Cartref a hamdden
Mae cyfran fawr o’r peiriannau rydym yn eu cymryd yn ganiataol yn ein cartrefi yn cael eu rheoli gan microbrosesyddCylched gyfannol sy’n cynnwys pob un neu’r rhan fwyaf o elfennau unigol uned brosesu ganolog (CPU).. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ffyrnau microdonnau
- peiriannau golchi dillad
- peiriannau golchi llestri
- bwyleri gwres canolog
Adloniant
Mae gweithgareddau rydym yn eu gwneud yn ein hamser hamdden yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg gwybodaeth, er enghraifft:
- gwylio teledu digidolGwybodaeth sy’n cael ei storio fel gwerthoedd arwahanol. Fel arfer mae’n cael ei chynrychioli gan rifau. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â data analog sy’n cael eu cynrychioli gan ddata parhaus, fel arfer mewn tonnau. neu deledu lloeren
- gwylio DVDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio cerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae DVDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i CDs a disgiau Blu-ray., disgiau Blu-ray a fideos ar-lein
- chwarae gemau cyfrifiadurol
- gwrando ar gerddoriaeth ar CDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio hyd at 700 MB o gerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae CDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i DVDs a disgiau Blu-ray. a chwaraewyr MP3 ac ar-lein
- pori’r rhyngrwydRhwydwaith byd-eang sy’n cysylltu miliynau o gyfrifiaduron.