Perchennog cwmni trychineb padlfyrddio wedi'i diswyddo o'r heddlu

Mae wedi dod i'r amlwg bod Nerys Bethan Lloyd wedi cael ei diswyddo gan yr heddlu yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod perchennog cwmni padlfyrddio a gafodd ei charcharu ar ôl marwolaethau pedwar o bobl yn Sir Benfro, wedi cael ei diswyddo gan yr heddlu yn 2022 ar ôl gwneud hawliad yswiriant twyllodrus.
Cafodd Nerys Bethan Lloyd, 39 o Aberafan, ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis yr wythnos ddiwethaf ar ôl i bedwar person farw ar daith badlfyrddio yr oedd hi'n gyfrifol amdani ar Afon Cleddau yn Hydref 2021.
Mae Heddlu De Cymru nawr wedi cyhoeddi manylion gwrandawiad disgyblu'r cyn-heddwas.
Mae'n datgelu y cafodd ei diswyddo yn 2022 ar ôl ceisio hawlio bron i £600 trwy gynllun yswiriant car, pan mai tua £20 oedd cost y gwaith.
Ei chwmni Salty Dog oedd wedi trefnu'r daith lle bu farw Paul O'Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley.
Roedd hi wedi cyfaddef dynladdiad drwy esgeulustod difrifol a throsedd iechyd a diogelwch.

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley
Nawr bod yr achos troseddol wedi dod i ben, mae Heddlu'r De wedi rhyddhau manylion ymchwiliad camymddwyn i dwyll yswiriant nad oed wedi'i gyhoeddi o'r blaen.
Yn ei ganfyddiadau, mae'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn dweud bod Lloyd wedi gwneud hawliad twyllodrus yn erbyn cynllun yswiriant moduro Ffederasiwn Heddlu De Cymru.
Roedd gwir gost atgyweirio ei char "oddeutu £16 i £20", ond roedd wedi hawlio £577.55.
Dywed yr adroddiad, pan ddaeth y mater i'r amlwg, fod Nerys Lloyd wedi cyfaddef ac wedi ymddiheuro'n syth.
Cafodd y mater hefyd ei adrodd i Heddlu'r De fel achos o dwyll, ac fe gafodd Lloyd ei chyfweld dan rybudd ar 11 Hydref 2021 - bythefnos cyn y trychineb ar yr afon.
Fe wnaeth gyfaddefiad llawn i'r hawliad twyllodrus, a dywedodd ei bod wedi gwneud "camgymeriad enfawr".
Ad-dalodd yr arian a gafodd ei hawlio.
Ar 19 Hydref 2021 fe dderbyniodd rybudd ffurfiol am y drosedd o dwyll.
Ei diswyddo'n syth
Yn y gwrandawiad disgyblu ym mis Ionawr 2022, daeth y prif gwnstabl i'r casgliad fod yr honiadau o dorri safonau proffesiynol wedi'u profi, a bod Lloyd wedi dwyn anfri ar yr heddlu a thanseilio hyder y cyhoedd.
Dywedodd Mr Vaughan ei bod yn gwbl annerbyniol i blismyn, sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith, dorri'r gyfraith eu hunain.
Daeth i'r casgliad y dylid ei diswyddo yn syth.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth i'r amlwg bod Nerys Lloyd wedi cael ei gwahardd o'i gwaith gan Heddlu'r De pan ddigwyddodd y trychineb ar yr afon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Ebrill