Cyfweliadau gydag aelodau o dîm cynhyrchu Mosgito
Description
Cyfweliadau gyda thîm cynhyrchu rhaglen gylchgrawn fyw BBC Cymru, Mosgito. Dangosir golygfeydd o’r stiwdio lle cynhyrchwyd y gyfres, rhai o’r ymarferion ar gyfer un o’r rhaglenni a darnau o’r rhaglen fyw ei hun.
Classroom Ideas
Dechreuwch drafodaeth gyffredinol ar sut mae rhaglen deledu yn cael ei chynhyrchu trwy ddilyn trefn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Gellir gweithio mewn grwpiau i greu tîm cynhyrchu rhaglen deledu gyda’r dasg o ymchwilio gwahanol rolau o fewn y tîm a’u pwysigrwydd. Gan barhau i weithio yn eu grwpiau, gofynnwch i’r disgyblion gynhyrchu cyfweliad. Anogwch nhw i feddwl am y gwahaniaeth rhwng cyfweliad stiwdio a chyfweliad ar leoliad, pa gwestiynau sy’n hanfodol mewn cyfweliad da a pha rai dylid eu hosgoi. Yna mewn parau, gall y disgyblion ddadansoddi erthyglau o bapurau newydd i geisio ail-greu cyfweliad yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn.
Cynhyrchu a gwerthuso
Now playing video 1 of 5
- Up next3:48