'Braint' Cymry yn Rhufain cyn angladd y Pab Ffransis

Roedd Elsi, Ffion a Gruff a'u rhieni o Lanbrynmair yn digwydd bod ar wyliau yn Rhufain yr wythnos hon
- Cyhoeddwyd
Nid straeon gwyliau Pasg pawb fydd mor rhyfeddol â rhai Elsi, Ffion a Gruff o Lanbrynmair wrth ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf.
Fe ddywedodd eu tad, Owain, ei bod yn "fraint" cael digwydd bod yn Rhufain cyn digwyddiad hanesyddol angladd Pab Ffransis.
Mae rhesi o filoedd o bobl wedi nadreddu drwy Sgwâr San Pedr ers dyddiau wrth i ddegau o filoedd ymweld â'r arch.
Mae Sgwâr San Pedr yn orlawn, gyda thua 200,000 o bobl, yn ogystal ag arweinwyr byd, wedi casglu yn y Fatican i dalu'r deyrnged olaf.

Yr olygfa yn Sgwâr San Pedr bore Sadwrn
Ymhlith y miloedd wnaeth ymweld â Sgwâr San Pedr yr wythnos hon oedd y teulu o Lanbrynmair.
"'Dan ni 'di dod draw ar gyfer gwyliau. Mae'n fraint i fod yma," meddai Owain.
"O'dd hi'n ddigon tawel i ddechre, yn syber, ond mae wedi prysuro."
Fe wyliodd y teulu yr arch yn cael ei symud o gartref y Pab i Basilica San Pedr ddydd Mercher.
"Mae'n hanesyddol. Digwydd bod yma ar achlysur drwg, falle, ond mae'n brofiad anhygoel i'r plant."

Roedd Dylan a Megan Price o Gaerdydd yn treulio eu mis mêl yn Rhufain yr wythnos hon
Mae'r arch yn cael ei symud ar ôl gweddi olaf yr angladd ddydd Sadwrn.
Ffransis yw'r Pab cyntaf ers canrif a mwy i ddewis peidio cael ei gladdu yn ninas y Fatican, ond yn hytrach yn eglwys Basilica Santa Maria Maggiore yn Rhufain.
Dyna lle wnaethon ni gwrdd â Dylan a Megan Price o Gaerdydd, sy'n treulio mis mêl gwahanol iawn i'r disgwyl ar ôl cyrraedd Rhufain ddydd Mawrth.
"Briodon ni ddydd Sadwrn - a phacio bore dydd Llun a clywed bod y Pab 'di marw," dywedodd Megan, sy'n athrawes hanes.
"Mae'r awyrgylch yn reit hapus, fel rhyw fath o ddathliad. 'Sdim pawb yn gallu gweud bo nhw di bod yn Rhufain pan ma'r Pab 'di marw!"
Ychwanegodd Dylan fod y profiad o fynd i weld yr arch yn fythgofiadwy.
"'Di o ddim be ti'n disgwyl 'neud rili yn Rhufain, ar dy fis mêl. Ma' hi 'di bod yn hynod o brysur," meddai.
"Ond 'dan ni 'di bod yn lwcus iawn o ga'l y profiad."

Mae Gari Wyn Williams o Ddeiniolen yn ffotograffydd yn Rhufain
Mae'r ffotograffydd Gari Wyn Williams o Ddeiniolen, Gwynedd, wedi byw yn Rhufain ers chwarter canrif, ac yn cofio profi achlysur tebyg.
"O'n i yma yn angladd John Paul II pan 'ddaru o farw," meddai.
"Mae'n achlysur anhygoel, mae'n rhywbeth arbennig. Mae'n anodd disgrifio. Mae'r seremoni, y traddodiadau, yn mynd yn ôl canrifoedd.
"I fi, sy'n tynnu lluniau, gweld y teimladau ar wynebau pobl, y gwacter mewn ffordd, weithiau, o golli rhywun mor bwysig yn eu bywydau nhw.
"Dwi yma i gofio'r Pab, ac hefyd i fi fel ffotograffydd, trio dal y foment a rheiny'n para mewn amser gobeithio."
Ychwanegodd fod y golled yn enfawr i Eidalwyr.
"O'dd o'n ddyn poblogaidd dros ben. O'dd gynno fo amser i bawb. O'dd pobl yn gwerthfawrogi hynna."

