Bydwragedd Oes Fictoria: 'Hoelion wyth eu cymunedau'

  • Cyhoeddwyd

Mae mis Mai yn cynnig cyfle i ddathlu cyfraniad hanfodol bydwragedd yn sicrhau genedigaethau diogel ar hyd y blynyddoedd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ar 5 Mai roedd hefyd cyfle i gydnabod eu cyfraniad i wella iechyd mamau a'u babanod newydd-anedig ledled y byd.

I nodi'r achlysur, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes bydwreigiaeth yng Nghymru Oes Fictoria.

Bydwraig Oes FictoriaFfynhonnell y llun, Wikicommons

Yn ystod y cyfnod Fictoraidd, roedd bydwragedd, fel rheol, yn darparu cefnogaeth emosiynol a gofal meddygol sylfaenol i famau beichiog, yn ogystal â'u cynorthwyo yn ystod ac yn dilyn genedigaeth.

Er gwaethaf eu rôl hanfodol, roedd bydwreigiaeth yn alwedigaeth anffurfiol gyda'r mwyafrif o fydwragedd yn fenywod hŷn gyda phrofiad ymarferol o eni neu wedi dysgu eu crefft trwy fwrw prentisiaeth gyda bydwraig leol arall.

Ar y cyfan, roedd gwybodaeth a chyngor ar sut i gynorthwyo mewn genedigaeth yn ddiogel yn cael ei drosglwyddo ar lafar.

Serch hynny, yn 1867-8 cyhoeddwyd cyfrol arloesol Dr D.W Williams, Porthaethwy – Geni a Magu: sef llawlyfr y fydwraig a'r fagwraig. Mae'r meddyg yn cynnig cynghorion ar nifer o bethau gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i dorri'r llinyn bogail (umbilical cord) a sut i gyflwyno baban newydd-anedig i'w fam:

'Yn fuan ar ol genedigaeth y plentyn, gellwch hysbysu ei rywogaeth i'w fam, os bydd yn iach ac o drefniad da; ond os bydd rhyw goll ynddo, neu gamluniad, gwell ydyw peidio hysbysu yn rhy fuan a disymwth.'

'Hen fydwraig anwyl y Nant'

Roedd bydwragedd yn ferched uchel eu parch – yn arbennig felly, o fewn cymunedau dosbarth gweithiol neu wledig.

Bu Catrin Matthew o Lanllechid yn gwasanaethu ar ferched beichiog Dyffryn Ogwen am ddegawdau. Mae ysgrif goffa a gyhoeddwyd yn fuan wedi ei marwolaeth yn 1878 yn honni iddi gynorthwyo i eni '797 o blant i'r byd.'

Ganwyd yr olaf ychydig fisoedd cyn i Catrin farw a hithau'n 84 mlwydd oed! Roedd Catrin ei hun wedi rhoi genedigaeth i 12 o blant a bu pob un farw, ac eithrio dau, o'i blaen.

Dros y mynydd yn Nyffryn Peris roedd Selina Morris yn cynorthwyo gwragedd beichiog Nantperis. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1914, disgrifiwyd Selina fel 'hen fydwraig anwyl y Nant' ac fe gyhoeddwyd nifer o benillion er cof amdani.

Selina MorrisFfynhonnell y llun, Margaret Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Selina Morris, 'hen fydwraig anwyl' Nantperis ar gopa'r Wyddfa. Trwy garedigrwydd ei gor-wyres, Margaret Ellis

2,000 o enedigaethau

Mewn oes lle'r oedd cyfleoedd addysg i ferched yn brin roedd gweithio ac ennill arian fel bydwraig yn cynnig achubiaeth i nifer. Roedd Laura Jones – o Landanwg ger Harlech – yn weddw cyn ei phen-blwydd yn 40 oed ac yn fam i wyth o blant.

Yn dilyn marwolaeth ei gŵr, penderfynodd symud i'r Felinheli lle'r oedd ei chwaer yn byw. Cyn sefydlu ei hun fel bydwraig bu Laura a'i phlant yn byw am gyfnod mewn seler ar y Stryd Fawr.

Llwyddodd Laura i oresgyn ei thlodi trwy weithio fel bydwraig. Dros gyfnod o 40 mlynedd, honnwyd bod Laura wedi gwasanaethu yn ystod 2,000 o enedigaethau! Roedd gan gymuned Y Felinheli feddwl mawr ohoni gyda nifer yn ei hystyried fel Nain i'r pentref gan gyfeirio ati fel 'Nain Jones'.

Laura JonesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Laura Jones - neu 'Nain Jones' yng nghymuned Y Felinheli - roedd erthygl amdani yn Papur Pawb ym mis Mawrth 1903

Er bod gweithio fel bydwraig wedi cynnig ffrwd incwm ychwanegol i nifer o ferched, roedd sicrhau taliad gan gymdogion yn waith heriol ar adegau gyda rhai bydwragedd yn gorfod dwyn achos yn erbyn eu cleifion er mwyn hawlio arian am eu gwaith.

Yn 1906, hawliodd Kate Jones, bydwraig yn byw yng Nghlanypwll, Blaenau Ffestiniog 10 swllt oddi ar ei chymydog, John W. Roberts, fel taliad am ofalu am ei wraig a'i efeilliaid.

Pobl gyffredin

Tuag at ddiwedd y 19eg ganrif mae bydwreigiaeth yn dod yn alwedigaeth broffesiynol. Pasiwyd Deddf y Bydwragedd yn 1902, deddf sy'n garreg filltir yn hanes bydwreigiaeth yng ngwledydd Prydain.

O dan delerau'r ddeddf hon ffurfiwyd Bwrdd Canolog y Bydwragedd, corff a oedd yn rheoleiddio'r proffesiwn a gosod y safon o safbwynt hyfforddiant a chreu rhestr o fydwragedd cofrestredig. I gofrestru roedd angen ennill cymhwyster mewn ysbyty neu sefydliad perthnasol.

Gyda geirda, roedd hi'n bosib i wragedd a oedd eisoes yn gweithio fel bydwragedd ers o leiaf blwyddyn ennill eu lle ar y gofrestr heb gyflawni unrhyw hyfforddiant pellach.

Erbyn dechrau'r ganrif ddiwethaf roedd ton ifanc o ferched Cymru yn ennill cymwysterau swyddogol. Llwyddodd Mary Thomas Roberts o Fethesda i gymhwyso yn Ysbyty Mamolaeth Glasgow yn 1900. Bu'n gweithio fel nyrs a bydwraig yn ardal Bangor am 30 mlynedd.

Mewn sawl ystyr roedd bydwragedd Fictoraidd yn fwy na darparwyr gofal, roedd y gwragedd hyn ymhlith hoelion wyth eu cymunedau. Er bod llawer o'u henwau wedi mynd yn angof bellach, mae eu cyfraniad yn ein hatgoffa, fel heddiw, mai pobl gyffredin – unigolion sy'n ymdrechu i gynnig y gofal gorau posib i gymdogion a dieithriaid fel ei gilydd – sydd wastad wedi bod wrth wraidd ein darpariaeth iechyd.

Pynciau cysylltiedig