Ymchwiliad heddlu'n parhau wedi marwolaeth merch un oed

gwersyll Bryn Gloch
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yng ngwersyll Bryn Gloch ym Metws Garmon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad yn parhau yn dilyn marwolaeth merch un oed wedi digwyddiad ar faes gwersylla ger Caernarfon.

Yn gynharach clywodd cwest bod y ferch - Mabel Elizabeth Baldini o ardal Winsford yn Sir Caer - wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng ngwersyll Bryn Gloch ym Metws Garmon tua 10:20 ddydd Llun.

Clywodd y gwrandawiad fore Gwener iddi gael ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gan yr Ambiwlans Awyr.

Dywedodd y crwner i'r ferch farw yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty, a nodwyd mai anaf difrifol i'w phen oedd achos ei marwolaeth.

Wrth agor y cwest fe wnaeth uwch-grwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson estyn ei chydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r plentyn.

Cafodd y cwest ei ohirio.

Pynciau cysylltiedig