Chwyldro technolegol
Ers dechrau amser, mae’r hil ddynol wedi gwneud camau enfawr o ran y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Mae’r newidiadau mawr hyn yn cael eu galw’n chwyldroadau.
Mae cyflwyno a deall technolegau newydd wedi gwneud datblygiad dynol yn bosib. Mae'r rhain wedi mynd ymlaen i siapio gwareiddiad am ganrifoedd i ddod, gan ddylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau heddiw hyd yn oed.
Gwylio: Fideo Chwyldro technolegol
Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu am y chwyldro technolegol sy'n newid ein byd.
Fel arfer, mae cymdeithas yn newid yn raddol. Dros nifer fawr o flynyddoedd. Ond bob hyn a hyn, mae’r newid yna’n digwydd yn llawer cyflymach wrth i gymdeithas gymryd naid fawr yn ei blaen. Yr enw ar hyn yw chwyldro.
Falle dy fod ti wedi clywed am y chwyldro diwydiannol. Yn y 19eg ganrif, cafodd Cymru ei newid am byth gan beiriannau newydd, a gan ffyrdd newydd o deithio. Dros ychydig ddegawdau’n unig, daeth rhannau enfawr o’r wlad yn ddibynnol ar ddiwydiant, wrth i haearn, glo a llechi gael eu cloddio mewn symiau anferthol. Fel canlyniad, roedd cymunedau - pentrefi, trefi, a hyd yn oed dinasoedd cyfan - fel eu bod wedi ymddangos o nunlle.
Datblygodd rhannau o Gymru - fel Tiger Bay yng Nghaerdydd - yn gymdeithasau aml-ddiwylliannol ac aml-ethnig. Gwnaeth adeiladwyr, masnachwyr a morwyr eu ffordd i Gymru - cenedl o gyfleoedd. Dyna ddangos i America pwy ‘di’r bos. Mae’n hawdd rhamanteiddio’r chwyldro diwydiannol. Mae’n hawdd credu y bydd cyfnodau fel’na byth yn digwydd eto. Ond be taswn i’n dweud ein bod ni ar ganol chwyldro ar hyn o bryd? Bod cymdeithas yn newid yn gyflymach nac erioed o’r blaen?
Falle nad yw’n amlwg yn syth, ond mae datblygiad technolegol anferth arall - y chwyldro digidol - wedi achosi newidiadau tebyg. Allwn ni ddim dianc rhag y chwyldro digidol. Mae popeth wedi ei gysylltu, o ffonau i rewgelloedd, ac mae holl wybodaeth y ddynol ryw - neu, yn amlach na pheidio, fideo am gathod - dim mwy na chlic neu ddau i ffwrdd, fel arfer.
Ac eto, dim ond ers nawdegau’r ganrif ddiwethaf mae’r rhyngrwyd wedi ei ddefnyddio’n eang. Bydd unrhyw un sydd wedi eu geni cyn y genhedlaeth ddiwethaf yn cofio amser pan doedd dim mynediad rhwydd i’r we.
Yn 1996, roedd y rhyngrwyd yn cael ei defnyddio gan 45 miliwn o bobol - tua maint poblogaeth yr Ariannin. Heddiw, mae cyrhaeddiad y we yn dal i dyfu, yn gyflymach nac y gallwn ei fesur… ac mae dros hanner poblogaeth y byd ar-lein.
Daeth swyddi a gyrfaoedd newydd yn sgil y chwyldroadau digidol a diwydiannol, a hynny fwy neu lai dros nos. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, er enghraifft, doedd neb yn gwybod beth oedd ‘dylanwadwr’.
Ond mae gwahaniaethau hefyd. Tra bod y chwyldro diwydiannol wedi creu projectau adeiladu anferth, mae’r chwyldro digidol wedi cael effaith cwbl wahanol.
Mae’r cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cael effaith andwyol ar y stryd fawr. Mae’r gallu i weithio adre wedi arwain at bobl yn symud i ffwrdd o swyddfeydd traddodiadol. Ac mae cysylltiad band llydan cyflym yn un o’r gwahaniaethau mawr rhwng cymunedau gwledig a dinesig.
Mae Tiger Bay - neu Fae Caerdydd bellach - yng nghanol y datblygiadau yma unwaith eto. Ble roedd dociau ac adeiladwyr llongau, mae ’na fwytai a bariau. Llefydd na all y byd digidol eu hailgreu. Ar hyn o bryd.
