HTML
Iaith raglennu syml er mwyn llunio tudalen weTudalen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer porwr gwe, ac sy’n cael ei gweld mewn porwr gwe. yw HTML (Hyper Text Markup Language). Mae’n defnyddio set o dagiau wedi’u rhagddiffinio sydd wedyn yn cael eu dehongli a’u darparu/arddangos gan y porwr gweRhaglen (ap) sy’n arddangos tudalennau gwe..
Gweithio gyda HTML
Fel arfer mae HTML yn cael ei ysgrifennu (neu ei gynhyrchu) mewn dwy ffordd:
- gan ddefnyddio golygydd testun plaen, er enghraifft Notepad, Notepad++, TextPad, ac yn y blaen
- gan ddefnyddio golygydd WYSIWYG (What You See Is What You Get), er enghraifft Dreamweaver, iWeb, SeaMonkey Composer, ac yn y blaen
Golygydd testun plaen
Mae golygydd fel Notepad yn cynnig mwy o reolaeth dros y cod o’i gymharu â golygydd WYSIWYG gan fod pob nod sy’n ffurfio’r HTML a’r dudalen we sy’n dilyn yn cael ei deipio â llaw. Yr anfantais yw bod hon yn broses araf.
Golygydd WYSIWYG
Mae’r dudalen we yn cael ei chynllunio, a’r cynnwys yn cael ei ysgrifennu a’i arddullio, gan ddefnyddio cyfres o offer. Mae’n bosibl cael rhagolwg o’r dudalen yn y porwr rhagosodedig sydd yn y rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy’n caniatáu i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol.. Mae hyn yn gwneud y broses o lunio tudalen we yn llawer cyflymach oherwydd does dim angen llawer o wybodaeth am HTML gan ei fod yn cael ei gynhyrchu’n awtomatig. Er hyn, mae’n bosibl golygu’r cod â llaw o hyd.