Onglau mewnol ac allanol
Yn syml, siâp gyda thair neu fwy o ochrau ac onglau yw polygon. Siâp 2D gyda phedair ochr ac ongl yw pedrochr.
Mae yna chwech pedrochr arbennig sydd â phriodweddau gwahanol.
Sgwâr
- Mae gan y sgwâr bedair ochr sydd yr un hyd.
- Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
- Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
- Mae'r croeslinLlinell sy’n cysylltu dau fertig sydd ddim yn gyfagos (corneli) mewn polygon.haneruRhannu’n ddwy ran hafal, torri yn ei hanner. ei gilydd ar ongl sgwâr.
Petryal
- Mae gan y petryal ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
- Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
- Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
- Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd.
- Mae pob un o onglau allanol y petryal yn 90°.
Paralelogram
- Mae gan y paralelogram ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
- Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
- Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
- Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
- Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd.
Rhombws
- Mae gan y rhombws bedair ochr sydd yr un hyd.
- Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
- Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
- Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
- Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd ar ongl sgwâr.
Trapesiwm
- Mae gan y trapesiwm un pâr o ochrau paralel.
Barcut
- Mae gan y barcut ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
- Mae ganddo un pâr o onglau hafal.
- Mae un groeslin yn cael ei haneru gan y llall ar ongl sgwâr.