Syniadau creadigol ac arloesol
Mae meddwl yn greadigol yn ffordd o ddatblygu syniadau newydd.
Gallai syniadau creadigol gynnwys:
- dyfeisio rhywbeth newydd
- dyfeisio ffordd newydd o wneud rhywbeth
- datblygu ffordd newydd o feddwl am rywbeth
- newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth
Meddwl yn greadigol
Mae meddwl yn greadigol yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae’n ffordd o wella cynnyrch, prosesau a gwasanaethau. Mae’n golygu bod modd lleihau costau cynhyrchu, creu cynnyrch a gwasanaethau newydd, neu eu gwella.
Enghraifft bywyd go iawn un
Dechreuodd gwasanaeth tacsi Uber o ganlyniad i feddwl yn greadigol. Roedd sefydlwyr y cwmni yn methu cael tacsi ar y stryd, felly dyma feddwl am syniad syml – pwyso botwm a chael reid.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Lansiodd cwmni Sharp yr Aquos Crystal newydd yn 2014 gan dorri tir newydd ym maes technoleg ffonau symudol. Y ffôn hwn oedd y ffôn cyntaf i gael sgrin ymyl-i-ymyl a thechnoleg sgrin sy’n dirgrynu.
Roedd y dechnoleg hon yn golygu bod y sgrin yn dirgrynu pan oedd mewn cysylltiad â’r glust ac yn trosglwyddo sŵn, yn wahanol i seinydd arferol.
Arloesi
Mae arloesi yn cyfeirio at y broses o droi syniad yn gynnyrch, neu wasanaeth sy’n creu gwerth.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu ail-greu’r cynnyrch am gost dderbyniol, a bod yn rhaid i’r cynnyrch fodloni angen penodol.
Gall arloesi fod yn esblygol neu’n chwyldroadol.
- Mae arloesi esblygolCynnyrch a gwasanaethau sy’n cael eu creu o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg neu brosesau. yn digwydd pan fydd syniadau’n cael eu creu o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg neu brosesau. Does dim angen i’r canlyniad terfynol fod yn newydd, er enghraifft nid yr iPhone oedd y ffôn clyfar cyntaf.
- Mae arloesi chwyldroadolCynnyrch, gwasanaethau neu syniadau sy’n gwbl newydd. yn llawer mwy anghyffredin. Mae’n cyfeirio at greu rhywbeth cwbl newydd, er enghraifft Kinetic Sand.