Amcangyfrif a thalgrynnuTalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf

Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.

Part of MathemategAmcangyfrif a thalgrynnu

Talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf

Does dim rhaid rhoi’r union rif bob amser. Er enghraifft, petai \({54,785}\) o bobl yn byw mewn tref, gallet ti ddweud bod ei phoblogaeth tua \({55,000}\).

Wrth wneud hyn rydyn ni wedi talgrynnu \({54,785}\) i’r fil agosaf i roi \({55,000}\).

Talgrynnu i’r 1,000 agosaf

Beth ydy \({1,484.5}\) i’r \({1,000}\) agosaf?

Mae rhwng \({1,000}\) a \({2,000}\), ond mae’n agosach at \({1,000}\), felly talgrynna i lawr.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i’r fil agosaf yn \({1,000}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1000 a 2000

Talgrynnu i’r 100 agosaf

Beth ydy \({1,484.5}\) i’r \({100}\) agosaf?

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,400}\) a \({1,500}\), ond mae’n agosach at \({1,500}\), felly talgrynna i fyny.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i’r cant agosaf yn \({1,500}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1400 a 1500

Talgrynnu i’r 10 agosaf

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,480}\) a \({1,490}\), ond mae’n agosach at \({1,480}\), felly talgrynna i lawr.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i’r deg agosaf yn \({1,480}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1480 a 1490

Talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,484}\) a \({1,485}\) ac mae’n union hanner ffordd rhyngddyn nhw. Yn y sefyllfa hon talgrynna i fyny.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf yn \({1,485}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1484 a 1485