Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.
Owen Arwyn yn actio yn Pridd gan Aled Jones Williams, Theatr Genedlaethol Cymru, 2013 LLUN: Kristen McTernan
Cyfryngau drama ydy'r cynhwysion sydd eu hangen ar gyfer llwyfannu drama. Mae gan artist ddewis o gyfryngau i’w defnyddio, ee paent, pensil, ffotograffiaeth, clai. Dyma'r cyfryngau sydd ar gael i'r artist greu celf. Mae gan ddrama lawer o gyfryngau hefyd; mae'r rhain yn cyfuno i greu perfformiad llwyddiannus.