu alawon ac yn datblygu’r darn o’r hyn roeddwn i’n ei glywed yn fy mhen.
Roedd y rhan fwyaf o hyn yn cael ei ysgrifennu ar y cyfrifiadur ar ôl i mi symud i ffwrdd o’r piano, a symud i ffwrdd o ganu i mewn i’m ffôn. Fe fyddwn i’n eistedd wrth y cyfrifiadur ac yn ysgrifennu bob dydd ac yn datblygu’r syniadau a oedd yn dod i ’mhen, mewn lleoliad mwy organig.
Yn ceisio penderfynu a yw’r ymadrodd mae Belinda wedi’i ysgrifennu yma, sef, ‘All things good: trees, rain and ocean.’ yn gweithio efo sut rwyf wedi’i osod.
All things good.[Yn canu’r alaw]
Oherwydd rwy’n meddwl weithiau bod y ffordd rwy’n ei osod ychydig yn drwsgl yma, felly rwy’n ceisio gweithio allan a oes angen i mi newid rhywfaint o hyn.
Y gair ‘good’ yn mynd ymlaen, [yn canu] ‘good’.
Dydw i ddim yn gwybod a yw hynny’n gweithio. Efallai y gwna i newid hynny.
Rwy’n credu mai’r peth rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf wrth glywed y darn hwn yn cael ei berfformio yw maint y sain. Rwyf wedi ysgrifennu rhannau sy’n hynod o ddeinamig, ac mae llawer o bethau’n digwydd felly alla i ddim aros i glywed hynny, gan symud oddi wrth sain gyfrifiadurol ac offerynnau ffug a chlywed hynny go iawn, gyda chyfoeth go iawn cerddorfa go iawn a lleisiau go iawn.
Felly, mae pum mis wedi mynd heibio ers i mi siarad am fy narn newydd ddiwethaf, ac rydyn ni yma yn Salford i weld yr ymarferion i baratoi ar gyfer darllediad byw pnawn ’ma.
Ellie:
Croeso’n ôl.
Rwy’n hynod falch o groesawu Cassie Kinoshi i’r ymarfer heddiw.
Da iawn, da iawn wir.
Felly, pan fyddwn ni’n dod at ‘kindness, kindness, kindness’ yn y fan yna, yn datgan y gair dair gwaith fel yna.
Y K ar blaen sy’n mynd i fynd ychydig ar goll, iawn.
Os yw’r K yn llawn egni ac yn eglur, yna bydd y sain sy’n dilyn yn anhygoel beth bynnag.
Cassie, unrhyw beth i'w ddweud am yr adran honno?
Cassie:
Sut byddech chi’n teimlo pe bai rywfaint yn gyflymach?
Ellie:
O ie, iawn.
Cassie:
Ydy hynny… ie?
Ellie:
Mae hynny’n iawn.
Cassie:
Ie, byddai hynny’n wych.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r darn hwn â phawb. Fe wnes i weithio’n galed ar hwn. Mae Belinda hefyd wedi gwneud llawer o waith, ac mae’r cerddorion a’r côr wedi gwneud gwaith mor wych yn ymarfer fel fy mod i wir yn siŵr bod y perfformiad byw ar BBC Radio 3 yn mynd i fod yn rhagorol.
Ie wir, roedd gwahaniaeth enfawr rhwng ei glywed ar gyfrifiadur a’i glywed yn fyw.
Rwy’n credu mai un o’r pethau rwy’n ei hoffi fwyaf am gyfansoddi yw’r bywyd mae chwaraewyr a pherfformwyr yn ei roi i’r gerddoriaeth, a sut mae pawb yn dod â’u llais eu hunain i sŵn y gerddoriaeth.
Dylech bob amser edrych ymlaen at glywed eich cerddoriaeth yn dod yn fyw, a’r profiad o gael y gerddoriaeth allan o’ch pen a chydweithio gyda phobl eraill i greu cerddoriaeth.
Rwy’n credu mai dyna un o rannau pwysicaf cerddoriaeth – cydweithio, a’r gymuned sy’n dod â darn yn fyw.
Gwyliwch y Cerddorfa Ffilharmonig y BBC a’r côr o Ysgol Gerddoriaeth Chetham’s yn perfformio colour of all things constant gan Cassie Kinoshi, a’u harwain gan Ellie Slorach
Kindness
- that silent friend who listensbefore pulling you away.
A portal the colour of all things constant -grass, sky, sunshine.
All things good: trees, rain, ocean.That act of magic, holds us togetherwith nothing but fingertips.
Ask the cracked land how kindness soundsin these times of rains that have not come.
In this drought of empathy,kindness emerges, crystal clear.
In the solidarity of a protest march,the gentle touch in a strangers' eyes.
Kindness - a bridge across chasms,for the land that holds you each day.
Thread of light, winking through chaos.
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau the colour of all things constant (PDF)

Marianne von Martínez - Overture ('Sinfonie') in C major - Allegro con spirito (1st mvt)
Shini Muthukrishnan yn cyflwyno’r cymuned cerddorol a gwaith symffonig o Marianne von Martinez a’r tempo gyflym, fywiog a melodïau o’r symudiad 1af yn ei ‘Sinfonie’ yn C fwyaf
Shini:
Beth sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am eich cymuned?
Eich cymdogion? Eich ffrindiau? Eich ysgol? Eich stryd, efallai.
Weithiau, mae cymuned gyfan yn byw mewn un adeilad.
Roedd y cyfansoddwr Marianne Martinez yn byw gyda’i theulu mewn bloc fflatiau yn Fienna, Awstria, dros ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.
Y gymuned oedd yn byw o gwmpas Marianne Martinez oedd y bobl berffaith, fel mae’n digwydd, i’w helpu i ddatgloi a datblygu ei dawn anhygoel am gerddoriaeth.
Roedd y gymuned arbennig hon o gymdogion yn cynnwys cyfansoddwyr ac athro canu enwog.
Dychmygwch fod â diddordeb mewn cerddoriaeth a bod eich adeilad yn digwydd bod yn llawn cerddorion dawnus eraill sy’n caru cerddoriaeth gymaint â chi - ffantastic!
Yn saith oed, roedd Marianne Martinez yn cael gwersi allweddellau gyda Haydn … Joseph Haydn, hynny yw, sef rhywun a ddaeth yn un o’r cyfansoddwyr enwoca yn y byd yn ddiweddarach.
Roedd o’n byw yn fflat yr atig!
Roedd hi hefyd yn cael gwersi canu gan yr athrawes oedd yn byw i fyny’r grisiau, a gwersi cyfansoddi gan gerddorion oedd yn byw’n agos.
Erbyn hyn mae’n debyg eich bod chi wedi sylweddoli bod Fienna’n lle arbennig iawn am gerddoriaeth tua’r ddeunawfed ganrif.
Doedd ’na ddim modd cerdded i lawr y stryd heb daro i mewn i gerddor!
Roedd Marianne Martinez yn lwcus iawn o ran y bobl o’r un anian oedd yn byw ochr yn ochr â hi, ond roedd hi’n llai lwcus o ran yr oes roedd hi’n byw ynddi.
Er ei bod hi’n gyfansoddwraig a pherfformwraig hynod dalentog, nôl yn y dyddiau hynny, doedd menywod ddim yn cael gweithio’n broffesiynol fel cerddorion.
Mae’n rhaid mai peth rhwystredig ydi cael rhywun yn dweud wrthoch chi na chewch chi ddim gwneud y gwaith rydych chi’n ei garu.
Er nad oedd hi’n cael cyfansoddi am ei bywoliaeth, doedd dim modd anwybyddu ei dawn hi.
Mi fyddai hi’n cael cais yn aml i ganu a chwarae’r allweddellau mewn digwyddiadau cyhoeddus, ac mi berfformiodd hi ger bron llys brenhinol yr Ymerodres Maria Theresa.
Roedd Marianne Martinez yn cynnal cyngherddau hefyd.
Glywsoch chi erioed am Mozart?
Wel, roedd o’n arfer dod i’w phartïon hi, ac mi wnaeth o gyfansoddi darnau i’r ddau chwarae gyda’i gilydd.
Allwch chi ddim mynd dim uwch na hyn!
Ysgrifennodd Marianne Martinez dros ddau gant o ddarnau o gerddoriaeth gan gynnwys darnau crefyddol, gweithiau i’r allweddell, llais a cherddorfa.
Ond mae’r darn yma, Symffoni yn C, yn arbennig.
Mae’n arbennig achos mae’n debyg mai dyma’r symffoni gyntaf i gael ei chyfansoddi gan fenyw.
