Cadeirlan Bangor: Cyhoeddi adroddiad i honiadau o ymddygiad amhriodol

Cafodd nifer o bobl "sy'n gysylltiedig â bywyd y gadeirlan" eu gwahodd i gymryd rhan yn yr adolygiad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", iaith amhriodol ac yfed gormod o alcohol wedi dod i'r amlwg mewn adroddiad i'r hyn a gafodd ei alw yn "fater hynod o ddifrifol a brys" yng Nghadeirlan Bangor.
Ym mis Chwefror, lansiodd yr Eglwys yng Nghymru yr ymchwiliad ond ni chafodd unrhyw fanylion eu datgelu.
Mae'r adroddiad annibynnol hefyd yn nodi bod "diffyg gwaith papur priodol ar gyfer rhai swyddi cyflogedig" a diffyg cod ymddygiad.
Wrth ymateb dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John sydd hefyd yn Esgob Bangor fod y canfyddiadau "yn anodd eu clywed" ond bod rhaid delio â nhw "er mwyn symud ymlaen gyda didwylledd".
Cafodd nifer o bobl "sy'n gysylltiedig â bywyd y gadeirlan" eu gwahodd i gymryd rhan yn yr adolygiad gan Thirtyone:eight - corff allanol sy'n arbenigo mewn rhoi cyngor ar ddiogelu mewn cyd-destunau eglwysig.
Ond mae awduron yr adroddiad wedi dweud nad oedd yr "archwiliad yn ymchwilio i gwynion a wnaed yn erbyn unigolion penodol".
"Er bod pobl yn ymddwyn yn dda ar y cyfan," medd yr adroddiad, "cafodd archwilwyr wybod am ymddygiad amhriodol fel iaith amhriodol, doedd yna ddim ffiniau o ran cyfathrebu (y tu allan i oriau gwaith ac i ffwrdd o adeiladau swyddfa) ac roedd yna gyfeiriadau hefyd at yfed gormod o alcohol."
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
"Cafwyd cwynion hefyd am eraill yn y gadeirlan a oedd yn gysylltiedig â defnyddio iaith amhriodol o flaen aelodau iau o'r côr a bod hyn yn fwy na 'cellwair'," medd yr adroddiad, ac ar adegau nodwyd ei fod yn achosi cywilydd posibl i rai.
Cyfeiriwyd hefyd at ddiwylliant "lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn niwlog", a bod "rhai yn credu bod anlladrwydd yn dderbyniol".
Ychwanega'r adroddiad "nad oedd hi'n ymddangos i rai fod unrhyw fesurau diogelu wedi'u rhoi ar waith pan oedd ymddygiad rhai unigolion, yn ôl y sôn, yn annerbyniol, a dechreuodd hyn effeithio ar eraill".
Cafodd y rhai oedd yn archwilio wybod hefyd am grwpiau WhatsApp y mae unigolion yn eu defnyddio i rannu eu teimladau a'u rhwystredigaethau.
"Mae'r sylwadau negyddol hyn a gafodd eu hadrodd yn ymddangos yn gwbl amhriodol ac os, dyma'r achos, yna dylid darparu canllawiau i archwilio defnydd diogel a phriodol o gyfryngau cymdeithasol."
Staff 'ddim yn ymwybodol o ganllawiau'
Dywedodd yr adolygiad nad oedd "staff yn ymwybodol o ganllawiau ymddygiad" a allai adael plant, oedolion bregus, staff y gadeirlan, ac enw da'r eglwys "yn fwy agored i honiadau a chamdriniaeth".
Nodwyd bod yfed alcohol yn "ffactor o fewn yr amgylchedd hwn", ac felly argymhellir mabwysiadu polisi clir i sicrhau fod "pobl sy'n yfed wedi'r gwasanaethau yn ymwybodol o'r angen i gyfyngu ar yr hyn y maent yn ei yfed a nodwyd na ddylid rhoi pwysau ar bobl i yfed yn erbyn eu hewyllys".
Nododd yr adroddiad hefyd fod y gadeirlan yn "fan agored i aelodau'r cyhoedd fynd i mewn iddo yn ystod gwasanaethau ond hyd yn oed pan fo mynediad yn gyfyngedig mae cymaint o ddeiliaid allweddi fel y gall pobl gerdded i mewn i sesiynau plant heb i neb wybod eu bod yno".
Galwodd yr adroddiad hefyd am wiriadau diogelwch priodol - Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) - wrth recriwtio staff ar gyfer rhai rolau.
Amlygodd yr adolygiad "gryfderau allweddol", gan gynnwys "ymwybyddiaeth sylfaenol" o ddiogelu, gyda'r holl glerigwyr a nifer o aelodau lleyg wedi mynychu hyfforddiant diogelu.
A soniodd hefyd ei fod yn "bod newidiadau cadarnhaol sylweddol wedi bod o fewn yr eglwys gadeiriol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gwneud y Gymraeg yn rhan allweddol o'r gwasanaethau".

Dywedodd y Parchedicaf Andrew John y byddai'r Gadeirlan yn "ymrwymo i'r gwaith o atgyweirio, o ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach"
Mae ail adroddiad hefyd wedi ei gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad gan glerigwyr - sydd yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys penodi arweinyddiaeth gref a chreu diwylliant cyfathrebu barchus.
Roedd yna gyfarfod yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul i gyhoeddi'r adroddiadau ac mae'r Archesgob yn gosod y cyfrifoldeb i ymateb i'r ddau ddogfen yn nwylo dau grŵp.
Y cyntaf yw grŵp gweithredu o dan gadeiryddiaeth yr Archddiacon David Parry, a fydd yn gyfrifol am weithredu argymhellion y ddau adroddiad yn llawn erbyn 4 Awst.
Yr ail grŵp yw bwrdd goruchwylio o dan gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes, fydd yn goruchwylio a chraffu ar waith y grŵp gweithredu a chefnogi'r deon newydd.
'Cyfle i ni newid'
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John mewn datganiad, dolen allanol: "Rwy'n cydnabod bod y canfyddiadau hyn yn anodd eu clywed—ond mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am symud ymlaen gyda didwylledd.
"Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y rhai a ddaeth ymlaen ac rwyf am anrhydeddu eu gonestrwydd a'u dewrder.
"Rydw i eisoes yn myfyrio ar yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddysgu o'r broses hon—nid yn unig fel arweinydd, ond fel cyd-bererin.
"Byddwn yn ymrwymo i'r gwaith o atgyweirio, o ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach - gyda'n gilydd.
"Er bod hwn wedi bod yn gyfnod sobreiddiol, mae hefyd yn cynnig cyfle i ni newid. Bydd yn golygu gwaith caled, ond gall hefyd ddod â iachâd, ac nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain."