BBC performance in Wales is strong and BBC Wales’ services have important role to play but they face challenges, Trust review finds

Date: 17.08.2016     Last updated: 18.08.2016 at 10.16

Today the BBC Trust has published a service review of BBC services in Wales, Scotland and Northern Ireland. The review found that BBC performance in Wales is strong with reach levels and perceptions often above the UK average but also highlighted that services made in and for Wales face challenges.

Both BBC Radio Wales and BBC Radio Cymru, as the only radio stations made in and for Wales, have important roles in supporting and strengthening the Welsh language and culture and delivering the BBC’s public purposes. They are highly valued by their listeners. However they aren’t reaching as many people as they were and both stations are looking at how to maintain their appeal.

The review also assessed the performance of BBC Wales' news and current affairs on TV and online and found that while audience perceptions of the services are high, in line with trends for TV overall, the reach of these services has fallen slightly in line with broader trends.

Similar to the other nations, younger audiences are still proving the hardest to reach with older audiences remaining the highest consumers of BBC TV and radio services in Wales.

BBC Wales’s online offer has developed in recent years including the 2014 launch of the Welsh language news app, Cymru Fyw. The app attracts around 42, 000 unique browsers each week with two thirds of users under the age of 45.

Audience perceptions for BBC Wales online are very positive with Trust research showing that 91% of its users saying it is informative, 83% relevant, 81% high quality and 71% that it provides the right amount of coverage for their area.

As audience shift online looks only set to increase the Trust has asked the BBC to suggest clearer plans for how it plans to address this challenge in each nation.

BBC Trustee for Wales, Elan Closs Stephens said:

“The BBC’s services in Wales play a very important role in informing, supporting and celebrating Wales.  

“Radio Wales and Radio Cymru are unique and hugely valued by Welsh audiences but they face challenges. The Trust is pleased that Radio Wales is already looking at its editorial direction and we have asked the BBC to consider how its language offers should evolve in the future.

“Rona Fairhead has made a commitment to ensuring nations services are a priority area for the new BBC Board and I think this is a hugely positive step forward for BBC Wales.”

As a result of the review the Trust has made recommendations for the BBC to address:

  • Online offer - The challenge of adapting to give more and varied BBC content online is accepted by the BBC and the Trust would like to see clear plans to address it across the nations when licence fee funding for the next few years is finalised. Timing: We expect this to be part of the next round of financial planning across the BBC.
  • News and current affairs hours - Each nations’ radio station has consistently outperformed its commitment for hours of news and current affairs output so the Trust has increased the level of these conditions to reflect more recent levels. Timing: immediate
  • Audience expectations of BBC news - Audience perceptions of BBC news are very strong overall but the evidence gathered for this review shows that audiences have extremely high expectations of the BBC and these are not currently being met.
    - In Scotland the challenge is particularly acute with many audience perceptions of news output are lower than average and we heard a very critical opinion from some members of the audience. The BBC is already making some programming changes and it will be important to make sure the impact of these is tracked.
    - In Northern Ireland audiences show a desire for more coverage of a broader range of subjects and a wider range of voices to keep pace with changes in society. Again BBC Northern Ireland is aware of this challenge and is working to address it.
    - In Wales the BBC will need to find ways to ensure audiences are kept informed about Welsh matters, and that their expectations in areas such as Welsh political coverage and holding decision-makers to account are fully met.
    - Across all nations, research showed us that the BBC’s ability to hold decision-makers to account does not meet expectations. This was also highlighted to us in the review of BBC local news services in England. We recommend that the BBC seeks to understand how it can meet audience expectations better across all services. Timing: The extent to which BBC nations’ news output meets audience expectations should be part of the BBC’s future annual performance assessment.
  • Indigenous minority language output - The BBC provides language programming onBBC Radio Cymru, BBC Radio nan Gàidheal and BBC ALBA, as well as on BBC Northern Ireland services. Once BBC funding for the next licence fee period is finalised, the Trust recommends that the BBC agrees how its indigenous minority language services should evolve in the future. Timing: We expect this to be part of the next round of financial planning across the BBC.

