Beth ydy Theatr Gerdd?
Gall cerddoriaeth roi enw ar yr hyn na ellir ei enwi a chyfleu’r hyn na ellir ei wybod.
Mae Theatr Gerdd yn wahanol i Theatr Ddramatig gan ei bod yn cyfuno caneuon, deialog a dawns i adrodd y stori. Mae drama gerdd hefyd yn wahanol i ddrama gyda cherddoriaeth, gan ei bod yn rhoi’r un pwyslais ar y caneuon a’r gerddoriaeth ag i elfennau eraill y cynhyrchiad.
genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. ydy Theatr Gerdd sy’n golygu ei bod yn un math neu gategori o blith y mathau niferus o theatr sydd yn bod. Yn aml mae’n eithaf arddulliedig ac mae’n gallu defnyddio amrywiaeth o dechnegau theatrig megis elfennau o Theatr Gorfforol, delwedd llonyddTableau, ffrâm fferru unigol. Mae'n rhaid i'r holl berfformwyr ddal eu hystum yn hollol llonydd a thawel er mwyn nodi pwysigrwydd y foment. ac actio ensemblePerfformwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn ymarfer/perfformiad i greu digwyddiad ar y llwyfan, ee Corws Groegaidd; slapstic neu Theatr Gorfforol. .
Opera a Theatr Gerdd
Mae Opera a Theatr Gerdd yn croesi ei gilydd, felly fe allan nhw fod yn debyg iawn. Er enghraifft mae’r ddrama gerdd enwog Miss Saigon yn seiliedig ar opera Giacomo Puccini, Madama Butterfly (Madam Butterfly yn Gymraeg). Ond yn y ddrama gerdd, mae stori Madam Butterfly, sy’n sôn am briodas aflwyddiannus is-gapten o America a merch o Japan, yn cael ei chyfnewid. Stori serch rhwng GI Americanaidd a dawnswraig mewn bar yn Fietnam yn ystod Rhyfel Fietnam yn y 1970au ydy hi erbyn hyn.
Fel arfer mae opera’n wahanol i Theatr Gerdd gan fod gan opera stori sy’n cael ei chanu bron yn llwyr. Y gair am y ddeialog hon ar gân ydy libretto. Mewn Theatr Gerdd dydy’r stori ddim yn cael ei hadrodd ar gân bob tro; yn aml bydd y caneuon yn sylwebaeth ar yr hyn sy’n digwydd, gan gynnig golwg ychwanegol ar sut mae cymeriad yn teimlo neu ymchwilio i thema’r darn. Mae deialog lafar yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â’r caneuon a’r dawnsio. Ambell waith mae modd ‘siarad’ y caneuon eu hunain. Enghraifft enwog o hyn ydy cymeriad Henry Higgins sy’n ‘siarad’ ei ganeuon yn y ddrama gerdd My Fair Lady sy’n seiliedig ar ddrama George Bernard Shaw, Pygmalion. Wedi dweud hynny, y prif reswm am hyn oedd nad oedd Rex Harrison, yr actor a oedd yn portreadu Higgins ar y llwyfan ac yn y ffilm a wnaed ym 1964 yn gallu canu.
Mae’r ddrama gerdd enwog, Phantom of the Opera, hefyd yn seiliedig ar waith hŷn. Cafodd ei hysbrydoli gan y nofel Ffrengig, Le Fantôme de l'Opéra gan Gaston Leroux.