Trust confirms S4C funding for 2017/18
Welsh language channel S4C will receive £74.5m funding from the BBC in 2017/18, the BBC Trust confirmed today in a letter from Chairman Rona Fairhead to the S4C Authority Chair Huw Jones.
The current funding settlement runs to March 2017, and the Trust has pledged to continue this year’s level of funding to 2018 in order to provide financial stability for the channel during the Government’s review, in agreement with the BBC Executive.
It marks a continuation of the funding level already agreed between the Trust and S4C Authority up to 2016/17. It follows the Government’s announcement that it will maintain funding for the channel in 2016/17 at the current level, and conduct a review of the channel in 2017.
The funding is in addition to the 520 hours of programming provided by the BBC to S4C each year.
BBC Trust Chairman Rona Fairhead said:
“I am delighted that we can provide stable funding for Welsh language broadcasting on S4C during this important time for the channel. We are absolutely committed to ensuring that audiences in Wales are well served in both languages and I hope that the BBC and S4C’s successful partnership will continue into the next Charter.”
BBC Trustee for Wales Elan Closs Stephens said:
“I am pleased that the BBC’s strong partnership with S4C will continue to deliver for audiences, with a stable income into 2018. In the next Charter period we hope to set the foundations for a renewed relationship with S4C and the continuation of high quality Welsh language programmes for audiences across Wales.”
Yr Ymddiriedolaeth yn cadarnhau ariannu S4C ar gyfer 2017/18
Bydd S4C, y sianel Gymraeg, yn cael £74.5m gan y BBC yn 2017/18, cadarnhaodd Ymddiriedolaeth y BBC heddiw mewn llythyr gan y Cadeirydd, Rona Fairhead, at Gadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Daw'r setliad ariannu presennol i ben ym mis Mawrth 2017, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi addo parhau â'r un lefel ariannu ag a ddarperir eleni hyd at 2018 er mwyn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r sianel yn ystod adolygiad y Llywodraeth, drwy gytundeb â Bwrdd Gweithredol y BBC.
Mae'n golygu y bydd y lefel ariannu y cytunwyd arni eisoes rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Awdurdod S4C hyd at 2016/17 yn parhau. Mae'n dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth y bydd yn parhau i ariannu'r sianel yn 2016/17 ar y lefel bresennol ac yn adolygu'r sianel yn 2017.
Mae'r arian yn ychwanegol at y 520 awr o raglenni y bydd y BBC yn eu darparu ar gyfer S4C bob blwyddyn.
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Rona Fairhead:
"Rwyf wrth fy modd y gallwn ddarparu arian sefydlog ar gyfer darlledu Cymraeg ar S4C yn ystod y cyfnod pwysig hwn i'r sianel. Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod cynulleidfaoedd yng Nghymru'n cael eu gwasanaethu'n dda yn y ddwy iaith ac rwy'n gobeithio y bydd partneriaeth lwyddiannus y BBC ac S4C yn parhau i gyfnod y Siarter nesaf."
Dywedodd, Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens:
"Rwy'n falch y bydd y bartneriaeth gref rhwng y BBC ag S4C yn parhau i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd, drwy sicrhau incwm sefydlog hyd at 2018. Yng nghyfnod nesaf y Siarter, rydym yn gobeithio gosod y sylfeini ar gyfer perthynas newydd ag S4C gan barhau i ddarparu rhaglenni Cymraeg o safon uchel i gynulleidfaoedd ledled Cymru."
Search the site
Can't find what you need? Search here