Ffrindiau a hobïau
RHYS Sut wyt ti, Zac? Sut wyt ti, Zoe?
ZAC Iawn, diolch.
ZOE Iawn, diolch, ond mae Gel yn sâl.
RHYS Ydy Gel wedi bod yn sâl drwy’r wythnos?
ZOE Nac ydy. Ar ddydd Llun, aethon ni i fowlio. Roedd o’n ffantastig.
RHYS Dw i’n hoffi bowlio hefyd. Oes gen ti hobi arall, Zac?
ZAC Oes. Dw i’n hoffi peintio.
RHYS Ble wyt ti’n mynd i beintio?
ZAC Dw i’n mynd i’r clwb peintio.
RHYS Pryd wyt ti’n mynd i’r clwb peintio, Zac?
ZAC Dw i’n mynd i’r clwb peintio ar ddydd Mawrth.
RHYS Wyt ti’n hoffi peintio, Zoe?
ZOE Nac ydw. Dw i’n hoffi dawnsio.
Dydd Mercher, es i i ddawnsio, gyda Gel.
RHYS Oes gen ti hobi arall?
ZOE Dw i’n mwynhau rhedeg.
RHYS Pryd wyt ti’n rhedeg?
ZOE Dw i’n rhedeg bob dydd Iau.
RHYS Ble wyt ti’n mynd i redeg?
ZOE Dw i’n mynd i redeg yn y parc.
RHYS Wyt ti’n hoffi rhedeg, Zac?
ZAC Nac ydw. Dw i’n casáu rhedeg. Dydd Gwener, es i i’r pwll nofio.
RHYS Beth wnest ti dydd Sadwrn?
ZAC Es i i siopa ddydd Sadwrn. Roedd o’n wych!
RHYS Beth wnaethoch chi dydd Sul?
ZOE Dydd Sul, aethon ni i bysgota.
Roedd Gel wedi disgyn i’r llyn!
RHYS O, na! Wnaethoch chi ddal pysgodyn?
ZAC Na, ond wnaeth Gel ddal annwyd!
RHYS O! Dyna pam mae Gel yn sâl fel ci!
Ble nesaf?
Cyfarfod ffrindiau yn y siop trin gwallt
Cyfarchion

Disgrifio aelodau’r teulu
Teulu a ffrindiau

Mwy o fideos Cymraeg
Cyfnod Sylfaen
