Llwybr yr Armada a digwyddiadau yn y Sianel
Gwelwyd llongau Sbaen am y tro cyntaf yn y Sianel ar 29 Gorffennaf 1588. Dyna Armada Sbaen, llynges o longau arfog yn hwylio tua Lloegr mewn siâp cilgant.
Roedd disgwyl i Elisabeth ddiogelu ei pobl rhag yr ymosodiad hwn. Sut wnaeth y ddwy ochr ymdopi?
Sbaen | Lloegr | |
Comanderiaid | Dug Medina Sidonia – dim llawer o brofiad hwylio ac roedd yn agored ynglŷn â’i dueddiad o fod yn sâl ar y môr. | Arglwydd Howard o Effingham – dim llawer o brofiad ymladd ar y môr, ond roedd Drake a Hawkins yn brofiadol iawn. |
Llynges | 130 o longau - 64 o longau rhyfel, 22 o galiynau enfawr a 45 o longau masnach wedi’u haddasu. | 200 o longau - 54 o longau rhyfel cryf, ysgafn a chyflym, a 140 o longau masnach wedi’u hadddasu. |
Morwyr a milwyr | 30,000 o ddynion ar fwrdd y llynges ac 20,000 o filwyr ar y tir. | 14,000 o ddynion ar fwrdd y llynges ac 20,000 o filwyr ar y tir. |
Cyflenwad bwyd | Ddim yn ffres – roedd gwerth chwech mis o gyflenwadau yn cael eu storio ar y llongau. | Roedd bwyd ffres yn cael ei gyflenwi’n ddyddiol. |
Arfau | 2,000 o ganonau mawr – gallent saethu pelenni canon trwm, ond dim ond dros bellter byr ac roedd hi’n broses araf i’w llwytho. | 200 o ganonau llai – gallent saethu dros bellter hir ac roedd hi’n broses hawdd i’w llwytho. |
Tactegau ar gyfer ymladd ar y môr | Mynd yn agos er mwyn i’r dynion allu mynd ar longau’r gelyn a’u cipio. | Distrywio llongau’r gelyn drwy saethu canonau atyn nhw o bell. |
Incwm blynyddol | £3 miliwn. | £300,000. Rhoddodd y Senedd drethi i Elisabeth er mwyn ychwanegu at hyn. |
Comanderiaid | |
---|---|
Sbaen | Dug Medina Sidonia – dim llawer o brofiad hwylio ac roedd yn agored ynglŷn â’i dueddiad o fod yn sâl ar y môr. |
Lloegr | Arglwydd Howard o Effingham – dim llawer o brofiad ymladd ar y môr, ond roedd Drake a Hawkins yn brofiadol iawn. |
Llynges | |
---|---|
Sbaen | 130 o longau - 64 o longau rhyfel, 22 o galiynau enfawr a 45 o longau masnach wedi’u haddasu. |
Lloegr | 200 o longau - 54 o longau rhyfel cryf, ysgafn a chyflym, a 140 o longau masnach wedi’u hadddasu. |
Morwyr a milwyr | |
---|---|
Sbaen | 30,000 o ddynion ar fwrdd y llynges ac 20,000 o filwyr ar y tir. |
Lloegr | 14,000 o ddynion ar fwrdd y llynges ac 20,000 o filwyr ar y tir. |
Cyflenwad bwyd | |
---|---|
Sbaen | Ddim yn ffres – roedd gwerth chwech mis o gyflenwadau yn cael eu storio ar y llongau. |
Lloegr | Roedd bwyd ffres yn cael ei gyflenwi’n ddyddiol. |
Arfau | |
---|---|
Sbaen | 2,000 o ganonau mawr – gallent saethu pelenni canon trwm, ond dim ond dros bellter byr ac roedd hi’n broses araf i’w llwytho. |
Lloegr | 200 o ganonau llai – gallent saethu dros bellter hir ac roedd hi’n broses hawdd i’w llwytho. |
Tactegau ar gyfer ymladd ar y môr | |
---|---|
Sbaen | Mynd yn agos er mwyn i’r dynion allu mynd ar longau’r gelyn a’u cipio. |
Lloegr | Distrywio llongau’r gelyn drwy saethu canonau atyn nhw o bell. |
Incwm blynyddol | |
---|---|
Sbaen | £3 miliwn. |
Lloegr | £300,000. Rhoddodd y Senedd drethi i Elisabeth er mwyn ychwanegu at hyn. |
Wrth weld yr Armada, cafodd ffaglau eu cynnau fel rhybudd. Hwyliodd llynges Sbaen yn araf ar hyd y Sianel, yna Llyngesydd Lloegr, Arglwydd Howard o Effingham, Syr Francis Drake a gweddill llynges Lloegr.
Yn ystod y diwrnodau nesaf, cafwyd cyfres o sgarmesBrwydr fer annherfynol., ond ni allai gynnau Lloegr, oedd yn saethu yn bell, achosi unrhyw ddifrod difrifol i lynges Sbaen wrth iddi ffurfio yn dynn at ei gilydd ar ffurf cilgant.