Darn mawr o gerddoriaeth ar gyfer cerddorfa ydi symffoni, fel arfer gyda phedair adran, neu symudiad, pob un â theimlad gwahanol.
Mae symudiad cyntaf symffoni Marianne Martinez wedi’i farcio gan y cyfansoddwr yn Allegro con spirito yn yr Eidaleg, sef y dylid ei chwarae’n gyflym a bywiog, gyda digonedd o asbri!
Mae’r alaw a’r rhythmau bywiog ar ddechrau’r symffoni, ar y llinynnau, yn creu cerddoriaeth sy’n cyfleu dathliad mawr.
Mae’r alaw’n cael ei hailadrodd drwy’r darn gyda harmonïau gwahanol o dani.
Mae hyn yn newid y gerddoriaeth o’r cywair mwyaf, sy’n swnio’n llon, i gywair lleddf mwy niwlog.
Mae Marianne Martinez wedi ysgrifennu llawer o ddynameg yn ei symffoni i arwain y cerddorion ynghylch pa mor gryf neu dawel y dylid chwarae’r nodau.
Mae cyfansoddwyr fel arfer yn ysgrifennu marciau dynameg ac ati mewn Eidaleg.
Mae Marianne Martinez yn aml yn nodi’r gerddoriaeth fel piano – distaw – ac wedyn mae hi’n dilyn hyn gydag ateb cerddorol sy’n forte – uchel – neu hyd yn oed fortissimo: uchel iawn!
Mae fel sgwrs gerddorol o sibrwd a gweiddi!
Dynes ryfeddol oedd Marianne Martinez.
Yn gyfansoddwraig a pherfformwraig anhygoel, yn cael parch a bri gan bobl allweddol y cyfnod, ac eto, ydych chi erioed wedi clywed amdani?
Mae’n debyg eich bod chi wedi clywed am Mozart, a hyd yn oed Haydn o bosib, ond y tebygrwydd ydi nad ydych chi erioed wedi clywed am Marianne Martinez.
Ond fe wnaeth hi baratoi’r ffordd i lawer o gyfansoddwyr benywaidd ddaeth ar ei hôl ac mae’n hen bryd i bobl ddysgu ei henw a pha mor eithriadol o dalentog oedd hi.
Gwyliwch Cerddorfa Cyngerdd y BBC yn perfformio Sinfonie yn C fwyaf – Allegro con spirito (symudiad 1af), a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Symphony in C (PDF)

Laura Shigihara – Grasswalk o Plants vs, Zombies
Mwaksy Mudenda yn gofyn Laura Shigihara beth mae’n fel i gyfansoddi cerddoriaeth o gemau fidio, a fel mae hi’n defnyddio llwyth o arddulliau a melodïau gwahanol yn yr un darn o gerddoriaeth o ‘Grasswalk’ o Plants vs. Zombies
Mwaksy:
Sut mae chwarae gêm fideo gan ddefnyddio pŵer planhigion yn unig?
Yn y gêm Plants vs. Zombies, planhigion ydi’r arwyr.
Mae’n rhaid i’r chwaraewr amddiffyn eu tŷ trwy ddefnyddio gwahanol blanhigion.
Mae rhai planhigion yn gallu taflu pethau at zombies i’w stopio nhw, ac mae blodau a ffrwythau a llysiau eraill cael eu plannu i’r zombies eu bwyta nhw.
Y gyfansoddwraig Laura Shigihara greodd y gerddoriaeth ar gyfer y gêm.
Mae bron i 30 o ddarnau gwahanol o gerddoriaeth yn ffurfio’r trac sain.
Hyn i gyd ar gyfer un gêm!
Dydi rhai cyfansoddwyr ddim yn cyfansoddi cymaint â hynny o ddarnau drwy’u hoes gyfan.
Mae Laura Shigihara yn defnyddio sawl arddull wahanol i gyfleu gwahanol rannau o’r gêm.
Grasswalk ydi enw’r darn yma ac mae’n ymddangos ar ddechrau’r gêm.
Mae Laura Shigihara’n defnyddio alawon byr sy’n cael eu hailadrodd gan wahanol offerynnau.
Maen nhw’n fachog ac yn gwneud i chi eisiau hymian efo nhw, ond d’yn nhw ddim yn tynnu’ch sylw oddi ar y gêm.
Am gêm ddifyr a thrac sain gwych!
Pa fath o bethau oedd yn rhaid i ti feddwl amdanyn nhw pan oeddet ti’n sgrifennu’r gerddoriaeth?
Laura:
Wel, ro’n i’n gwybod o’r dechrau ei bod hi am fod yn gêm hollol wych a gwallgo, ac ro’n i’n llawn cyffro o gael cyfansoddi cerddoriaeth yn fy steil fy hun.
Ti’n gweld, fel arfer mae gen ti gynhyrchydd neu gyfarwyddwr sy’n dweud wrthot ti pa offerynnau gei di eu defnyddio, ac maen nhw’n anfon enghreifftiau o gerddoriaeth atat ti a gofyn iti wneud i dy gerddoriaeth swnio fel yna.
Ond gyda’r prosiect yma, roedd gen i lawer o hyblygrwydd.
Mwaksy:
Oes gen ti unrhyw dechnegau arbennig ar gyfer cyfansoddi cerddoriaeth i gemau fideo?
Laura:
Am mod i’n gwneud cerddoriaeth gêm fideo, roedd rhaid i mi wneud yn siŵr y gellid gwrando ar y gerddoriaeth drosodd a throsodd am gyfnodau hir, achos yn wahanol i gân reolaidd lle gelli di wrando arni unwaith neu ddwy a dyna ni, efo cerddoriaeth gêm fideo, yn aml bydd y chwaraewr yn clywed y trac yma drosodd a throsodd.
Felly, mae angen bod yn ofalus iawn nad wyt ti’n gwneud rhywbeth fyddai’n mynd ar nerfau’r chwaraewr.
Dwi hefyd yn hoff iawn o feddwl am arddull y gêm wrth gyfansoddi cerddoriaeth.
Felly, efo hwn, roedd yn eitha diddorol, reit?
Achos mae gynnon ni zombies sy chydig yn ych-a-fi, mae gennon ni blanhigion sy’n eitha ciwt, ac mae yna lawer o rannau yn y gêm hefyd sy’n ddoniol iawn.
Felly, roedd rhaid gofyn i mi fy hun, reit, sut ydw i’n gwneud cerddoriaeth sy’n ych-a-fi ac yn giwt ac yn ddoniol ar yr un pryd?
Felly, ar gyfer y rhan ych-a-fi, wnes i ddefnyddio llawer o offerynnau ac arddulliau cerddoriaeth a ballu sy’n gysylltiedig efo pethau mwy tywyll.
Ar gyfer y darn ciwt, wnes i’n siŵr bod gen i lawer o alawon eitha syml ond bachog.
Ac ar gyfer yr agwedd ddoniol, mi wnes i newid pethau trwy gymysgu curiadau i mewn o wahanol genres.
Mwaksy:
Wyt ti’n meddwl bod cerddoriaeth gêm fideo yn rhywbeth y gallai unrhyw un roi cynnig arni?
Laura:
Siŵr iawn, y cwbwl sy raid ei wneud yn y bôn ydi dod o hyd i gêm dach chi’n ei hoffi, un o’ch hoff rai ella, a’i chwarae heb y sain.
Fel’na, dach chi’n gallu dychmygu pa gerddoriaeth fase’n gallu ffitio.
Mi allwch chi ofyn i chi’ch hun, be ’di teimlad y gêm a sut ydych chi eisiau i chwaraewyr ymateb pan fyddan nhw’n gwrando ar eich cyfansoddiad?
Mwaksy:
Cerddoriaeth electronig fyddi di’n ei chyfansoddi fel arfer. Sut deimlad ydi cael cerddorfa i berfformio a chwarae dy gerddoriaeth?
Laura:
Ah, mae’n gymaint o fraint ac yn wirioneddol gyffrous i mi gael clywed fy ngherddoriaeth yn cael ei chwarae gan gerddorfa.
Dwi’n teimlo ei fod yn dod â bywyd newydd i’r gwaith. Dwi jyst wrth fy modd, mae mor cŵl.
Gwyliwch Cerddorfa Cyngerdd y BBC’n perfformio Grasswalk, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Grasswalk (PDF)

Errollyn Wallen - Mighty River
YolanDa Brown yn archwilio gyda Errolyn Wallen y themâu, rhythmau a gweadau o’u darn Mighty River sy’n coffau’r ddiddymiad o gaethwasiaeth yn ei chartref yn yr ucheldiroedd Yr Alban
YolanDa:
Dim ond ychydig gannoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl o Affrica’n cael eu dal, eu gwerthu a’u cludo mewn llongau i’r Caribî a gwahanol rannau o America.