Notes to editors

  • Each BBC service is reviewed against its licence at least once every five years. More information on service reviews carried out by the Trust can be found here along with links to the Trust’s 2011 review of the BBC’s radio services in the devolved nations and 2010 review of BBC ALBA.
  • The Trust’s work plan for 2016 set out its plans for reviewing the nations’ news and radio services in England.
  • The review launched in November 2015.

Mae arolwg gan Ymddiriedolaeth y BBC wedi darganfod bod perfformiad y BBC yng Nghymru yn gryf ac mae gan wasanaethau BBC Cymru rôl bwysig i’w chwarae ond maent yn wynebu heriau

Mae arolwg gan Ymddiriedolaeth y BBC wedi darganfod bod perfformiad y BBC yng Nghymru yn gryf ac mae gan wasanaethau BBC Cymru rôl bwysig i’w chwarae ond maent yn wynebu heriau.

Heddiw, mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cyhoeddi arolwg gwasanaeth o wasanaethau’r BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Mae’r arolwg wedi darganfod bod perfformiad y BBC yn gryf yng Nghymru, gyda lefelau cyrhaeddiad ac argraffiadau yn aml yn uwch na’r cyfartaledd yn y DU, ond roedd hefyd yn pwysleisio bod gwasanaethau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru yn wynebu heriau.

Mae gan Radio Cymru a Radio Wales, fel yr unig orsafoedd radio sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru, rôl bwysig yn cefnogi ac atgyfnerthu’r iaith a diwylliant Cymru a chyflawni dibenion cyhoeddus y BBC.  Maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan eu gwrandawyr.  Fodd bynnag, nid ydynt yn cyrraedd cymaint o bobl ag yr oeddent ac mae’r ddwy orsaf yn edrych ar sut i gynnal eu hapêl.

Roedd yr arolwg hefyd yn asesu perfformiad newyddion a materion cyfoes BBC Cymru ar y teledu ac ar-lein.  Darganfu’r arolwg, er bod argraffiadau’r gynulleidfa o’r gwasanaethau yn uchel, yn unol â’r tueddiadau cyffredinol ar gyfer y teledu, mae cyrhaeddiad y gwasanaethau hyn wedi gostwng ychydig, yn unol â thueddiadau ehangach.

Yn yr un modd â’r cenhedloedd eraill, y cynulleidfaoedd iau sy’n parhau i fod y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd, gyda chynulleidfaoedd hŷn yn parhau i fod y defnyddwyr uchaf o wasanaethau teledu a radio y BBC yng Nghymru.

Mae arlwy ar-lein BBC Cymru wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys lansiad yr ap newyddion Cymraeg yn 2014, Cymru Fyw.  Mae’r ap yn denu tua 42,000 o borwyr unigryw bob wythnos, gyda dwy ran o dair o’r defnyddwyr o dan 45 oed.

Mae argraffiadau cynulleidfaoedd o arlwy ar-lein BBC Cymru yn gadarnhaol iawn, gyda gwaith ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth yn dangos bod 91% o’i ddefnyddwyr yn dweud ei fod yn addysgiadol, 83% perthnasol, 81% o safon uchel a 71% ei fod yn darparu’r lefel cywir o gynnwys ar gyfer eu hardal.

Gan fod symudiad y gynulleidfa at ar-lein yn debyg o brysuro, rydym wedi gofyn i’r BBC amlinellu cynlluniau cliriach ar sut mae nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r her hon ym mhob cenedl.

Dywedodd Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens:

“Mae gwasanaethau’r BBC yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn yn hysbysu, cefnogi a dathlu Cymru.  

“Mae Radio Cymru a Radio Wales yn unigryw ac maent yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn gan gynulleidfaoedd yng Nghymru, ond maent yn wynebu heriau.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o weld bod Radio Wales eisoes yn edrych ar ei gyfeiriad golygyddol, ac rydym wedi gofyn i’r BBC ystyried sut y dylai ei gynigion iaith ddatblygu yn y dyfodol.

“Mae Rona Fairhead wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau’r cenhedloedd yn faes blaenoriaeth i Fwrdd newydd y BBC ac rwy’n credu bod hyn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i BBC Cymru.”

