Pam mae’r llais yn bwysig
Y llais ydy un o offerynnau mwyaf pwerus unrhyw actor, fel rhan o’r ffordd mae’n cymeriaduDefnyddio sgiliau llais a chorfforol i bortreadu rôl. a’r ffordd mae testun yn cael ei ddehongli ar gyfer y gynulleidfa. Meddylia am sefyllfaoedd lle byddi di’n dibynnu'n llwyr ar y llais. Bydd iaith y corff Cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau. Dangos cyflwr meddyliol a chorfforol drwy ddefnyddio mynegiant wyneb, ystum ac ymddaliad. yn ychwanegu at effaith yr hyn y byddi di’n ei ddweud ond mewn sefyllfaoedd lle nad oes presenoldeb corfforol, megis sgwrs ffôn neu ddrama radio, mae'r gwrandäwr yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn mae'n ei glywed.
Meddylia sut mae'r actor yn defnyddio llais i gyfleu oedran, statws a hwyliau'r cymeriad. Cofia hefyd fod modd defnyddio'r llais mewn ffordd fwy haniaetholY gwrthwyneb i bortreadu rhywbeth mewn modd realistig ydy portread haniaethol, lle mae cymeriad neu gysyniad yn cael ei symboleiddio mewn ffordd farddonol yn hytrach nag yn llythrennol. i greu sainlunMae sain wedi ei recordio neu sain fyw sy'n defnyddio offerynnau a/neu leisiau perfformwyr yn gallu cyfleu amser, lle, naws ac awyrgylch. ac awyrgylch yn ogystal â chyfleu meddyliau, emosiynau, teimladau a syniadau.
Wrth ysgrifennu am y llais, mae'n bosib y byddi di'n disgrifio un o dy berfformiadau di a beth roeddet ti'n ceisio'i gyflawni a pham y gwnest ti ddefnyddio dy lais mewn ffordd arbennig. Efallai y bydd gofyn i ti ddisgrifio gwaith actor mewn perfformiad y byddi di wedi ei wylio. Gallai hyn fod ar gyfer adborth mewn cyd-destun gweithdy neu ddosbarth neu gallai fod ar gyfer adolygiad theatrig.
Alli di feddwl am actor sy'n defnyddio’r llais yn effeithiol? Meddylia pam mae’r llais hwn mor gofiadwy. Cofia fod taflu'r llais yn hanfodol mewn theatr fawr o flaen cynulleidfa tra bod gwaith llais yn gorfod bod yn fwy cynnil ac yn dawelach ar sgrin.
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos yr actor Adrian Lester yn esbonio pam mae taflu’r llais mor bwysig i actor