Caethweision oedden nhw – yn cael eu cadw fel carcharorion a’u gorfodi i weithio’n anhygoel o galed heb dâl.
Ry’n ni i gyd weithiau’n gallu teimlo fod pethau’n annheg; os nad ydyn ni’n cael mynd allan gyda’n ffrindiau, neu os oes rhaid i ni wneud gwaith cartref diflas.
Ond meddyliwch, beth petai’ch bywyd cyfan chi’n cael ei reoli gan rywun arall a bod pob dewis yn cael ei gymryd oddi arnoch.
Mae bron yn amhosib dychmygu, yn tydi?
Cafodd y fasnach gaethweision ei diddymu trwy Ddeddf Seneddol ym 1807. Ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, mi sgrifennodd y cyfansoddwr Errollyn Wallen ei darn, Mighty River, i nodi’r foment hanesyddol hon.
Cafodd caethweision eu symud yn erbyn eu hewyllys o gwmpas y byd ar longau’n hwylio dros y dŵr.
Mae darn Errollyn Wallen yn gwrthgyferbynnu symudiad rhydd y dŵr gyda’r bobl oedd yn hwylio arno, oedd heb fod yn rhydd o gwbl.
Mae’r darn yn dechrau gyda chorn unigol yn chwarae Amazing Grace (Pererin Wyf).
Mae picolo ac yna clarinét yn ymuno â’r corn i chwarae’r alaw.
Cyn bo hir, rydyn ni’n clywed thema dŵr yn symud yn gyson, yn llifo a byrlymu trwy wahanol offerynnau’r gerddorfa, ac yn y cefndir mae rhythm ailadroddus, neu ostinato, yn cael ei chwarae gan y llinynnau.
Trwy sain y dŵr yn llifo, rydyn ni’n clywed hyrddiau o alaw Amazing Grace.
Ond mae ’na awgrym o rywbeth arall yn mynd ymlaen o dan hyn.
Ydych chi’n ei glywed o? Ydych chi’n meddwl ei fod o’n swnio’n gyfeillgar? Yn obeithiol? Neu ydi o’n teimlo braidd yn sinistr?
Wel, mae’r offerynnau is yn y gerddorfa – y trombôn bas, y sielo a’r bas dwbl, ynghyd â’r tympani, yn chwarae nodau bygythiol o dan sŵn gobeithiol, cyson yr afon sy’n llifo uwchben. Dyma wrthdaro teimladau go iawn
Ond tybed a ydi gobaith a rhyddid yn y golwg? Mae alaw Amazing Grace yn cael ei chwarae eto gan gorn unigol ar ddiwedd Mighty River, ond y tro yma mae’n swnio ychydig yn wahanol.
Mae’r cyfansoddwr wedi awgrymu ei fod i gael ei chwarae’n rhydd y tro yma. Ac erbyn hyn mae’r alaw’n cynnwys drwm siarad Affricanaidd, offeryn oedd yn cael ei ddefnyddio gan y caethweision i gyfathrebu â’i gilydd.
Mae’r gerddorfa gyfan yn cloi’r darn drwy bod pawb yn chwarae cord gyda’i gilydd. Ydych chi’n meddwl ei bod yn swnio fel petai rhywbeth wedi newid?
Nawr, fel cyfansoddwr, ’dych chi wedi dewis lle hardd i fyw ac i sgrifennu’ch cerddoriaeth. Ble ydyn ni?
Errollyn:
Dwi’n meddwl ’mod i wedi byw wrth ddŵr am y rhan fwya o ’mywyd.
Pan symudais i i Strathy Point, fe wnaeth hynny chwyldroi sut roeddwn i’n gweithio – bod ar frig Môr yr Iwerydd. Mae bod yn y lle arbennig yma wir, wir wedi newid fy holl synnwyr i o fodoli yn y byd.
Mae’r ffaith ei fod yn dirwedd mor helaeth yn gwneud imi deimlo’n fach ac yn gwneud cyfansoddi rywsut hyd yn oed yn fwy o bleser.
