Y Tuduriaid

Part of Dyniaethau - HanesChwyldro

Roedd y Tuduriaid yn frenhinol a oedd yn rheoli Cymru a Lloegr rhwng 1485 a 1603. Roedd y teulu’n cynnwys rhai o’r brenhinoedd a’r breninesau mwyaf enwog yn hanes Cymru a Lloegr.

  • Harri VII - 1485-1509
  • Harri VIII - 1509-47
  • Edward VI - 1547-53
  • Mari I - 1553-58
  • Elisabeth I - 1558-1603

Yn ystod y 118 mlynedd roedden nhw’n rheoli, cafodd newidiadau gwleidyddol, crefyddol, economaidd a chymdeithasol anferthol eu rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr.

Fideo - Y Tuduriaid

Erbyn 1485, roedd rhyfeloedd ffyrnig wedi bod yn cael eu hymladd am goron Lloegr am bron i 30 mlynedd. Roedd dau deulu yn brwydro am yr hawl i reoli’r wlad, sef teulu’r Lancastriaid a oedd yn defnyddio symbol y rhosyn coch, a theulu’r Iorciaid a oedd yn defnyddio symbol y rhosyn gwyn. O ganlyniad, cafodd y rhyfeloedd eu galw’n Rhyfeloedd y Rhosynnod.

Rhosyn coch (Lancastriaid) ar y chwith a rhosyn gwyn (Iorciaid) ar y dde

Harri VII - 1485-1509

Roedd Harri VII, neu Harri Tudur, yn perthyn i deulu’r Lancastriaid. Roedd yn Gymro a gafodd ei eni yng nghastell Penfro ar 28 Ionawr 1457.

Ei fam oedd Margaret Beaufort a’i dad oedd Edmund Tudur o Benmynydd, Ynys Môn. Roedd Harri yn un o Edward III a oedd yn Frenin Lloegr rhwng 1327 a 1377. Roedd e’n credu bod hyn yn golygu bod ganddo hawl i’r orsedd.

Yn Mehefin 1483, cafodd Rhisiart III o deulu’r Iorciaid ei goroni’n Frenin Lloegr. Roedd Harri Tudur eisoes wedi dianc i Lydaw, ond roedd cefnogaeth frwd iddo ddychwelyd i gipio’r goron.

Brwydr Harri Tudur am y goron

Yn Awst 1485, hwyliodd Harri Tudur oedd yn 28 oed mlwydd oed, o borthladd Harfleur yn Ffrainc gyda byddin o 2,000 o filwyr Ffrengig a glanio yn Bae’r Felin, Dale yn Sir Benfro llai na phythefnos yn ddiweddarach. Mae’n bosib ei fod wedi glanio fan hyn am fod cefnogaeth frwd i deulu’r Tuduriaid yn yr ardal. Roedd ei ewythr, Siasper Tudur, wedi cadw mewn cysylltiad gyda phobl yno.

Roedd Rishiart III yng nghastell Nottingham pan glywodd bod Harri wedi glanio, a’i ymateb oedd i wneud dim. Cymerodd yn ganiataol y byddai prif Cymru yn gweld Harri fel bygythiad ac yn ymosod arno.

Ond wnaeth hyn ddim digwydd. Cymerodd Harri lwybr annisgwyl drwy ganolbarth Cymru er mwyn cyrraedd Lloegr i hawlio’r goron. Ei fwriad oedd cael pobl leol i’w gefnogi, a chafodd groeso cynnes yn Hwlffordd, sef y dref fawr gyntaf ar ei daith.

Teithiodd Harri drwy ganolbarth Gymru gan gasglu milwyr a chefnogwyr ar ei ffordd i ymladd yn erbyn Rhisiart. Ar yr un pryd, teithiodd Syr Rhys ap Tomos, un o Arglwyddi Gwent, i gwrdd â Harri i’w helpu gyda’i fyddin o 2,000 o ddynion.

Erbyn i’r ddau gyrraedd y Trallwng, roedd gan Harri tua 5,000 o filwyr i frwydro’n erbyn Rhisiart III.

Map yn dangos taith Harri Tudur drwy Gymru gan stopio yn Bae’r Felin yn Dale, Hwlffordd, Aberteifi, Aberystwyth, Machynlleth, Cefn Didoll, Amwythig, Tamworth a Maes Bosworth
Figure caption,
Taith Harri Tudur drwy Gymru i gyrraedd Bosworth

Brwydr Bosworth

Roedd Brwydr Bosworth yn un o’r brwydrau pwysicaf yn hanes Cymru a Lloegr.

Ar ôl clywed am lwyddiant Harri yn recriwtio milwyr, dechreuodd y Brenin Rhishiart III gasglu ei fyddin Iorcaidd o 10,000 o ddynion yng Nghaerlŷr. Fe wnaeth y ddwy fyddin gwrdd ger Bosworth.

