Beth yw ystyr diaspora?
Diaspora yw grŵp o bobl sydd ddim yn byw yn eu mamwlad bellach ond sy’n dal i lynu at eu etifeddiaeth y neu cartref newydd.
Mae’r term yn dod o’r gair Groegaidd am wasgaru, ac fe gafodd ei ddefnyddio gyntaf i ddisgrifio gwasgariad yr Iddewon yn amser y Beibl. Mae’r gair nawr yn cael ei ddefnyddio am unrhyw gymuned ar wasgar ar draws y byd.
Mae Unol Daleithiau America yn enghraifft dda o wlad sy’n gartref i nifer o gymunedau diaspora gwahanol megis yr Affricaniaid-Americanaidd, Mecsicaniaid-Americanaidd a’r Gwyddelod-Americanaidd.
Gwylio: Fideo cymunedau diaspora
Gwylia’r clip byr hwn i ddeall beth yw cymuned diaspora.
Ers dechrau amser, ry’n ni wedi crwydro’r blaned, gan symud diwylliant, traddodiadau, a chymunedau cyfan o un lle i’r llall. Mae ’na enw ar y math yma o boblogaeth ar wasgar, sydd â’i wreiddiau yn rhywle arall. Yr enw arno yw diaspora. Mae pob math o enghreifftiau. Meddylia am gymunedau o China mewn lleoedd fel Manceinion a Llundain.
Yn hanesyddol, roedd llawer o gymunedau diaspora gwahanol mewn dinasoedd yn datblygu fel Efrog Newydd. Cymunedau o wahanol wledydd a chrefyddau, pob un yn perthyn i ardal wahanol o’r ddinas. Heddiw, mae byw yn Efrog Newydd yn golygu ymwneud â chymysgedd o draddodiadau diwylliannol o gymunedau gwahanol. O’r parêd ar ddiwrnod Sant Padrig i arferion Iddewig ar raglenni teledu fel Friends. Traddodiadau o bedwar ban byd, sydd heddiw mor Americanaidd â tharten afal.
Mae gwasgariad Cymreig hefyd yn bodoli. Yn draddodiadol, mae perthynas gref iawn wedi bod rhwng Cymru a sawl dinas yn Lloegr. Mae ’na ardal yn Toxteth, yn Lerpwl, o’r enw’r 'Welsh Streets' ble mae’n bosib cerdded i lawr Pengwern Street, Rhiwlas Street a Wynnstay Street. Strydoedd wedi eu henwi i anrhydeddu’r gweithwyr Cymreig oedd yn byw yno’n ystod y 19eg ganrif a dyma fan geni Ringo Starr. Nid Cymro, yn dechnegol. Ond wneith e’r tro.
Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a Llundain yn parhau hyd heddiw. Yn Camden mae Canolfan Cymry Llundain, ble y gall Cymry ddod at ei gilydd a dychmygu eu bod nhw erioed wedi gadael goleuadau llachar Bethesda neu’r Barri. Mae ’na eglwysi a chapeli Cymreig, a hyd yn oed ysgol gynradd Gymraeg.
A dyna’r Unol Daleithiau wedyn. Mae rhai Americanwyr o dras Cymreig yn cynnwys Miley Cyrus, Hillary Clinton a digon o arlywyddion i lenwi Pafiliwn yr Eisteddfod. Mudodd ambell un o Gymru am resymau crefyddol - fel y Crynwyr aeth i Pennsylvania yn yr 17eg ganrif. Aeth eraill i lleoedd fel Ohio i edrych am waith. Ffermio a chloddio glo, fel arfer. Ni’n gwybod be ni’n hoffi, on’d y’n ni?
Er mai dim ond tua 0.6 y cant o Americanwyr sydd o dras Cymreig, does dim dianc o’r ffaith ein bod ni wedi gwneud ein hunain yn gartrefol. Mewn mwy nag un ffordd. Tua’r un pryd roedd Cymry, llawer ohonyn nhw’n garcharorion, yn gadael eu marc ar wlad newydd arall: Awstralia. Yn llythrennol.
Yn 1865, cychwynnodd 153 o Gymry ar daith i dir newydd, un ble y bydden nhw’n rhydd i siarad eu hiaith ac addoli yn eu ffordd eu hunain. Patagonia. Ar ôl y cyfnod cynnar yma, roedd traddodiadau Cymreig yn dechrau diflannu ym Mhatagonia, tan i dwristiaid ddechrau cyrraedd yn yr 20fed ganrif, eisiau gweld “Cymru Newydd” gyda’u llygaid eu hunain. Heddiw, mae llawer ym Mhatagonia yn medru newid yn rhwydd rhwng Cymraeg a Sbaeneg.
Mae’n dangos nad yw cymunedau ar wasgar byth yn rhy annhebyg i’r famwlad. A’n bod ni erioed wedi bod yn dda iawn am aros yn ein hunfan.
Hanes diaspora
Mae pobl yn mudo am wahanol resymau. Mae rhai yn symud am resymau economiadd i wledydd gyda gwell cyfleoedd am swyddi a safon byw uwch. Mae eraill yn mudo i ddianc rhag erledigaeth neu i gael mwy o ryddid. Mae rhai mudwyr yn yn cael eu gorfodi i symud gan ddigwyddiadau fel rhyfeloedd a newyn.
Enghreifftiau o gymunedau diaspora
Cymunedau Cymreig yn Ne America
Glaniodd y 153 cyntaf o Gymry ym Mhatagonia ar fwrdd llong y Mimosa ar 28 Gorffennaf 1865. Roedden nhw wedi hwylio o Lerpwl i’r Ariannin i sefydlu trefedigaeth Gymraeg o’r enw Y Wladfa ymhell o ddylanwad diwyllianau eraill.
Dilynodd mwy o Gymry yn hwyrach yn enwedig yn y cyfnodau rhwng 1880-87 ac 1904-12. Roedd hyn yn bennaf oherwydd dirwasgiad ym meysydd glo Cymru.
Gwnaeth y Cymry eu cartref yn Nyffryn Chubut a godrefryniau’r Andes. Mae enwau Cymraeg megis Trelew, Dolavon (Dôl Afon) a Trevelin (Tre Felin) ar leodd ym Mhatagonia.
Mae’r gymuned yn dal i fodoli heddiw. Mae 50,000 o bobl o dras Cymreig ym Mhatagonia ac mae hyd at 5,000 ohonyn nhw’n siarad Cymraeg.
Cymunedau Gwyddelig yn yr Unol Daleithiau