O ganlyniad i’r arolwg, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gwneud argymhellion i’r BBC fynd i’r afael â:

  • Yr arlwy ar-lein – Mae’r BBC yn derbyn yr her o addasu i ddarparu cynnwys mwy amrywiol y BBC ar-lein ac mae’r Ymddiriedolaeth yn awyddus i weld cynlluniau clir i fynd i’r afael â hyn ar draws y cenhedloedd pan fydd y trefniadau’n cael eu cwblhau ar gyfer ariannu ffi’r drwydded ymhen ychydig flynyddoedd. Amserlen: Rydym yn disgwyl i hyn fod yn rhan o’r rownd nesaf o gynllunio ariannol ar draws y BBC.
  • Oriau newyddion a materion cyfoes – Mae gorsafedd radio pob un o’r cenhedloedd wedi perfformio’n gyson well na’i ymrwymiad ar gyfer oriau o allbwn newyddion a materion cyfoes, felly mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynyddu lefel yr amodau hyn i adlewyrchu lefelau mwy diweddar. Amserlen: ar unwaith
  • Disgwyliadau’r gynulleidfa o newyddion y BBC – Mae barn y gynulleidfa am newyddion y BBC yn gryf iawn ar y cyfan, ond mae’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr arolwg hwn yn dangos bod gan gynulleidfaoedd ddisgwyliadau uchel iawn o’r BBC ac nid yw’r rhain yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd.
    - Yng Nghymru, bydd angen i’r BBC ddarganfod ffyrdd o sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu hysbysu ynghylch materion am Gymru, a bod eu disgwyliadau mewn meysydd megis rhaglenni gwleidyddol o Gymru a dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif yn cael eu cyflawni’n llwyr.
    - Yn yr Alban, mae’r her yn arbennig o amlwg, gyda barn nifer o’r gynulleidfa am yr allbwn newyddion yn is na’r cyfartaledd, a chlywsom feirniadaeth lem iawn gan rai aelodau o’r gynulleidfa.  Mae’r BBC eisoes yn gwneud rhai newidiadau rhaglennu a bydd yn bwysig sicrhau ein bod yn olrhain effaith y rhain.
    - Yng Ngogledd Iwerddon, mae cynulleidfaoedd yn dangos dyhead am ystod ehangach o bynciau a lleisiau er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas.  Unwaith eto, mae BBC Gogledd Iwerddon yn ymwybodol o’r her hon ac maent yn gweithio i fynd i’r afael â hyn.
    - Ar draws pob un o’r cenhedloedd, mae ymchwil wedi dangos i ni nad yw gallu’r BBC i ddwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif yn cyflawni’r disgwyliadau.  Amlygwyd hyn i ni hefyd yn yr arolwg o wasanaethau newyddion lleol y BBC yn Lloegr.  Rydym yn argymell bod y BBC yn ceisio deall sut y gall gyflawni disgwyliadau cynulleidfaoedd yn well ar draws pob un o’i wasanaethau. Amserlen: Dylai’r graddau y mae allbwn newyddion y BBC yn y cenhedloedd yn cyflawni disgwyliadau cynulleidfaoedd fod yn rhan o asesiad y BBC o’i berfformiad blynyddol yn y dyfodol.
  • Allbwn ieithoedd lleiafrifol cynhenid – mae’r BBC yn darparu rhaglenni iaith ar BBC Radio Cymru, BBC Radio nan Gàidheal a BBC ALBA, yn ogystal ag ar wasanaethau BBC Gogledd Iwerddon.  Ar ôl cadarnhau cyllid y BBC ar gyfer cyfnod nesaf ffi’r drwydded, mae’r Ymddiriedolaeth yn argymell bod angen i’r BBC gytuno ar sut y dylai ei wasanaethau ieithoedd lleiafrifol cynhenid ddatblygu yn y dyfodol. Amserlen: Rydym yn disgwyl i hyn fod yn rhan o’r rownd nesaf o gynllunio ariannol ar draws y BBC.

Nodiadau i olygyddion