Enillodd byddin Harri’r frwydr gyda help milwyr o Gymru. Fe hawliodd y goron a daeth yn Frenin Harri VII. Priododd Elisabeth, a oedd yn dod o deulu’r Iorciaid, a llwyddodd i uno’r Lancastriaid a’r Iorciaid drwy’r briodas. Cafodd petalau gwyn eu hychwanegu i rosyn coch y Lancastriaid i greu Rhosyn Tudur.

Llun yn dangos Rhosyn Tudur
Image caption,
Rhosyn Tudur

Harri VIII - 1509-1547

Portread o Harri VIII

Yn dilyn marwolaeth Harri VII, daeth ei fab Harri VIII yn frenin.

Roedd yn enwog am ei chwe gwraig sef:

  1. Catrin o Aragón -
  2. Ann Boleyn -
  3. Jane Seymour - bu farw tra roedd yn briod â Harri
  4. Ann o Cleves - ysgariad
  5. Catrin Howard - pendoriad
  6. Catrin Parr - bu farw ar ôl i Harri farw
Portread o Harri VIII

Deddfau Uno

Er mwyn gallu rhoi trefn ar bethau a gwthio ffydd Brotestannaidd newydd Harri ymhellach, cafodd Deddfau Uno eu pasio gan senedd Lloegr yn 1536 ac 1543. Nod y deddfau oedd uno Cymru a Lloegr o ran iaith, arferion a gweinyddiaeth.

Roedd y Deddfau yn:

  • rhannu Cymru yn 13 o siroedd
  • rhoi 27 o aelodau seneddol i Gymru
  • dileu'r hen gyfreithiau Cymreig a rhoi cyfreithiau Seisnig yn eu lle
  • sefydlu llysoedd i helpu cadw cyfraith a threfn
  • gwneud Saesneg yn unig iaith swyddogol Cymru

Er i Harri VIII fod yn briod â’i wraig, Catrin o Aragon am 24 o flynyddoedd, penderfynodd yn 1533 ei fod eisiau ysgariad gan nad oedd wedi cael mab ganddi.

Doedd y Pab, arweinydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ddim yn fodlon i Harri ddod â’i briodas i ben. Felly, penderfynodd Harri dorri’n rhydd o’r Eglwys Gatholig a sefydlu Eglwys Lloegr yn lle.

O dan y drefn newydd hon, trodd y wlad yn Brotestannaidd a Harri VIII oedd arweinydd yr Eglwys. Roedd yn ystyried ei hun fel llais gorchmynion Duw ar y Ddaear.

Dros weddill cyfnod y Tuduriaid, bu anrhefn wrth i grefydd y wlad newid yn ôl ac ymlaen rwng Protestaniaeth a Chatholigiaeth gan arwain at wrthryfela ffyrnig.

Edward VI - 1547-53

Portread o Edward VI

Plentyn 9 mlwydd oed oedd Edward VI pan ddaeth yn frenin Lloegr, yn dilyn marwolaeth ei dad, Harri VIII.

Gan mai plentyn oedd Edward, roedd y wlad yn cael eu llywodraethu gan oedd yn cael ei arwain gan ei ewythr, Edward Seymour ac yna’n ddiweddarach gan John Dudley.

Trodd y wlad yn fwy Protestannaidd yn ystod ei a chafodd Llyfr Gweddi Cyffredin ei gyflwyno, a oedd yn cynnwys y drefn newydd ar gyfer gwasanaethau crefyddol i ddisodli’r hen arferion Catholig.

Portread o Edward VI

Mari I - 1553-58

Portread o Mari I

Bu Mari’n byw yn bennaf yn ne a dwyrain Lloegr, heblaw am y dair blynedd a dreuliodd yng Nghymru fel plentyn.

Fe wnaeth Mari droi’r wlad yn ôl i fod yn wlad Gatholig. Roedd hi’n anghyfreithlon i fod yn Brotestant yn ystod ei theyrnasiad.

Cafodd dau Brotestant eu llosgi am , sef yr Esgob William Ferrar yng Nghaerfyrddin a’r pysgotwr, Rawlins White yng Nghaerdydd.

Portread o Mari I

Elisabeth I - 1558-1603

Portread o Elisabeth I

Yn wahanol i’w llys-chwaer, Mari, roedd Elisabeth yn Brotestant brwd. Unwaith daeth hi’n frenhines, newidiodd grefydd y wlad unwaith eto i fod yn Brotestannaidd.

Mae Elisabeth yn cael ei chofio’n bennaf yng Nghymru am ei gorchymyn i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.

Yn 1536, roedd Elisabeth yn poeni fod y Cymry yn parhau i fod yn ffydlon i grefydd Catholig ei llys-chwaer Mari, felly mynodd y dylai’r Beibl fod ar gael yn iaith frodorol y Cymry.

Erbyn 1588, roedd William Morgan wedi cyflanwi’r dasg o gyfieithu’r Beibl cyfan i'r Gymraeg.

Portread o Elisabeth I

Gweithgaredd - Y Tuduriaid

Cwis - Y Tuduriaid

More on Chwyldro

Find out more by working through a topic