Achos y peth am chwyldroadau yw eu bod nhw… wel… yn chwyldroadol. Maen nhw’n digwydd yn gyflym, a heb rybudd. Felly pan rydyn ni’n meddwl bod y byd wedi setlo lawr, gwylia allan. Fe all pethau fod ar fin newid. Eto
Y Chwyldro Neolithig
Yn ôl archaeolgwyr, dechreuodd y Chwyldro Neolithig cyn belled â 11,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd gwareiddiadau cynnar yn dibynnu gan fwyaf ar hela a chasglu i gael bwyd ac i gynnal eu hunain, felly roedden nhw’n byw fel arfer mewn llwythau nomadaidd.
Ond yn ystod y Chwyldro Neolithig, daeth syniadau a ffyrdd o fyw newydd i’r amlwg, gan drawsnewid y ffordd y byddai gwareiddiadau’r dyfodol yn byw. Mae'r cofnod cynharaf o amaethyddiaeth fel ffordd o gynhyrchu bwyd yn dyddio o'r cyfnod hwn. Yn hytrach na symud a chwilio am fwyd, dechreuodd llwythau setlo mewn lleoliadau ffafriol a gweithio’r tir, gan ddewis planhigion addas i’w tyfu a’u cynaeafu.
Dechreuodd y gwareiddiadau hyn dyfu grawnfwydydd fel barlys a gwenith fel ffynhonnell fwyd, gan symud ymlaen at ddofi anifeiliaid fel geifr a defaid i gynhyrchu llaeth a chig.
Mae dal yn aneglur pam digwyddodd y newid hwn. Mae nifer yn credu bod twf yn y boblogaeth wedi ei gwneud hi’n anodd bwydo pobl drwy hela a chasglu. Roedd y newid hefyd yn golygu y gallai’r ifanc a’r oedrannus gyfrannu at y broses o gynhyrchu bwyd.
Mae’n debyg bod y cymdeithasau cynnar hyn wedi dechrau yn y Dwyrain Canol mewn ardaloedd â hinsawdd ffafriol a oedd wrth ymyl afonydd neu ffynonnellau eraill o ddŵr.
Mae’r Chwyldro Neolithig neu amaethyddol yn newid a arweiniodd at bobl yn dechrau byw mewn tai ac i fasnachu â’i gilydd, gan greu pentrefi a threfi am y tro cyntaf.
Y Chwyldro Diwydiannol
Mae’r Chwyldro Diwydiannol rhwng 1760 a 1840 yn gyfnod pwysig a dylanwadol yn hanes Prydain. Daeth diwydiannau trwm i’r amlwg ac fe ddechreuwyd gweithgynhyrchu gyda pheiriannau mewn ffatrïoedd yn hytrach na chynhyrchu pethau â llaw.
Fe wnaeth dyfeisio’r injan stêm yn ystod yr 18fed ganrif arwain at gyflwyno rhwydweithiau trenau ar draws y wlad yn yr 19eg ganrif. Arweiniodd y rheilffyrdd at gynnydd mewn cludo nwyddau o drefi i borthladdoedd i’w hallforio. Roedd hefyd yn haws i bobl deithio.
Yn ogystal, fe wnaeth cyflwyno’r injan stêm chwyldroi’r ffordd y byddai ffatrïoedd a melinau yn gweithredu. Cyn hyn, bydden nhw'n dibynnu ar y gwynt, dŵr neu geffylau am egni. Ond roedd y rhain yn gallu bod yn annibynadwy. Er enghraifft, mae’n bosib na fyddai’r gwynt wastad yn chwythu. Cyn y chwyldro diwydiannol, byddai angen adeiladu ffatrïoedd wrth ymyl afon ond, roedd pŵer stêm yn caniatáu i ffatrïoedd gael eu lleoli yn unrhyw le. Roedd yn ddibynadwy trwy gydol y flwyddyn a roedd yn gallu cael ei ddefnyddio i bweru peiriannau llawer mwy.

Wrth i fwy a mwy o ffatrïoedd gael eu hadeiladu mewn ardaloedd trefol, roedd mwy o bobl yn mudo i’r trefi a’r dinasoedd mwy i chwilio am waith cyson ac incwm uwch na fydden nhw'n gallu ei ennill mewn ardaloedd gwledig. Roedd y cynnydd yn y boblogaeth mewn trefi a dinasoedd yn golygu bod angen mwy o dai ar gyfer gweithwyr, ac arweiniodd hyn at adeiladu tai teras wrth ymyl y ffatrïoedd.
Roedd yr ardaloedd dinesig hyn yn enwog am eu hamodau byw gwael. Wrth i’r ardaloedd hyn ehangu mor gyflym, roedd pobl wedi’u gwasgu at ei gilydd mewn llefydd byw bach iawn.