Y diaspora Gwyddelig yn yr Unol Daleithiau yw un o’r mwyaf yn y wlad. Yn ôl astudiaeth US Census Bureau 2010 roedd 34.7 miliwn o bobl yn dweud eu bod o dras Gwyddelig – yr ail grŵp mwyaf ar ôl y rhai o dras Almaenig.
Mae pobl wedi bod yn symud o’r Iwerddon ers canrifoedd ond fe wnaeth y Newyn Mawr achosi allfudo ar raddfa enfawr yn y 1840au. Pan fethodd y cnwd tatws, bu farw un filiwn o bobl ac fe ymfudodd hyd at 2 filwin o bobl mewn ychydig dros ddeng mlynedd (1845-55). Symudodd y rhan fwyaf ohonyn nhw i Ogledd America ac i Brydain.
Er bod y rhan fwyaf o Americanwyr Gwyddelig erbyn hyn yn ail a thrydedd genhedlaeth, mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn eu treftadaeth Wyddelig o hyd. Mae Tourism Ireland yn amcangyfrif bod bron i ddwy filiwn o Americanwyr yn ymweld ag ynys Iwerddon bob blwyddyn.
Mae Dinas Efrog Newydd yn cynnal gorymdaith Dydd San Padrig fwya’r byd sy’n denu torf o ddwy filiwn. Mae Afon Chicago yn cael ei lliwio’n wyrdd i ddathlu nawdd sant yr Iwerddon.

Cymunedau Asiaidd yn y DU
Mae nifer o ddinasoedd yn y DU bellach yn gartref i ddiasporas Asiaidd o wledydd fel India, Pacistan a Bangladesh.
Mae’r berthynas rhwng y DU a’r gwledydd hyn yn ne Asia yn dyddio nôl i’r 1600au. Fe wnaeth y British East India Company sefydlu aneddiadau masnachu yn India, ac yn ddiweddarach daeth y wlad yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig.
Yn ôl Cyfrifiad 2011 pobl o gefndir ethnig Asiaidd oedd yr ail grŵp mwyaf o’r boblogaeth (7.5 y cant) yng Nghymru a Lloegr.
Mae llawer o ddylanwadau Asiaidd i’w gweld ar ddiwylliant ym Mhrydain. Mae’r rhain yn cynnwys bwyd Indiaidd sy’n boblogaidd iawn, a ffilmiau fel East is East a Bend it like Beckham sy’n edrych ar sut mae pobl o dras de Asiaidd yn integreiddio i fywyd ym Mhrydain.
Effeithiau cymunedau diaspora
Mae cymunedau diaspora yn gallu bod yn fanteisiol i’r wlad newydd ac i’r famwlad. Maen nhw’n cynnwys:
- mwy o amrywiaeth cymdeithasol a diwyllianol
- trosglwyddo sgiliau a gwybodaeth i’r wlad wreiddiol
- mwy o gydnabyddiaeth i'r famwlad
- mwy o fasnasch rhwng y wlad newydd a’r famwlad

More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3