Atgyfnerthu grymO ddemocratiaeth i unbennaeth

Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi’n hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Natsïaid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a Führer yr Almaen. Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

O ddemocratiaeth i unbennaeth

Yn Ionawr 1933, daeth Hitler yn yr Almaen ac erbyn Awst 1934 roedd wedi’i gyhoeddi ei hun yn Führer – unig arweinydd yr Almaen. Yn ystod yr adeg hon dileodd Hitler bob gwrthwynebiad iddo’i hun, o fewn y Blaid Natsïaidd ac yn yr Almaen yn gyffredinol.

Ar y dechrau, roedd ar Hitler angen mwy o gefnogaeth yn y os oedd am fod yn ben ar lywodraeth gref, a mynd ymlaen i ennill grym absoliwt, sef ei nod. Felly perswadiodd yr Arlywydd Hindenburg i alw etholiad newydd i’r Reichstag ar gyfer Mawrth 1933. Dyma gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at wneud Hitler yn unben.

Y prif gamau a gymerwyd gan Hitler i ddod yn Führer a dod i rym.