Ymgyrchoedd
Ar gyfer ymgyrch lwyddiannus rhaid gosod amcanion. Yna, rhaid meddwl am y camau sydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.
Enghraifft bywyd go iawn
Yn 2010, sefydlwyd ymgyrch byw'n iach Newid am Oes yng Nghymru. Amcanion yr ymgyrch oedd i alluogi teuluoedd i gyrraedd a chadw pwysau corff iachus, bwyta'n well a chadw'n heini. Gosododd nifer o dargedau dros gyfnod o chwe blynedd.
- Sicrhau bod 20,000 o bobl yn cofrestru rhwng 2013-2014, bod 20,000 ychwanegol yn cofrestru rhwng 2014-2015 a bod 20,000 arall yn cofrestru o 2015-2016.
- Sicrhau bod 7,000 o bobl yn cofrestru i ymgyrch Gemau am Oes, a lansiodd ym mis Hydref 2012. Nod yr ymgyrch hon oedd i annog mwy o bobl i fod yn heini yn ystod gwyliau'r haf yn sgil momentwm y gemau Olympaidd, y gemau Paraolympaidd a digwyddiadau chwaraeon eraill gafodd eu darlledu yn ystod y cyfnod hwn.
- Sicrhau bod 2,500 o bobl yn cofrestru i ymgyrch Dewis llai melys a lansiodd yn Ionawr 2015. Nod yr ymgyrch hon oedd i annog pobl i leihau faint o siwgr roedden nhw'n ei fwyta.
- Sicrhau bod 4,000 o bobl yn cofrestru i ymgyrch Gemau am Oes a lansiodd ym mis Hydref 2015. Nod yr ymgyrch hon oedd i ysbrydoli plant a theuloedd i fod yn fwy heini drwy gymryd rhan mewn gemau tu mewn, gemau grŵp a gemau awyr agored.
Cafodd yr ymgyrch ei gwerthuso drwy gymharu’r targedau gafodd eu gosod â’r union niferoedd. Bu tîm o ymchwilwyr yn anfon holiaduron, yn cynnal cyfweliadau ffôn ac yn monitro nifer defnyddwyr gwefan Newid am Oes er mwyn canfod yr union niferoedd hyn. Cyfrifon nhw hefyd faint o bobl oedd wedi hoffi'r ymgyrch ar Facebook, defnydd pobl o Twitter a faint o becynnau gwybodaeth gafodd eu hanfon i dai pobl. Gwelsant fod y niferoedd yn fwy na’r targedau gafodd eu gosod, felly roedd yr ymgyrch yn cael ei hystyried yn un lwyddiannus iawn.
Er enghraifft, roedd ymgyrch Gemau am Oes wedi gosod targed o 7,000 o bobl yn cofrestru, ond yn y diwedd cofrestrodd 8,767. Yn yr un modd, 2,500 o bobl yn cofrestru oedd y targed ar gyfer ymgyrch Dewis llai melys, ond cofrestrodd 6,499 o bobl, sef nifer a oedd yn well na'r disgwyl.
Llwyddodd y tîm Newid am Oes i gyfleu eu neges drwy ddewis hyrwyddo eu hymgyrch drwy’r sianeli cyfathrebu roedden nhw’n gwybod bod eu cynulleidfa darged yn eu defnyddio (ee teledu a radio). Drwy gyfathrebu eu neges ar yr adegau roedd eu cynulleidfa darged yn defnyddio’r sianeli cyfathrebu hyn, fe wnaethon nhw lwyddo i godi ymwybyddiaeth. Roedd gan dîm yr ymgyrch hefyd neges roedd eu cynulleidfa darged yn ei deall ac yn awyddus i’w gweithredu – Bwyta’n dda, Symud mwy, Byw’n hirach – ac fe wnaeth hynny eu helpu i gyflawni eu hamcanion.

Fe all newidiadau bach i’n ffordd o fyw wella ein hiechyd, ein helpu i fyw’n hirach a gosod esiampl dda i’n plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio’r ymgyrch hon i roi cyngor a chymorth ymarferol i deuluoedd ledled Cymru ynghylch sut gallan nhw wneud dewisiadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd eu plant.