MesurauDewis unedau priodol

Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

Part of MathemategMesurau

Dewis unedau priodol

Mae’r unedau metrig sydd yn cael eu defnyddio’n aml i fesur hyd yn cynnwys:

  • cilometrau (\({km}\))
  • metrau (\({m}\))
  • centimetrau (\({cm}\))
  • milimetrau (\({mm}\))

Amcangyfrif

I ganfod uned addas i fesur rhywbeth ynddi, yn gyntaf dylet ti amcangyfrif pa mor fawr ydy’r peth. Er enghraifft, wyt ti’n meddwl ei bod yn well mesur y pellter rhwng Caerdydd a Bangor mewn metrau neu cilometrau? Neu, a ddylid mesur hyd pryfyn mewn metrau neu milimetrau?

Dychmyga beth ydy hyd y pethau rwyt ti’n eu hamcangyfrif, neu dychmyga eu mesur mewn perthynas â phethau eraill. Er enghraifft:

  • Dychmyga bren mesur \({1}~metr\) nesaf at ddyn tal. Byddet ti’n disgwyl iddo fod yn dalach nag un pren mesur, ond ddim cyn daled â \({3}\) phren mesur.
  • Dychmyga fag o siwgr ar glorian. Byddet ti’n disgwyl i’r nodwydd symud rywfaint, ond nid i wibio'n syth at \({50}~{kg}\).
  • Dychmyga botel \({1}~{litr}\) o ddiod cola. Byddet ti’n disgwyl iddi ddal tua’r un faint â fflasg fawr.

Question

Pa uned fesur (\({km},~{m},~{cm}\) neu \({mm}\)) fyddet ti’n ei defnyddio i fesur y canlynol?

a) rhychwant dy law

b) hyd cae pêl-droed

c) trwch llyfr

ch) y pellter o Gaerdydd i Fangor

Question

a) Beth ydy taldra tebygol dyn tal: \({90}~{cm},~{180}~{cm}\) neu \({360}~{cm}\)?

b) Ydy pwysau bag o siwgr tua \({1}~{kg},~{10}~{kg}\) neu \({50}~{kg}\)?

c) A fyddai fflasg fawr yn dal tua \({200}~{ml},~{1}~{l}\) neu \({10}~{l}\) o hylif?