Adweithiau ecsothermig ac endothermig
Pan mae adwaith cemegol yn digwydd, mae egni’n cael ei drosglwyddo i’r amgylchoedd neu o’r amgylchoedd. Mae newid tymheredd yn digwydd fel arfer. Er enghraifft, pan mae coelcerth yn llosgi mae’n trosglwyddo egni gwres i’r amgylchoedd. Mae gwrthrychau sy’n agos at goelcerth yn cynhesu. Gallwn ni fesur y newid tymheredd â thermomedr.
Adweithiau ecsothermig
Mae’r adweithiau hyn yn trosglwyddo egni i’r amgylchoedd (hynny yw, mae’r egni’n llifo allan o’r adwaith). Mae’r egni fel arfer yn cael ei drosglwyddo ar ffurf egni gwres, ac mae hyn yn gwneud i gymysgedd yr adwaith a’r amgylchoedd fynd yn boethach. Rydyn ni’n defnyddio thermomedr i ganfod y cynnydd tymheredd.
Dyma rai enghreifftiau o adweithiau ecsothermigAdwaith sy’n rhyddhau egni i’r amgylchoedd. Yna, mae gan yr amgylchoedd fwy o egni nag oedd ganddyn nhw i ddechrau, felly mae’r tymheredd yn cynyddu.:
- hylosgi (llosgi)
- adweithiau niwtraleiddioGwneud rhywbeth yn niwtral drwy gael gwared ar natur asidig neu alcalïaidd. rhwng asidSylwedd cyrydol sydd â pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o ïonau hydrogen. ac alcaliBas sy'n hydawdd mewn dŵr.
- yr adwaith rhwng dŵr a chalsiwm ocsid
Image caption, 1. Arllwys hydoddiant sodiwm hydrocsid i mewn i ficer o asid hydroclorig sy’n cynnwys thermomedr sy’n dangos tymheredd ystafell
Image caption, 2. Mae’r bicer nawr yn cynnwys sodiwm clorid a dŵr, ac mae’r thermomedr yn dangos cynnydd tymheredd, felly mae’r adwaith niwtralu yn ecsothermig
1 of 2
Adweithiau endothermig
Mae’r adweithiau hyn yn cymryd egni o’r amgylchoedd (hynny yw, mae’r egni’n llifo i mewn i’r adwaith). Mae’r egni fel arfer yn cael ei drosglwyddo ar ffurf egni gwres, ac mae hyn yn gwneud i gymysgedd yr adwaith a’r amgylchoedd fynd yn oerach. Rydyn ni’n defnyddio thermomedr i ganfod y gostyngiad tymheredd.
Dyma rai enghreifftiau o adweithiau endothermig:
- electrolysisDefnyddio cerrynt trydanol i ddadelfennu (torri i lawr) cyfansoddyn.
- yr adwaith rhwng asid ethanöig a sodiwm carbonad
- dadelfennu thermolMath o adwaith lle mae cyfansoddyn yn dadelfennu i ffurfio dau neu fwy o sylweddau wrth gael ei wresogi. calsiwm carbonad mewn ffwrnais chwyth
Mae’r sioe sleidiau’n dangos adwaith endothermig rhwng sodiwm carbonad ac asid ethanöig.
Image caption, 1. Gollwng powdr sodiwm carbonad i mewn i ficer o asid ethanöig sy’n cynnwys thermomedr sy’n dangos tymheredd ystafell
Image caption, 2. Mae’r bicer nawr yn cynnwys sodiwm ethanoad, dŵr a charbon deuocsid, ac mae’r thermomedr yn dangos bod y tymheredd wedi gostwng, felly roedd hwn yn adwaith endothermig
1 of 2