Y DdaearAdeiledd y Ddaear

Mae adeiledd y Ddaear yn cynnwys y gramen, y fantell, y craidd allanol a'r craidd mewnol. Mae'r gramen a'r rhan uchaf o'r fantell wedi'u torri'n blatiau tectonig. Datblygodd y gwyddonydd o'r Almaen, Alfred Wegener, ddamcaniaeth drifft cyfandirol i esbonio sut cafodd mynyddoedd eu ffurfio.

Part of CemegY Ddaear sy'n newid yn barhaus

Adeiledd y Ddaear

Diagram yn dangos trawstoriad drwy adeiledd y Ddaear. O'r tu allan i'r tu mewn, mae'r Gramen, y Fantell, y Craidd Allanol a'r Craidd Mewnol wedi'u labelu.
Figure caption,
Trawstoriad yn dangos adeiledd y Ddaear

Mae’r Ddaear bron yn sffêr. Dyma ei phrif haenau, gan ddechrau â’r haen allanol:

  • cramen – cymharol denau a chreigiog
  • mantell – priodweddau solid, ond mae’n gallu llifo’n araf iawn
  • craidd allanol – wedi’i wneud o nicel a haearn hylifol
  • craidd mewnol – wedi’i wneud o nicel a haearn solid

Lithosffer y Ddaear yw’r haen allanol anhyblyg sy’n cynnwys y gramen a’r rhan o’r fantell sydd agosaf ati. Mae’r lithosffer wedi’i wneud o gymysgedd o fwynau.

More guides on this topic