Ac mae hi mor dawel yma, ond ar yr un pryd yn fawreddog. Ac mi faswn i’n dweud hefyd fod dŵr, ers imi ddechrau cyfansoddi, yn rhywbeth dwi’n meddwl llawer amdano.
YolanDa:
Dwed rywbeth wrtha’i am Mighty River a’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r darn rhyfeddol yma.
Errollyn:
Ro’n i eisiau sgrifennu gwaith sy’n dathlu’r ysbryd dynol trwy ddioddefaint a dygnwch.
Mae’r darn yn ymwneud â’r daith i ryddid.
YolanDa:
A sut wnaeth dy syniadau cerddorol dyfu o’r hyn roeddet ti’n ei wybod am y fasnach gaethweision drawsatlantig?
Errollyn:
Sut mae cyfleu rhyddid mewn cerddoriaeth? Wnes i feddwl am ddŵr. Y ffordd y bydd dŵr – afon, nant – bob amser eisiau rhedeg tua’r môr. Ac mae’n debyg fod bodau dynol, mae gennon ni’r reddf gynhenid ’ma i fod yn rhydd.
Mae’n ymwneud â rhyddid a dwi’n defnyddio dŵr i ryw gyfleu hynny bron yn ddarluniadol.
Wrth wrando ar y gwaith, mi glywch chi’r holl ddarnau blodeuog ’ma yn yr unawdau chwythbrennau, telyn. Ac mae ’na lawer o stwff eitha meistrolgar, ond i mi y symud yn y cefndir yn y modd mae’r rhythm yn gweithio’n ddi-baid, ar hwnna wnes i weithio galetaf o bosib.
Mae ’na ysgafnder ynddo fo, ond mae ’na dywyllwch hefyd.
Mae ’na un foment lle mae’r djembe, sef drwm Affricanaidd, yn siarad â’r corn. Dwi wastad yn meddwl amdano fel, w’chi, Ewropead yn siarad ag Affricanwr. A dyma ni, y siarad ’ma a’r trio deall a chyfathrebu.
YolanDa:
Sut mae rhyddid wedi’i gynnwys yn y darn hwn?
Errollyn:
Y rheswm dwi’n hoffi bod yn gyfansoddwr ydi fy mod i’n teimlo’n rhydd iawn. Ond mae cymaint o wahanol ffurfiau ar ryddid.
Gwyliwch Cerddorfa Cyngerdd y BBC’n perfformio Mighty River (byrhau), a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Mighty River (PDF)

Judith Weir - Storm - Magic
Kiell Smith-Bynoe yn archwilio sain hudol ac ysbrydoliaeth y darn Storm gan Judith Weir, a’u hysgrifennodd mewn ymateb i The Tempest gan William Shakespeare. Cyfieithiad o The Tempest dyfyniad Gwyn Thomsd: Y Dymestle, 1963
Kiell:
Mae’n debyg ei bod hi bron yn amser i mi fynd ar y llwyfan.
Well i chi fynd i’ch seti!
Chwi, dylwyth teg y bryniau, ffrydiau, llynnoedd
Llonydd, coedydd: a chwi sydd ar y tywod
â throed ddi-olion yn ymlid treiau Neifion,
Gan hedfan gyda’i lanw pan ddaw’n ôl;
A chwi bypedau bychain sydd, ar loergan,Yn gwneud cylchoedd surion gwyrdd, sy’n ddiflas
I’r mamogiaid; a chwi sy’n cael eich pleseryn gwneud madarch hanner nos, sy’n llonniO glywed hwyrgloch ddwys…
T’wyllais i yr haul brynhawn…
Ar fy ngorchymyn i deffrôdd y beddau
Eu meirwon, agor, ac yna’u gollwng allan.
[cyfieithiad Gwyn Thomas: Y Dymestl, 1963]
Mi gafodd y geiriau barddonol yna eu sgrifennu gan William Shakespeare gannoedd o flynyddoedd yn ôl ar gyfer ei ddrama, The Tempest.
Cafodd ei ddramâu eu perfformio, ac maen nhw’n dal i gael eu perfformio, yma yn Y Globe yn Llundain, a dros y byd i gyd.
The Tempest wnaeth ysbrydoli’r cyfansoddwr Judith Weir i ysgrifennu’r gerddoriaeth yma, Storm.
Storm ffyrnig – tymestl – ydi Tempest, ac mae’r ddrama’n dechrau gyda thymestl sydd wedi’i chreu gan ddewin nerthol.
