Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur
Save to My Bitesize
Perimedr siâp yw'r pellter o amgylch y tu allan.
Mae'n hyd felly mae'n cael ei fesur mewn mm, cm, m, km neu unrhyw uned arall o hyd.
Cyfrifa berimedr y triongl hwn:
Adia hydoedd yr holl ochrau:
9 mm + 6.5 mm + 7 mm = 22.5 mm
Cyfrifa berimedr y petryal hwn:
Cyfrifa berimedr y siâp L hwn:
1. Cyfrifa hydoedd yr ochrau sydd ar goll:
Cyfanswm uchder y siâp yw 10 m, mae tynnu 6 m yn ein gadael â hyd yr ochr sydd ar goll sef 4 m.
Mae'r cyfanswm lled ar goll – mae hwn wedi cael ei rannu yn 3 m a 6 m. Trwy eu hadio byddwn ni'n darganfod bod yr ymyl sydd ar goll yn 9 m.
2. Adia'r holl hydoedd:
3 m + 6 m + 6 m + 4 m + 9 m + 10 m = 38 m
Mae ffensys yn cael eu gwerthu fesul panel 2 m sy'n costio £30 yr un. Faint fyddai'n costio i ffensio'r cae hwn?
Cyfrifa'r perimedr: 5 m + 14 m + 7 m + 20 m = 46 m
Cyfrifa sawl uned o ffens sydd eu hangen: 46 m ÷ 2 m = 23
Cyfrifa faint y bydd 23 panel yn costio: 23 × £30 = £690