Er bod y dinasoedd gorlawn newydd yn llawn clefydau, fe wnaeth poblogaeth y wlad barhau i dyfu, oherwydd gwelliannau iechyd cyffredinol a deiet gwell yn sgil dulliau gwell o gynhyrchu bwyd. Gallai ffactorau eraill, fel cynnydd mewn priodasau a chyfraddau geni, fod yn gyfrifol hefyd am y twf cyflym yn y boblogaeth.
Y Chwyldro Digidol
Y chwyldro technolegol, sydd hefyd yn cael ei alw’n Chwyldro Digidol, yw'r chwyldro diweddaraf ac fe ddechreuodd ar ddiwedd yr 20fed ganrif.
Rydyn ni wedi symud oddi wrth y dulliau gweithgynhyrchu mecanyddol traddodiadol. Rydyn ni bellach wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg i gynhyrchu a chyfathrebu. Mae cyflwyno cyfrifiaduron, meicro-broseswyr, ffonau symudol digidol a’r rhyngrwyd yn gwbl ganolog i’r chwyldro hwn. Maen nhw wedi chwarae rôl ganolog, gan ein symud i’r hyn sy’n cael ei alw’n oes wybodaeth.
Dechreuwyd ar y gwaith i greu platfform o rwydweithiau cyfrifiadurol rhyng-gysylltiedig ar ddiwedd y 1960au, ond bu’n rhaid aros tan 1989 cyn cael y we fyd-eang. Roedd y system wybodaeth hon, a ddyfeisiwyd gan y gwyddonydd o Loegr, Tim Berners-Lee yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu a chael mynediad at ddogfennau drwy’r rhyngrwyd. Cafodd y cyhoedd fynediad i'r hyn rydyn ni’n ei adnabod heddiw fel y we yn 1991. Cyn hynny, dim ond y llywodraeth a phrifysgolion oedd yn ei ddefnyddio.
Ers 1995, mae’r rhyngrwyd wedi cael effaith anferthol ar ein diwylliant a’n ffordd o fyw, ac rydyn ni bellach yn gallu:
- cyfathrebu bron ar unwaith drwy e-bost a negeseuon gwib
- ymgysylltu ag eraill drwy fforymau trafod, blogiau a rhwydweithiau cymdeithasol
- defnyddio safleoedd siopa ar-lein
Mae’r nifer sy’n defnyddio’r rhyngrwyd wedi cynyddu’n anferthol. Cynyddodd y nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd o 16 miliwn yn 1995 i dros biliwn erbyn 2005. Mae’r cynnydd hwn yn parhau hyd heddiw gydag amcangyfrif diweddar bod dros 5 biliwn yn defnyddio’r rhyngrwyd erbyn diwedd 2020. Mae hynny’n 65 y cant o boblogaeth y byd.
Rydyn ni hefyd wedi dechrau gweld swyddi a sgiliau’n cael eu trawsnewid gan fod llai o bobl yn dueddol o weithio mewn swyddi llafurddwys, a bellach mae angen iddyn nhw fod â lefel resymol o sgiliau wrth ddefnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd.
Rydyn ni hefyd yn gweld newid mawr ym myd bancio a siopa wrth i fwy a mwy o bobl ddewis mynd â’u busnes ar-lein. Gall hyn gael effaith negyddol ar y stryd fawr wrth i fwy a mwy o siopau gau oherwydd gostyngiad mewn busnes.

Mae seiberddiogelwch hefyd yn dod yn broblem, rhywbeth rydyn ni’n fwy ymwybodol ohono, o gofio bod bron holl wasanaethau cyhoeddus hanfodol a gwybodaeth breifat bellach ar-lein.
Manteision y chwyldro technolegol
- Mae wedi dod yn haws ac yn fwy effeithlon i gwmnïau ryngweithio â busnesau eraill yn rhyngwladol.
- Gall gwybodaeth gael ei darlledu a’i chanfod yn gyflym.
- Mae'n bosib cyfathrebu â ffrindiau a theulu ar unwaith o bob rhan o’r byd.
- Mae'n fwy cyfleus i bobl sy’n byw bywydau prysur oherwydd maen nhw’n gallu prynu dillad/bwyd ar-lein.
- Creu mwy o swyddi mewn diwydiannau newydd fel datblygu ffonau/gemau.
- Gall technolegau newydd roi hwb i gynhyrchiant a chael effaith ar yr economi.
Anfanteision y chwyldro technolegol
- Gallai siopau’r stryd fawr ddioddef wrth i fwy a mwy o bobl ddewis prynu ar-lein – gwasanaeth na all rhai siopau ei gynnig.
- Mae gwybodaeth bersonol pobl mewn perygl o gael ei chanfod a’i defnyddio.
- Newid mewn gweithgaredd anghyfreithlon i droseddau/terfysgaeth seiber.
- Gall defnyddio technoleg yn amlach gael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl.

More on Chwyldro
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3