Os wyt ti'n meddwl dy fod yn gwybod popeth am gysawd yr haul, meddylia eto.
Mae rhai o'r ffeithiau hyn yn arallfydol!
Byddai'n cymryd 100 gwaith yn hirach i deithio o gwmpas yr Haul na'r Ddaear

Mae hedfan i ben draw'r byd yn gallu bod yn daith hir a diflas, ond dydy hynny'n ddim i gymharu â hedfan o gwmpas yr Haul. Byddai'r daith honno'n cymryd 206 o ddiwrnodau. Os wyt ti’n bwriadu mynd am drip o gwmpas yr Haul, cofia baratoi digon o frechdanau i fynd gyda ti.
Alli di ddim sefyll ar Wranws

Efallai cei di sioc wrth gamu o dy long ofod ar ôl cyrraedd Wranws. Does gan y cewri nwy - Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion – ddim arwynebedd solet. Mae ganddyn nhw graidd creigiog, ond peli anferth o hydrogen a heliwm ydyn nhw ar y cyfan.
Mae'r blaned Mawrth mor oer â phegwn y de

Os wyt ti'n bwriadu teithio i'r blaned Mawrth yn y dyfodol agos, cofia fynd â chot gynnes gyda ti. Mae’r tymheredd cyfartalog yno tua -60°C, yr un peth â phegwn y de (ond heb y pengwiniaid). Mae rhai gwyddonwyr wedi cynnig ffyrdd o gynhesu Mawrth er mwyn ei gwneud haws i bobl fyw yno. Un syniad yw adeiladu drychau anferth i adlewyrchu pelydrau'r Haul, i roi hwb i gynhesu’r blaned.
Dŵr yw 90% o gylchoedd Sadwrn

Sadwrn yw'r lle gorau yng nghysawd yr haul i sglefrio iâ. Mae'r dŵr yn y cylchoedd o gwmpas y blaned wedi rhewi gan eu bod mor bell o'r Haul.
Mae Sadwrn yn un o'r pedair planed sydd â chylchoedd. Mae gan weddill y cewri nwy rai hefyd ond chafodd cylchoedd y rhain ddim eu darganfod tan yr 1970au pan ddanfonwyd llongau gofod i'w harchwilio. Cylchoedd Sadwrn yw'r unig rai gallwn ni eu gweld o'r Ddaear drwy delesgop.
Nid ar y Ddaear mae’r cefnfor mwyaf yng nghysawd yr haul

Ganymede yw lleuad fwyaf y blaned Iau. Mae gwyddonwyr sydd wedi defnyddio telesgop Hubble i’w hastudio wedi darganfod cefnfor o dan yr iâ trwchus sy’n ei gorchuddio. Maen nhw’n credu bod y môr hwn hyd at 100 cilometr o ddyfnder. Mae’n bosib bod mwy o ddŵr hallt yn y cefnfor hwn nag sydd ar y Ddaear gyfan.
Mae Ganymede yn fwy na'r blaned Mercher. Byddai'n cael ei chyfri'n blaned pe bai mewn orbit o gwmpas yr Haul yn hytrach na Iau.
Mae Neifion yn cymryd bron i 165 o flynyddoedd y Ddaear i gyflawni un orbit o'r Haul

Neifion yw’r blaned sy’n cymryd hiraf i deithio o gwmpas yr Haul. Mae blwyddyn ar Neifion, sef yr amser mae’n ei gymryd i deithio o gwmpas yr Haul, yn para bron i 165 o flynyddoedd y Ddaear.
Mercher yw'r blaned agosaf at yr Haul, felly hi sydd â’r orbit lleiaf. Mae blwyddyn ar y blaned Mercher yr un peth â thri mis ar y Ddaear. Felly, os wyt ti’n hoffi partïon pen-blwydd, dyma’r blaned i ti.
Mae diwrnod yn hirach na blwyddyn ar y blaned Gwener

Diwrnod yw'r amser mae'n ei gymryd i blaned gylchdroi unwaith, a blwyddyn yw'r amser mae'n ei gymryd iddi wneud un orbit o'r Haul.
Nid yn unig mae Gwener yn un o’r ddwy blaned sy’n troi’n glocwedd, mae hi’n cylchdroi’n arafach na’r planedau eraill. Mae'n cymryd 243 o ddiwrnodau'r Ddaear iddi gylchdroi unwaith a 225 o ddiwrnodau'r Ddaear i deithio o gwmpas yr Haul. Felly, mae diwrnod yn hirach na blwyddyn yno.
Nid Plwton yw'r unig gorblaned yn nghysawd yr haul

Dydy corblaned ddim yn blaned ond dyw hi ddim yn lleuad chwaith. Y tro cyntaf i lawer glywed y term oedd pan gafodd Plwton ei diraddio o blaned i gorblaned yn 2006 (druan bach).
Tan yn ddiweddar, Plwton, Ceres, Makemake, Haumea ac Eris oedd yr unig rai roedden ni'n gwybod amdanyn nhw. Mae Ceres yn y gwregys asteroidau rhwng Mawrth a Iau. Yn 2015 hi oedd y gorblaned gyntaf i long ofod ymweld â hi.
Mae chweched corblaned wedi ei darganfod yn ddiweddar ymhell tu hwnt i Plwton. Yr enw swyddogol arni yw 2015 TG387, ond ei llysenw yw 'Y Coblyn'.
Mae cysawd yr haul yn hen iawn

Mae gwyddonwyr yn credu bod cysawd yr haul tua 4.5 biliwn o flynyddoedd oed. Daethon nhw i’r casgliad hwn ar ôl astudio’r isotopau mewn meteorynnau. Mae’r creigiau hynaf sydd wedi eu darganfod ar y Ddaear yn 3.8 biliwn o flynyddoedd oed.
Cafodd y Bydysawd ei greu gan y Glec Fawr tua 13.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl ond dim ond ychydig o filiynau o flynyddoedd sydd ers i gyndeidiau cyntaf bodau dynol ymddangos.
Dydyn ni ddim yn hollol siŵr beth sydd tu hwnt i Plwton

Dydyn ni dal ddim yn gwybod yn iawn sut le yw rhannau allanol cysawd yr haul. Mae gwyddonwyr yn gobeithio darganfod mwy gyda help llong ofod New Horizons. Cafodd ei lansio yn 2006 ac fe gyrhaeddodd Plwton yn 2015. Dyma’r llong ofod gyntaf i hedfan heibio i’r gorblaned ac fe dynnodd y lluniau mwyaf manwl eto ohoni.
Erbyn hyn mae New Horizons wedi teithio yn ddyfnach i Wregys Kuiper, ardal o’r gofod lle ceir darnau o graig, iâ, comedau a chorblanedau. Mae hi eisoes wedi danfon lluniau yn ôl o wrthrych rhyfedd iawn o'r enw Ultima Thule sydd â siâp tebyg i ddyn eira. Un diwrnod fe gawn ni wybod yn union beth sydd allan ym mhellafoedd cysawd yr haul.
Y Bydysawd
Canfod cyfansoddiad cemegol sêr a phrofi bod y Bydysawd yn ehangu

Sêr a phlanedau
Dysga am sêr, planedau, comedau, asteroidau ac am ffurfio cysawd yr haul

Y Ddaear
Adeiledd y Ddaear, tectoneg platiau a sut mae mynyddoedd yn cael eu ffurfio