Mae’r prif gymeriadau’n wedi’u llongddryllio ar ynys ryfedd yn llawn ysbrydion hud ac angenfilod.
Ar yr ynys mae’r cymeriadau’n darganfod cariad, yn cwrdd â hen deulu iddyn nhw ac, fel y dywed Judith Weir, “trwy ymarfer trugaredd, maen nhw’n cymodi â’i gilydd”.
Judith, beth am The Tempest wnaeth dy ysbrydoli di i sgrifennu Storm?
Judith:
Drama gan Shakespeare ydi The Tempest, ac mae ’na gymaint o eiriau am gerddoriaeth ynddi. Mae fel petai Shakespeare wir eisiau clywed cerddoriaeth drwy gydol y ddrama.
Does gen i ddim actorion, ond mi allwn i gael cantorion ac offerynnau felly mi feddyliais y gallwn i wneud fy fersiwn fach fy hun o The Tempest.
Kiell:
Felly, dwed wrtha’i am yr offerynnau rwyt ti’n eu defnyddio ar gyfer y darn yma.
Judith:
Un diwrnod ro’n i allan am dro, ac mi welais i gwpl o hen ddrymiau olew roedd rhywun wedi’u gadael yn y stryd.
Wrth reswm, a finnau’n gyfansoddwr, mi es i fyny a’u taro nhw i weld pa fath o sain fydden nhw’n ei wneud, ac roedden nhw’n grêt, yn atseiniol iawn.
Felly, mi ddechreuais i feddwl pa fath o offerynnau, pa fath o bethau fyddai’n cael eu golchi i fyny ar draeth fel sy gennon ni yn The Tempest, sydd wedi’i osod ar ynys.
Ac mae ganddon ni offerynnau fel, guiro ydi’i enw fo - offeryn o Dde America ydi o - ond mae’n debyg i blisgyn pod coco neu rywbeth – mae’n gwneud synau gwych.
Kiell:
Magic ydi enw’r symudiad yma. Mae hud yn thema bwysig i’r Tempest, yn tydi?
Judith:
Mae hud yn thema enfawr yn The Tempest achos mae’r prif gymeriad, y dyn ’ma o’r enw Prospero, mae o’n Ddug, Dug Milan oedd o, ond hefyd, ei ddiddordeb mwyaf o oedd hud, ac mae’n debyg iddo fo dreulio blynyddoedd lawer yn ei astudio.
Nawr mae’n byw ar yr ynys, ac yn defnyddio hud er mantais iddo.
Mae geiriau Prospero’n dweud llawer am y creaduriaid rhyfedd sy’n byw ar yr ynys.
Er enghraifft, mae’n sôn bod pob math o fadarch yn ymddangos am hanner nos, mae’n dweud fod yna ellyllon, math o dylwyth teg a choblynnod.
D’yn ni ddim yn gwybod sut beth yn union ydyn nhw, ond dwi’n dychmygu eu bod nhw’n greaduriaid all fod yn eitha brawychus, dychrynllyd.
Felly, dwi’n rhoi llawer o waith i’r picolos uchel achos dwi’n meddwl bod hynny’n rhoi rhyw ddisgrifiad o’r math o synau y byddai’r creaduriaid rhyfedd hyn yn eu gwneud.
Ond hefyd, dwi’n meddwl bod hud a lledrith yn rhywbeth hardd iawn.
Ar brydiau, mae o’n creu swynion hud sydd efallai’n golchi’r ynys mewn goleuni arbennig. Fel petaech chi’n beintiwr, mi allech chi ddefnyddio pob lliw yn y byd.
Kiell:
Mae Judith Weir yn creu byd hudol trwy gerddoriaeth ac yn dod â phob elfen o ddrama yn fyw - heb actorion.
Pa fath o fyd fyddech chi’n ei greu? A sut fyddech chi’n gwneud iddo swnio’n hudol?
Gwyliwch aelodau o Gerddorfa Cyngerdd y BBC, BBC Singers a Grŵp Cerddoriaeth Plant Finchley’n perfformio Magic o Storm gan Judith Weir, a’u harwain gan Ellie Slorach
Cynllun gwers CA2/2il lefel/ Dilyniant Cam 3
Lawrlwythwch y cynllun gwers am bedwar wythnos o ddysgu a gweithgareddau i Magic from Storm (PDF)
