Nodweddion ardaloedd gwledig
Mae gwahanol fathau o ardaloedd gwledig, a gallwn eu dosbarthu yn ôl pa mor hygyrch ydyn nhw i’r ardaloedd trefol. Mae’r diagram isod yn dangos hyn. Mae’r ardaloedd yn amrywio o’r cyrion gwledig-trefolCwr y ddinas, y tu hwnt i’r maestrefi, lle mae’r wlad a’r ddinas yn cwrdd., i’r ardaloedd gwledig eithafol (anghysbell).
Gallwn ddosbarthu’r mathau o ardaloedd gwledig hefyd yn ôl eu prif nodweddion:
- Gwyrdd anghysbell - lleoedd gwledig anghysbell ac ynysig sydd â rhwydweithiau ffyrdd gwael. Mae ganddyn nhw lawer o fannau agored gwyrdd a phoblogaethau tenau iawn.
- Newid cyflym - mae dwysedd poblogaeth yr ardaloedd gwledig hyn yn llai trwchus ac mae nhw’n cynnwys rhai trefi mwy. Mae llawer o bobl sy’n byw yma yn gymudwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd trefol yn hytrach nag yng nghefn gwlad.
- Hamdden a mwynder - mae rhai o olygfeydd harddaf Cymru, a’r Parciau Cenedlaethol, yn y lleoedd gwledig hyn. Yn aml iawn mae nhw’n anghysbell.
- Ymddeol i’r arfordir - mae pentrefi a threfi bach glan môr yn atyniadol i bobl sydd wedi ymddeol. Pobl wedi ymddeol yw’r gyfran fwyaf o’r boblogaeth yn y cymunedau hyn.

Lleoliad gwledig gwyrdd anghysbell ger tref fechan Crughywel, Powys