Bydd Debora Morgante, sy'n byw ar gyrion Rhufain, yn gwylio'r angladd
I babyddion a'r gymuned Gatholig, mae wedi bod yn gyfnod o alaru a myfyrio, ac yn ddigwyddiad hanesyddol i ymwelwyr yn Rhufain.
Ar ôl cyfnod swyddogol o alaru bydd y broses yn dechrau o ethol Pab newydd.
Mae Debora Morgante yn byw ar gyrion Rhufain ac wedi dysgu Cymraeg, a dywedodd y bydd y byd yn gwylio'r angladd.
"Bydd llawer o stress, mewn dinas sydd mor brysur, mor chaotic, gyda chymaint o draffig. Bydd miliynau o bobl yn dod o bob man," dywedodd.
"Ond dwi'n credu bod [y Pab] yn haeddu cael miliynau o bobl i ddod i'w weld am y tro olaf.
"Ac i'r rhai sydd heb gael cyfle i'w weld e'n fyw, i dalu teyrnged iddo."
'Ddim yn ddiwrnod trist'
Dywedodd David Greaney sy'n aelod o'r Eglwys Gatholig, o blwy Aberystwyth, mai cofio am y Pab oedd canolbwynt ei wasanaeth nos Wener.
"Gwasanaeth hyfryd neithiwr. Fel arfer yn cael offeren ar nos Wener ond neithiwr canolbwynt oedd cofio am y Pab," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Offeren Requiem – a rhaid cofio ystyr requiem sef gorffwys a gweddïo ar yr arglwydd i roi rhywun i orffwys tragwyddol.
"Neithiwr roedd yr offeiriadon yn gwisgo coch, yn symbol o'r cysylltiad rhwng y diweddar Bab a Sant Pedr ei hun. Fe fydd y lliw coch yn mynd i fod yn lliw amlwg iawn yn Rhufain heddiw. Yn dangos i ni Gatholigion yr olyniaeth apostolaidd a'r cysylltiad rhwng Y Pab a Sant Pedr ei hun.
"Fydd Heddiw ddim yn ddiwrnod trist, yn hytrach diwrnod o ddathlu bydd yr angladd ac offeren requiem yn bwysig, yn cyflwyno enaid y sawl sydd wedi marw i fynd ymlaen i'w wobr fel gwas da a ffyddlon. Mae hi'n gwbl naturiol dathlu mewn requiem i ddal i fynd ymlaen a thua'r nefoedd."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid dweud fy mod i wedi cael fy mhlesio yn fawr gan y Pab. Mae'n cael ei gladdu tu allan i'r Fatican a perffaith hawl i ddewis hyn.
"Be sydd wedi bod yn ddiddorol gyda fo ydi ei fod yn mynd allan i'r byd a dod allan o furiau'r Fatican.
"Un peth dwi wedi sylweddoli wythnos yma ydi bod Pabau diweddar, ers y 60au, wedi ymwrthod cael eu coroni wrth ddod yn Bab a syniad o frenin yn byw tu ôl i furiau wedi mynd yn enwedig efo'r Pab yma.
"Mae o wedi mynd allan i'r byd i gwrdd â phobl ac ymwneud a'r byd mewn ffordd bersonol a bod yn offeiriaid i bobl ac wedi bod yn driw iawn i'w alwedigaeth. Doedd o ddim yn bell ohonon ni, yn rhan o'r teulu ac mae o wedi gweld y teulu dynol yn deulu iddo hefyd. Mae hyn wedi bod yn beth arbennig o dda.
"Yn ddiddorol yr wythnos yma yn Aberystwyth gweld ymateb pobl, tristwch wedi bod yn y gymuned ond hefyd pobl wedi ei edmygu am gyrraedd pen y daith yn driw i'w alwedigaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill